I weld ein cylchlythyr diweddaraf sy’n manylu ar yr holl waith sy’n cael ei wneud gan y Bartneriaeth Awyr Agored ar draws yr DU darllenwch  ein cylchlythyr diweddaraf isod.

Cylchlythyr Rhagfyr ’23

Cylchlythyr Hydref ’23

Cylchlythyr Mehefin ’23

Cylchlythyr Gwanwyn ’23

 

Croeso i adran newyddion diweddaraf ein gwefan, lle byddwch yn gweld bod cryn dipyn wedi bod yn digwydd dros y misoedd diwethaf!

Un o’r pethau cyntaf i’w adrodd yw ein bod wedi bod yn cydweithio’n ddiweddar â North Wales Active, a byddwn yn penodi Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru. Bydd y swyddog yn canolbwyntio ar y Gogledd Ddwyrain yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, gyda’r disgrifiad swydd a’r hysbyseb yn barod i’w hanfon allan yn fuan iawn.

Hoffem hefyd anfon ein llongyfarchiadau gwresog a’n dymuniadau gorau i Bethan o’r tîm, a’i phartner Eifion ar y newyddion bod eu plentyn cyntaf ar ei ffordd. Bydd Dan yn cymryd drosodd rôl y swyddog yn ystod yr absenoldeb mamolaeth.

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gyffrous ac yn falch i allu cyhoeddi, fel cam 2 o’n rhaglen sydd wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ein bod wedi dewis ac wedi cael cyfarfodydd cychwynnol gyda’n pedair ardal newydd, sef:

Coventry City
North Yorkshire – yn canolbwyntio ar Scarborough
Plymouth – gan weithio gyda Thrive Plymouth
Gogledd Iwerddon – yn canolbwyntio ar yr AONB The Sperrins.

Dewiswyd y pedwar yma wedi proses dendro ble’r oedd 11 ardal ar draws y Deyrnas Unedig yn ceisio cael eu dewis. Cynhaliodd aelodau o dîm Y Bartneriaeth Awyr Agored a’r Ymddiriedolwyr werthusiad manwl a phroses gaffael i ddewis y pedwar olaf. Dywedodd Tracey Evans, y prif weithredwr, ar ran Y Bartneriaeth Awyr Agored: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ddatblygu partneriaethau gyda’r bedair ardal newydd, a phob un yn dod â materion a heriau sy’n newydd i’r Bartneriaeth Awyr Agored ond mae pob un hefyd yn cynnig cyfle anhygoel i helpu a i annog pobl o lwybrau bywyd amrywiol iawn i oresgyn rhwystrau ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel diddordeb gydol oes.”

Yn dilyn y model sydd wedi ei sefydlu yng ngham 1, sydd yn cael ei ddarparu’n llwyddiannus yn Swydd Aeron, Cumbria (Whitehaven) a Gogledd Iwerddon (Newry, Mourne and Down/Armagh City Banbridge and Craigavon/Ards and North Downs) byddwn yn penodi swyddog datblygu ym mhob ardal newydd, i ddechrau tua dechrau mis Chwefror. Tasg gyntaf y swyddogion newydd fydd i ymgymryd â dadansoddiad bylchau ac anghenion (‘gaps and needs analysis’) ac wedyn i gynhyrchu rhaglen waith i’w chytuno arni a’i chefnogi gan y Grwpiau Rhanddeiliaid ym mhob ardal.

Cefnogaeth Clybiau

Mae ein rhaglen Cefnogaeth Clybiau yn helpu clybiau Awyr Agored i hyfforddi eu gwirfoddolwyr. Os oes ganddoch chi wirfoddolwyr sy’n barod i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi er mwyn helpu y clwb, gallwn ni eu helpu nhw!

Gall gwirfoddolwyr fynychu cyrsiau dan nawdd, yn golygu mai dim ond £20 y dydd fydd angen ei dalu. Mae’r holl fanylion ar y dudalen Cefnogaeth Clybiau: Cefnogaeth Clybiau – The Outdoor Partnership (partneriaeth-awyr-agored.co.uk)

Neu cysylltwch efo’n Swyddog Gwirfoddoli  sian.williams@partneriaeth-awyr-agored.co.uk am fwy o fanylion.

