Mae ein prosiectau yn rhoi cyfleoedd i drigolion lleol ym mhob un o’n ardlaoedd, o bob cefndir, gymryd rhan yn yr awyr agored drwy raglenni ysgol, clybiau cymunedol, gwirfoddoli a rhaglenni gwaith.

Ein Prosiectau
Cydlyniad Cymunedol
Mae ein Rhaglen Datblygu Cymunedol yn cael ei arwain gan ein Swyddogion Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored ac mae'n ysbrydoli miloedd o blant, pobl ifanc ac oedolion i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes drwy gynnal sesiynau blasu, sesiynau datblygu, gŵyliau a digwyddiadau.
Llwybrau i Waith
Mae’r rhaglen Llwybrau i Waith yn defnyddio gweithgareddau awyr agored i helpu pobl ifanc DACH (Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) a phobl ddi-waith hirdymor, yn ôl ar lwybr at ddysgu pellach, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth. Mae Llwybrau i Waith hefyd yn cynnwys rhaglenni amrywiol mewn rhanbarthau penodol sy’n anelu i gynyddu nifer y bobl sy’n gwneud cais am swyddi hyfforddiant mewn canolfannau awyr agored a busnesau awyr agored yn yr ardal honno.
Iechyd a Lles
Mae'r rhaglen Iechyd a Lles yn defnyddio strwythurau sy'n bodoli eisoes i ddod â chydweithrediad o bartneriaid o'r sectorau awyr agored ac iechyd at ei gilydd i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, gwella iechyd meddwl a chorfforol ac mae'n darparu cysylltiadau â chlybiau a grwpiau cymunedol lleol sy'n galluogi pobl i fyw bywydau annibynnol egnïol yn hirdymor.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
O fewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, mae gennym nifer o raglenni sy’n gweithio yn uniongyrchol gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac yn anelu i leihau rhwystrau i gyfranogiad.
Gwirfoddoli
Yn y Bartneriaeth Awyr Agored rydym yn gwerthfawrogi yn fawr iawn, cyfraniad gwirfoddolwyr. Mae ein rhaglen gwirfoddoli yn agored i unrhyw un sy’n dymuno gwirfoddoli yn y sector awyr agored a gallwn gynghori a chefnogi gwirfoddolwyr sy’n chwilio am gyfleoedd i helpu yn eu cymuned leol.
Addysg Antur
Mae ein fframwaith Addysg Antur wedi cael ei ddatblygu i gefnogi ysgolion ar draws Gymru i ymgysylltu gydag Addysg Antur ac Addysgu Awyr Agored drwy weithgareddau anturus, yn unol a'r Cwricwlwm i Gymru 2020, a hefyd i gysylltu dysgwyr gyda dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'u cynefin.