Croeso i wefan Y Bartneriaeth Awyr Agored — Read this in English

Siarad â ni

Open
X

Cyfarwyddwyr

Dyma rhestr o'n Cyfarwyddwyr:

Amanda Davies

Amanda Davies

Cadeirydd

​Mae Amanda wedi cyfrannu at y Bartneriaeth Awyr Agored ers iddo gael ei sefydlu.

Mae hi bellach yn Rheolwr ar y Gwasanaeth Adfywio Cymunedol yng Nghyngor Gwynedd a chyn hynny wedi bod yn Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Hamdden ym Mhrifysgol Bangor a Swyddog Datblygu Chwaraeon. Mae hi'n byw yn Gerlan ac yn fam i ddau o blant. Mae'n mwynhau nifer o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys mynydda, sgio a hwylio. Ond dyddiau 'ma mae'n treulio ei hamser hamdden yn gyrru ei phlant o gwmpas y wlad i gystadlaethau hwylio!

Paul Airey

Paul Airey

Is-Gadeirydd

Mae gyrfa Paul yn yr awyr agored wedi datblygu o fod yn ddyn cynnal a chadw yn y 70au i fod yn ymgynghorydd Addysg Awyr Agored i Wasanaethau Plant sir Gaer  a gwasanaethau plant Halton. Yn ystod ei gyfnod o addysgu, bu’n gadeirydd Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored (OEAP), yn gadeirydd Mountain Training Cymru, a chadeirydd rhanbarthol o Gymdeithas Penaethiaid  Canolfannau Addysg Awyr Agored   (AHOEC).

Mae Paul hefyd yn ymddiriedolwr i Gyngor dysgu tu allan i’r dosbarth (LOtC) ac wedi helpu i ddatblygu bathodyn ansawdd a marc safon i ysgolion LOtC. Mae’n ymddiriedolwr i’r Cyngor Astudiaethau Maes ac yn llywodraethwr mewn ysgol uwchradd yn sir Gaer, ysgol ble mae rhan fawr o’r cwricwlwm yn cael ei ddysgu drwy’r awyr agored. Bu rhai o’i swyddogaethau yn cynnwys cadeirio Bwrdd Hyfforddi Arweinwyr Mynydd yng Nghymru a bu’n un o awduron gwreiddiol y cyfarwyddyd cenedlaethol i’r OEAP. Mae Paul wedi bod yn aelod o AAIAC ac yn rhan o’r fforwm rheoli. Mae’n credu’n gryf mewn dysgu gydol oes- mae wedi dysgu Cymraeg a chwblhaodd gwrs MA mewn addysg ym Mhrifysgol Bangor yn 2000. Bu’n rhan o’r grwpiau datblygu i APIOL a LPIOL ac mae’n gymrawd i Sefydliad ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored.

Ifer Gwyn

Ifer Gwyn

Cyfarwyddwr

​Mae Ifer Gwyn wedi gweithio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ers saith mlynedd bellach. Swyddog Datblygu Cynaliadwy oedd ar y dechrau ond erbyn hyn fo ydi Prif Swyddog Polisïau. Er bod ganddo gyfrifoldebau mewn sawl maes, mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn materion hamdden, twristiaeth, trafnidiaeth ac egni adnewyddol. Yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr i’r Bartneriaeth Awyr Agored, mae Ifer yn cynrychioli’r Awdurdod ar nifer o bartneriaethau hamdden a thwristiaeth - yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Yn ei amser hamdden mae  Ifer yn gwirfoddoli gyda’r RNLI yng Nghricieth fel Aelod o’r Bad Achub a Swyddog y Wasg. Mae o hefyd yn hoff iawn o feicio mynydd a beicio ar y ffordd ac arferai chwarae rygbi

Joan Edwards

Joan Edwards

Cyfarwyddwr Cyllid

​Mae Joan Edwards, yn Gyfrifydd  Siartredig Cymwys gyda 25 mlynedd o brofiad mewn amrywiaeth o sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae hi hefyd yn gydberchennog ar Bryn Bella, llety ‘gwyrdd’ sydd wedi ennill gwobrau, ym Metws y Coed.

Mae Joan yn gyn ymddiriedolwr Sefydliad Achub Dyffryn Ogwen ac Elusendai Llanrwst. Mae hi’n mwynhau nifer o weithgareddau awyr agored,  yn cynnwys rhedeg (mae hi wedi rhedeg Marathon Eryri ddwywaith), beicio, dringo, cerdded a threiathlon.

Jo Owen

Jo Owen

Cyfarwyddwr