Cychlythur Gwanwyn Yr Partneraieth Awyr Agored 2023
Cychlythur Gwanwyn Yr Partneraieth Awyr Agored 2023
News from the regions

Canolbarth Cymru

Haf o Hwyl
Bu 294 o bobl dan 25 oed a’u teuluoedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar draws Powys a Cheredigion, diolch i’r Haf o Hwyl a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, a hynny mewn 4 rhaglen:  Inclusive Adventure, This Family’s Adventure, Emphasis on Wellbeing ac Open Activities. Fe wnaethon ni’r mwyaf o’r gweithgareddau awyr agored sydd ar gael ar stepan drws pobl gyda phawb yn cael hwyl yn arfordira, syrffio, dringo creigiau, padl-fyrddio ar eu traed, cerdded ceunentydd, canŵio, caiacio, beicio a chrwydro’r coed! Diolch i Everyday Play, Llangorse Multi-Activity Centre, Parkwood Outdoors, Red Ridge Outdoor Centre, Argoed Lwyd, Adventure Beyond, Monlife Outdoor, Brecon Canoe Club, Antur Llain, Quest 88, Tonic Surf, Leanne Bird Wellbeing and Adventure a’r Lakeside Boathouse am ddarparu anturiaethau mor wych!

Agor Drysau i’r Awyr Agored
Ym mis Hydref bu’r sesiwn olaf o’r rhaglen 8 wythnos o gerdded bryniau ar gyfer y rhai hynny sy’n profi anawsterau iechyd meddwl a gymerodd le yn Y Drenewydd. Mae Helen Menhinick o Bryn Walking a’i thîm o arweinwyr taith gerdded wedi bod yn cynnal sesiynau blaengar ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan, ac mae dau o’r cyfranogwyr yn bwriadu mynd ymhellach gan ddilyn hyfforddiant mordwyaeth ac arweinyddiaeth eu hunain er mwyn atgyfnerthu eu sgiliau a’u cyflogadwyedd. Yn y cyfamser, mae Drover’s Cycles, Dirt She Nomad a Clare Muir wedi bod yn cynnal sesiynau blasu e-feicio yn Y Drenewydd a’r Trallwng i gynnig y cyfle i drigolion lleol roi tro arnynt ar y trac a’r gamlas. Ariannwyd y ddau brosiect gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ac fe’i gweinyddir gan Gronfa Menter Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.

Rhaglen Fentora Canolbarth Cymru
Rydym newydd gofrestru ein recriwtiaid cyntaf ar gyfer y rhaglen Llwybrau i Gyflogaeth yng Nghanolbarth Cymru diolch i Andy Cummings, sylfaenydd Manzoku Climbing and Mountaineering, sydd wedi cynnig cyfle unigryw i lawiad o unigolion lwcus, sef 6 mis o ddatblygiad fel hyfforddwyr i ddathlu penblwydd Manzoku yn 25 oed. Dechreuodd y rhaglen ym mis Medi gyda digonedd o hyfforddiant, cysgodi, a chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer yr hyfforddeion ac maent wedi mynd i’r afael yn barod gyda sesiynau hyfforddi a chysgodi staff, gyda’u hyfforddiant RCI a’u cwrs Climbing for All i ddod yn y misoedd nesaf. Ewch i’r dudalen we i gyfarfod y recriwtiaid: Rhaglen Mentora Canolbarth Cymru

Y Clwb Dringo Cynhwysol
Diolch i gyllid gan y Morrisons Foundation, mae Canolbarth Cymru a Gwent ar fin lansio eu sesiynau clwb dringo cynhwysol cyntaf ar ôl Hanner Tymor yr Hydref yng Nghanolfan Aml-Weithgaredd Llangors, ar gyfer pobl sydd â namau synhwyraidd neu ddeallusol neu gyflyrau iechyd cronig. Er mwyn gwneud sesiynau’n fwy cynaliadwy wrth symud ymlaen, cafodd rhieni a staff cefnogol y cynnig i fynychu cwrs Cymhorthydd Dringo, wedi ei ariannu, gyda Manzoku Climbing and Mountaineering er mwyn iddynt allu helpu gyda gosod y belaiau yn ystod y sesiynau. Bydd sesiynau ar gael ar gyfer rhai sy’n defnyddio cadair olwyn a’r rhai sydd ddim. Gallwch fy e-bostio i (Bethan), neu Brett am fwy o wybodaeth.

