Croeso i wefan Y Bartneriaeth Awyr Agored — Read this in English

Siarad â ni

Open
X

Y Bartneriaeth Awyr Agored yn cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Chwaraeon y BBC eleni!​

Ysgrifennwyd ar Hydref 30, 2017

Mae Chwaraeon Cymru a BBC Cymru wedi cyhoeddi enwau’r pymtheg enwebai terfynol a fydd yn cystadlu am y gwobrau cymunedol yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru eleni.

Gosodwyd yr enwebeion ar y rhestr fer ar ôl derbyn mwy nag erioed o enwebiadau ar gyfer pum categori gwahanol.

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol yng nghategori ‘Sefydliad y Flwyddyn’. ​

Mae’r pum gwobr yn dathlu gwaith caled ac effaith gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a sefydliadau Cymru ar chwaraeon cymunedol yng Nghymru. Bydd straeon ysbrydoledig yr holl unigolion sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cydnabod a’u rhannu gyda’r genedl yn y noson wobrwyo sy’n cael ei chynnal nos Lun 4 Rhagfyr yn y Celtic Manor, Casnewydd.