Y Bartneriaeth Awyr Agored
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio i gefnogi pobl Cymru ac ardaloedd eraill yn y DU i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes. Mae ei strategaeth newydd wedi diffinio ei gweledigaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf.

Gwella bywydau pobl drwy weithgareddau awyr agored’.

Sefydlwyd y Bartneriaeth Awyr Agored yn 2004 gan ddwyn mudiadau sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ynghyd i gydweithio’n effeithiol yn y sector awyr agored a rhannu’r un weledigaeth.

Cafodd y rhesymeg y Bartneriaeth Awyr Agored ei ategu gan ymchwil yn 2003 wedi’i gyflawni gan Brifysgol Bangor. Dengys yr ymchwil y canlynol;

  • Prinder o ran pobl leol yn ymwneud gyda’r sector
  • Gan arwain at brinder o ran pobl leol yn gweithio yn y diwydiant awyr agored
  • Ynghyd â phrinder pobl yn ymwneud â’u cymunedau
  • Sydd yn ei dro’n golygu prinder pobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a phrinder o glybiau lleol
Newid Dros Genedlaethau

Mae dull strategol y Bartneriaeth Awyr Agored yn rhagweld ‘newid dros genhedlaethau’; lle mae ymgysylltu â gweithgareddau awyr agored yn ‘arferol’ – nodwedd dderbyniol o ffordd o fyw arferol poblogaeth yr ardal. O ganlyniad i waith y Bartneriaeth Awyr Agored a’i phartneriaid hyd yn hyn, mae nhw wedi llwyddo i gyffwrdd â miloedd o fywydau pobl bob dydd gan wneud gwahaniaethau gwirioneddol i iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol pobl.

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid, partneriaid, cyllidwyr a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol i ddarparu continwwm datblygu effeithiol i gyfranogwyr ar bob rhaglen.