Dringo i bawb
Prosiectau Cymru

Gwent

Y Rhaglen Therapi Antur
Gwelodd fis Medi ddechrau ein Rhaglen Therapi Antur beilot yn Ngwent. Bydd y rhaglen yn rhedeg dros y chwe mis nesaf ac yn ffocysu ar brescripsiynu cymdeithasol gweithgareddau antur awyr agored fel therapi ar gyfer gwella iechyd meddwl a llesiant.

Roedd ein sesiwn cyntaf yn cynnwys taith gerdded aml-antur, yn cynnwys cerdded mewn coetir, sgramblo ceunant ac, i orffen, ogofa. Mae’r cyfranogwyr yn gwella o gyflyrau iechyd meddwl sylweddol ac wedi eu rhagnodi / cyfeirio i’r rhaglen gan weithwyr proffesiynol y Bwrdd Iechyd ac Ymarferwyr Adferiad.

Yn dilyn llwyddiant y gweithgaredd peilot hwn, mae’r rhaglen beilot bresennol yn llawn, ac rydym wrthi’n ceisio am gyllid ar gyfer y rownd nesaf.

Y Rhaglen Llwybrau i Gyflogaeth
Diolch i’r cais llwyddiannus am gyllid o gronfa Community Foundation Wales y Principality, gallwn gynnal 2 gyfres arall o’n rhaglen cyflogadwyedd awyr agored yng Ngwent!

Mae’r rhaglen ar gyfer pobl 16-40 oed ar draws Gwent, gan dargedu’r rhai hynny sydd yn ‘NEET’ (ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant) neu sydd mewn risg o fod yn NEET.

Mae cyfres newydd gyntaf y rhaglen yn dechrau ym mis Tachwedd yn ardal sir Fynwy y rhanbarth. Bydd ail gyfres y rhaglen yn rhedeg o fis Ionawr yn ardal Caerffili.

Am fwy o wybodaeth, ac ar gyfer cyfeirio, cysylltwch â Swyddog Gweithgareddau Awyr Agored Gwent: brett.mahoney@outdoorpartnership.co.uk

 

Antur y Ferch Hon
Mae ein rhaglen ar gyfer merched a genethod yn parhau i fod yn boblogaidd yn y rhanbarth, gyda’r cyfleoedd i gyd wedi eu llenwi a rhestrau aros. Dros y ddau fis diwethaf, bu nifer o deithiau ogofa i Ogof Clogwyn a Porth Yr Ogof, taith dau ddiwrnod yn y Mynydd Du a Chwrs Datblygu Rhedeg Mynydd. Mae llawer mwy o gyfleoedd wedi’u cynllunio ar gyfer y gaeaf.

Y Clwb Dringo Cynhwysol
Roeddem yn llwyddiannus mewn derbyn cyllid gan y Morrisons Foundation i gynnal rhaglen clwb dringo cynhwysol 10 wythnos ar gyfer rhanbarthau Canolbarth a De Ddwyrain Cymru. Mae’r rhaglen ar gyfer pobl sydd â namau corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol, neu gyflyrau iechyd cronig, a bydd yn dechrau ar ôl Hanner Tymor yr Hydref yng Nghanolfan Ddringo Llangors. Mae’r arian hefyd wedi ein galluogi ni i gynnig y cyfle i rieni a gofalwyr i wella eu sgiliau ac i gael profiad a chymwysterau dringo, gyda’r gobaith y bydd hyn yn golygu y bydd y clwb yn gynaliadwy yn y tymor hirach ac y bydd y cynnig o ddringo cynhwysol yn yr ardal yn un parhaol.

Cyfranogiad ar Lawr Gwlad
Diolch i’r cyllid Haf o Hwyl, roeddem yn gallu cynnig rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau awyr agored ar gyfer plant a phobl ifanc ar draws Gwent yn ystod gwyliau’r haf. Arweiniodd hyn i 452 yn cymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored, gyda 5 diwrnod yn benodol ar gyfer genethod a 9 diwrnod yn benodol ar gyfer rhai â chyfyngiadau symudedd a chyflyrau niwroamrywiaeth.

Rhaglen Addysgu Hyfforddwyr
Mae ein rhaglen addysg ar gyfer hyfforddwyr ar gael i gefnogi clybiau awyr agored ar llawr gwlad er mwyn gwella sgiliau gwirfoddolwyr i wella cyfranogiad mewn chwaraeon antur awyr agored. Hoffem longyfarch pedwar o’r gwirfoddolwyr anhygoel o Glwb Rhedeg Mynydd y Mynydd Du ar gyflawni eu cymhwyster Arweinydd Mynydd, diolch i’r cyllid a’r gefnogaeth sydd ar gael. Mae’r gwirfoddolwyr yn cynnal adran iau y clwb rhedeg mynydd o’r enw’r ‘Mini Dragons’ sy’n anelu i gael plant i ymgysylltu gyda natur drwy’r gamp o redeg mynydd.

Er mwyn darganfod sut y gall eich clwb awyr agored chi gael cefnogaeth gan Y Bartneriaeth Awyr Agored, cysylltwch gyda’ch swyddog datblygu rhanbarthol os gwelwch yn dda.

Diweddariadau eraill ar gyfer Gwent
Mae wedi bod yn ddechrau positif i’r flwyddyn academaidd newydd, gan weithio gyda nifer o sefydliadau newydd. Yn ogystal â datblygu ein rhaglenni craidd, rydym yn cefnogi Ysgol Gwynllyw i ddatblygu cynnig awyr agored iaith Gymraeg, rydym wedi cefnogi Glitter Sisters Cymru i gael mynediad i chwaraeon awyr agored am y tro cyntaf, ac wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio gydag ymarferwyr Awtistiaeth, rhaglenni Cyflogadwyedd a Fforwm Lles Actif Colegau Cymru. Wrth arwain at y Nadolig, byddaf yn cynorthwyo Coleg Gwent, Antur Awyr Agored Bywyd Mynwy (MonLife) ac Adran Addysg Mynwy i ddarparu digwyddiad awyr agored ar gyfer dysgwyr addysg bellach yn ogystal â pharhau i ddatblygu ein rhaglenni craidd.

Gyda’r gaeaf yn prysur agosáu, mae’n hen bryd i mi fynd allan am ddiwrnod hir arall o redeg yn y mynyddoedd! Er mwyn gael fy therapi antur fy hun, rwyf yn ymarfer ar hyn o bryd i roi cais ar y South Wales Traverse yng nghanol y gaeaf, gan obeithio cwblhau’r daith 117km sy’n cynnwys 31 copa ac yn esgyn 6,000m mewn llai na 24 awr.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn, yn ein cylchlythyr rhanbarthol cyntaf, i ddiolch i’n holl ddarparwyr, ein partneriaid a’n rhanddeiliaid am ein cefnogi ni i wella mynediad i weithgareddau awyr agored ar gyfer trigolion Gwent.

Boed eich amser gyda natur wedi ei dreulio’n cerdded yn y parc, yn badl ysgafn i lawr afon, neu’n ddiwrnod hir yn y mynyddoedd, gobeithiaf y cewch Hydref anturus!

Haf o Hwyl
Prosiectau Cymru

Bae Abertawe

Y Rhaglen Presgripsiynu Cymdeithasol Tir i’r Môr: Adferiad a’r Bartneriaeth Awyr Agored
Rydym yn gweithio gydag Adferiad Recovery a’r Tîm Ymyrraeth Gynnar o fewn Adferiad i gynnig y cyfle i 6 person ifanc 18-34 oed i anturio yn yr awyr agored drwy beth rydyn ni’n ei alw’n ‘Rhaglen Beilot Presgripsiynu Cymdeithasol Tir i’r Dŵr’ am 5 wythnos.

Ymchwil
Mae’r elusen iechyd meddwl Mind yn cymeradwyo therapi eco eisioes. Dywed eu gwefan fod: “Therapi eco yn fath ffurfiol o driniaeth therapiwtig sy’n cynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn y byd natur.”

Dywed Dr Heather Massey, o Adran Gwyddoniaeth Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff Prifysgol Portsmouth: “Yn yr astudiaeth newydd hon rydym yn edrych ar nofio yn yr awyr agored fel rhan o bresgripsiynu cymdeithasol, sy’n edrych i gefnogi aelodau o’r gymuned sydd wedi cyfeirio eu hunain neu wedi cael eu cyfeirio gan nifer o sefydliadau proffesiynol i weithgareddau cymunedol fydd yn eu cefnogi.”

Adborth gan y Bobl Ifanc

  • Roeddwn yn teimlo’n falch o bawb yn y grŵp
  • Roeddwn yn teimlo’n greadigol
  • Roeddwn yn teimlo’n anturus
  • Cynhyrfus, Balch, Ysbrydoledig, Cyflawnedig, Ymlaciedig, Heddychlon
  • Yn y sesiwn cyntaf, roeddwn yn Hapus o wybod sut i danio tân gydag offer
  • Roeddwn yn teimlo fy mod yn cymryd rhan, yn hapus, yn gynnes, yn dawel
  • LM: newidiodd ei meddwl gan ddweud mai hon oedd ei wythnos orau! Roedd hi wedi cyflawni cymaint – fe ddaeth er nad oedd hi eisiau dod, bwytaodd y stiw oedd wedi ei goginio ar y tân er nad oedd hi eisiau gwneud, ac fe nofiodd yn y môr er ei bod hi wedi dweud nad oedd ond am fynd at ei phengliniau. Cafodd LM beth trafferth gyda’r cerdded, ond ni adawodd i hynny ei stopio. Mae’n teimlo’n falch o’i hymroddiad a’i phenderfyniad ac wedi gweld llawer mwy o werth i’r rhaglen nag oedd hi wedi ei feddwl.

Bydd y prosiect hefyd i’w weld ar rhaglen ‘Coast and Country’ yr ITV am 7yh ar Dachwedd 18fed – cofiwch wylio!!

Bae Abertawe
Bae Abertawe
Bae Abertawe

Gogledd Cymru

Gaeaf Llawn Lles
Dros dri penwythnos ddiwedd Ionawr a dechrau Chwefror, cynhaliwyd chwe diwrnod gweithgareddau y rhaglen Gaeaf Llawn Lles yng Nghanolfannau Arete, CMC Adventure a Rhos Y Gwaliau. Cymerais y cyfle i ymweld â’r dair canolfan a chymryd rhan ar y dyddiau. Er y tywydd anffafriol bu ymateb da iawn gyda bron pob lle wedi ei archebu, a chanran uchel o’r plant wedi troi fyny ar bob diwrnod.

Yn ogystal â llwyddiant y diwrnodiau, roedd yn ddefnyddiol iawn cael cyfarfod darparwyr gweithgareddau awyr agored er mwyn sefydlu cysylltiadau a fydd yn ddefnyddiol yn y dyfodol.

Grant Cefnogi Ieuenctid
Bûm yn llwyddiannus mewn ennill grant sylweddol i drefnu gweithgareddau awyr agored ar ran Y Gwasanaeth Ieuenctid. Nod y grant oedd i wella iechyd meddwl a llesiant unigolion yn dilyn blynyddoedd anodd Covid. Lluniais ddwy raglen sef Rhaglen Awyr Agored Ysgolion a Gwasanaeth Llogi am Ddim 18-25. Yn fuan iawn roedd y darparwyr yn derbyn llu o geisiadau gan ysgolion, ac mi barhaodd hyn trwy Chwefror ac i fewn i fis Mawrth.

Erbyn diwedd Mawrth, roedd dros 250 o blant wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored. Mae’r adborth rydym wedi ei dderbyn hyd yma yn galonogol iawn, a chanlyniad yr holiaduron a ddarparwyd yn dystiolaeth o fudd y gweithgareddau ar iechyd meddwl a llesiant unigolion.

Haf o Hwyl
Fis Awst eleni, bu disgyblion o Ysgol y Moelwyn yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau, wedi eu hariannu gan grant Haf o Hwyl. Roedd pwyslais mawr ar drefnu gweithgareddau mor lleol â phosib, er mwyn amlygu yr adnoddau naturiol. Aethant i Ogofau, Cerdded Afon, Beicio Mynydd, Adeiladu Rafft a Padl-fyrddio.

Cynllun Gwirfoddoli Caru Eryri
Dros yr haf 2022, roedd y Bartneriaeth Awyr Agored yn rhan o raglen Caru Eryri, oedd yn cynnig cyfleoeddgwirfoddoli ar draws y Parc Cenedlaethol.

Cynhaliwyd diwrnodau Caru Eryri mewn amryw o leoliadau, a bu ein gwirfoddolwyr anhygoel wrthi’n cynghoriymwelwyr am lwybrau ac amodau, clirio sbwriel o ardaloedd prysur, a mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadwllwybrau.

Gyda dros 500 o bobl wedi cofrestru i’r cynllun, o’r rheiny, mae 117 o wirfoddolwyr prysur wedi treulio 2441 awrallan mewn gwahanol leoliadau, gan gadw ardaloedd hardd yn lân a chadw ymwelwyr yn ddiogel.

Roedd diwrnodau yn cael eu cynnal mewn llefydd fel Llyn Ogwen ac Idwal, llwybrau Llanberis, Rhyd Ddu a Cwellyn o’r Wyddfa, Nant Gwynant a Llyn Dinas a Chapel Curig.

Cynhaliwyd sesiynau o leiaf 3 gwaith yr wythnos, yn bennaf ar benwythnosau, ond gyda rhai dyddiau canolwythnos hefyd, i wneud y gorau o gyfnod tawelach ar gyfer prosiectau fel cynnal a chadw llwybrau troed.Digwyddodd hyn o’r Pasg tan fis Hydref!

Yn 2022, maent wedi casglu swm anhygoel o 1044kg o sbwriel o’r ardaloedd hardd yma! Mae hyn yngyfanswm o 469 bag o sbwriel! Swm anhygoel ac mae ein diolch ni yn enfawr i bob un gwirfoddolwr.

Dyma’r ail flwyddyn i Caru Eryri fod yn helpu gyda’r dasg o ofalu am ein parc cenedlaethol hardd; Prosiect addechreuodd yn wreiddiol mewn ymateb i’r niferoedd enfawr o ymwelwyr a oedd yn ymweld â’r ardal yn dilyncyfnodau clo. Ynghyd â gwaith o 2021, mae dros 150 o wirfoddolwyr wedi treulio dros 230 o ddiwrnodau allanac wedi clirio dros 2000kg o sbwriel – mae hynny dros 2 dunnell!!

Mae’r prosiect hwn yn rhaglen waith partneriaeth ar y cyd â Pharc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Eryri a’rYmddiriedolaeth Genedlaethol, ac rydym wir yn gobeithio parhau â’r gwaith y flwyddyn nesaf, os y byddwn ynllwyddo gyda cheisiadau am ariannu. Mae croeso i wirfoddolwyr newydd ymuno unrhyw amser, a dylai unrhywun sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gadw llygad ar ein gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol igael y newyddion diweddaraf yn 2023!

Swydd Ayr

Mae Rhaglen Ddringo yn Above Adventure, gyda’r rhaglen nos Lun wedi ei thargedu a rhaglen ddydd Sadwrn ar gyfer y cyhoedd. Mae’r rhaglen ddringo a bowldro ar nos Lun yn cynnig bloc misol rheolaidd o hyfforddiant i grwpiau lleol, gyda grwpaiu o Irvine Boys Brigade, Girvan Youth Clubs, Cumnock, Yip World Group, a’r Ayr and District Sea Cadets wedi cymryd rhan dros y 6 mis diwethaf.

Mae hefyd y sesiynau nofio dŵr agored Barassie, sy’n rhaglen wythnosol, wedi’i hariannu, gyda hyfforddwr cymwys yn cefnogi nofio dŵr agored yn y môr ar gyfer y cyhoedd.

Mae’r prosiect adeiladu cwch rhwyfo arfordirol yn gwneud cynnydd da, gyda sied gychod  Y Bartneriaeth Awyr Agored Swydd Aeron wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf ac amrywiol gychod yn cael eu hadeiladu, eu hatgyweirio neu i mewn ar gyfer gwaith cynnal a chadw’r gaeaf. Daw disgyblion a myfyrwyr o ysgol a choleg lleol i mewn yn wythnosol i ddysgu’r sgiliau a’r grefft o weithio gyda choed, gan ddysgu’r sgiliau gan y genhedlaeth hŷn. Mae’r prosiect wedi derbyn canmoliaeth gan y sefydliad Generations Working Together am fod yn brosiect gwych rhwng cenedlaethau.

I orffen, mae rhaglen hyder a iechyd meddwl sydd wedi ei seilio yn yr ysgol wedi dechrau gyda chefnogaeth Y Bartneriaeth Awyr Agored yn nghanolfan awyr agored Castle Semple Outdoor Centre a phobl ifanc yn beicio, cyfeiriannu a chanŵio.

Swydd Ayr
Swydd Ayr
Swydd Ayr

Cumbria

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn ariannu teithiau cerdded misol dan arweiniad Esther Foster. Maent yn mwynhau golygfeydd a cherdded bryniau Gorllewin Cumbria ac yn addas ar gyfer pob gallu.

Dyma ychydig o hanes ein taith gerdded ddiweddar. Cawsom ddiwrnod anhygoel, gyda 10 o ferched hyfryd yn ymuno â ni i grwydro Lowther. Daeth yr haul allan ac roedd yn ddiwrnod anfarwol.

Gwnaethom rhywfaint o sgiliau mordwyo, gyda digonedd o sgwrsio, treulio llawer o amser yn dotio at liwiau anfarwol yr hydref, profi popeth o lwybrau coedwig llydan i dir corsiog a mwdlyd, dod o hyd i lwybrau, cyrraedd copa bach hyfryd (Swarth Fell), a bu llawer o chwerthin ac anturiaethau ar hyd y daith.

Rhan mwyaf anturus y diwrnod oedd sylweddoli fod dwy o’r pontydd troed wedi eu golchi i ffwrdd yn y dyffryn rhwng Dent Fell a Lowther Park. Cyn pen dim roedd pawb wedi tynnu eu hesgidiau a’u sanau, wedi cerdded ar draws trwy’r dŵr, ac yn camu ymlaen yn droednoeth tua’r nant nesaf.

Bu’n rhaid defnyddio amrywiaeth o ddarnau o wisg i sychu ein traed wedyn, ac roedd yn wych gweld tîm mor hyfryd yn cael diwrnod allan ardderchog ac yn cofleidio natur. Felly os oes unrhyw un yn cerdded ar hyd Nannycatch Beck, cofiwch fynd â welingtons!

Os hoffech gymryd rhan, ewch i’n gwefan am fwy o fanylion.

Gogledd Iwerddon

Draw yng Ngogledd Iwerddon, cawsom ddiwrnod ardderchog gyda ‘dippers and strippers’ Killyleagh. Roedd hyn yn cynnwys diogelwch nofio agored, rheoli digwyddiad a CPR.

Bu’r diwrnod yn lwyddiant mawr a chriw Killyleagh yn rhoi 100% mewn amgylchiadau realistig iawn.

Diolch yn fawr i’n darparwr, Ciaran Kinney.

Gogledd Iwerddon
Gogledd Iwerddon
Gogledd Iwerddon

Diolch am ddarllen ein newyddion diweddaraf – os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch ebost, tanysgrifiwch isod!