mask
Speaks Welsh
Contact
Mae Tracey wedi llunio a datblygu cyfeiriad strategol y Bartneriaeth Awyr Agored ers ei sefydlu yn ôl yn 2004.

Mae hi wedi arwain y sefydliad o fod yn gorff anghorfforedig bach i fod yn gwmni elusennol uchel ei barch yn genedlaethol, gan wella iechyd a lles cymdeithasol nifer o  gymunedau a miloedd o unigolion ledled gwledydd Prydain. Yn ogystal â’i hangerdd tuag at yr awyr agored, mae Tracey yn dod â chyfoeth o brofiad i’w rôl trwy ei chyfraniad gydol oes mewn chwaraeon. Mae ganddi gefndir proffesiynol mewn datblygu chwaraeon ac mae wedi cynrychioli Cymru fel perfformiwr elitaidd gan ennill medal yng ngemau’r Gymanwlad. Y tu allan i’r gwaith mae Tracey yn mwynhau rhedeg, sgïo, cerdded mynyddoedd, rhwyfo a seiclo.

Mae hi’n gwirfoddoli fel aelod o Bwyllgor Ymgynghori’r Diwydiant  Gweithgareddau Anturus yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a benodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 mask
Tracey Evans
Prif Weithredwr
Mae Mark wedi bod yn rhan o’r Bartneriaeth Awyr Agored ers ei sefydliad nôl yn 2004. Am dros gyfnod o 14 mlynedd, mi fu’n gweithio fel Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored yng Ngwynedd. Yn ystod yr amser yma mae wedi helpu i sefydlu nifer o glybiau gweithgareddau awyr agored, wedi mentora a chefnogi cannoedd o wirfoddolwyr, wedi cynllunio, arwain, cydlynu a rheoli nifer o raglenni gan gynnwys gweithgareddau ar gyfer pobl anabl.

Mae wedi cyd-weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIC ar brosiectau iechyd a chynlluniau atgyfeirio.Mae wedi llwyddo i gael gwerth miloedd o bunnoedd o grantiau ar gyfer prosiectau cyfalaf gan gynnwys adeiladu storfeydd ar gyfer nifer o glybiau awyr agored yn ogystal â gwella mynediad at ddŵr a darparu gweithgareddau awyr agored i drigolion gogledd orllewin Cymru.

Cyn ymuno â’r Bartneriaeth Awyr Agored, roedd gan Mark dros 10 mlynedd o brofiad o weithio llawn amser fel hyfforddwr llawrydd mewn canolfannau awyr agored ar draws gogledd Cymru. Mae yn dal y cymwysterau Hyfforddwr mynydd a dringo, Ardystiad Dŵr Cymedrol Lefel 2 UKCC, Arweinydd Beicio Llwybrau, ac mae’n un o’r ychydig hyfforddwyr Cymorth Cyntaf REC sy’n siarad Cymraeg.

Yn ei swydd newydd fel Rheolwr Prosiect y Bartneriaeth Awyr Agored, mi fydd Mark yn arwain ar brosiect i rannu ethos a llwyddiant yr elusen mewn mannau eraill ym Mhrydain. Mae hwn yn rhan o brosiect 7 mlynedd o hyd gyda’r teitl ‘Agor y Drws i’r Awyr Agored’, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Fawr.

Pan nad yw yn ei waith, mae Mark yn mwynhau cerdded mynyddoedd, padlo, beicio mynydd, sgïo ac eirafyrddio.

 mask
Mark A Jones
Rheolwr Rhaglen
Mae Elin wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant yr elusen dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hi wedi ennill profiad helaeth mewn rheoli cyllid y trydydd sector gan gynnwys monitro cyllid prosiectau’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Elin yn chwarae rhan ganolog o reoli a monitro ein incwm a gwariant yn flynyddol. Gyda gwybodaeth a phrofiad helaeth o’r system rheoli SAGE, mae hi hefyd â chymhwyster AAT Lefel 4.

Ar yr adegau ble nad ydi hi wedi’i chladdu dan dwmpath o anfonebau, mae Elin yn mwynhau profi gwahanol ddiwylliannau ar ei theithiau (pan mae hi’n gallu dod o hyd i’w phasbort 😊), cymdeithasu gyda’i ffrindiau a chanu efo’i chôr lleol. Mae Elin hefyd yn mwynhau cerdded, yn enwedig os oes tafarn ar ddiwedd y daith.

 mask
Elin Humphreys
Swyddog Cyllid
Dechreuodd Leila ei swydd fel Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored ar gyfer Canolbarth De Cymru yn 2021 yn dilyn cyfnod o dros 15 mlynedd yn gweithio yn y maes Addysg Awyr Agored, yn lleol ac yn rhyngwladol, gan weithio a byw yn Ne Ddwyrain Asia, y Swistir a Costa Rica.

Mae Leila yn meddu ar Wobr Arweinydd Mynydd, Gwobr Dringen Sengl, Arweinydd mewn Ogof, hyfforddwr Lefel 2 UKCC BCU mewn chwaraeon dŵr fel caiac mewndirol, caiac môr, canŵ a SUP ac mae’n Arweinydd Ysgol Goedwig. Y tu allan i’r gwaith mae Leila yn mwynhau treulio amser yn rhedeg llwybrau, beicio mynydd, syrffio a chael anturiaethau gyda’i theulu. Yn ei rhôl fel Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored, mae hi wrth ei bodd â’r syniad o geisio helpu’r Bartneriaeth Awyr Agored i gyflawni eu gweledigaeth o fod yn lud sy’n dod â phopeth at ei gilydd, gan helpu i uno cymunedau lleol a chreu defnydd cynaliadwy a gwell dealltwriaeth o’r amgylchedd.

 mask
Leila Connolly
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored – Canolbarth De Cymru
Mae Bethan wedi ymuno â’r tîm gyda dros ddeng mlynedd o brofiad o wisgo helmed mewn nifer o wahanol leoliadau awyr agored ar draws y DU. Ers ei phlentyndod o swnian ar ei rhieni i fynd â hi i ddringo, mae bellach yn treulio ei hamser yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Mae wedi bod yn gweithio mewn canolfannau awyr agored yn Ne-orllewin Lloegr a’r Bendrigg Trust yn Ardal y Llynnoedd, cyn dychwelyd i Gymru a threulio nifer o flynyddoedd yn gweithio fel hyfforddwraig lawrydd mewn canolfannau aml-weithgaredd ac i ddarparwyr teithiau Dug Caeredin.

Dros amser, mae Bethan wedi gweld pa mor bwysig, a hyd yn oed hanfodol, y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fod er lles pobl a’u hiechyd corfforol ac mae’n awyddus i weithio’n galed i sicrhau bod gan fwy o bobl yng nghanolbarth Cymru fynediad at y buddion hyn.

Mae Bethan yn meddu ar gymwysterau Arweinydd Mynydd a Hyfforddwr Dringo yn ogystal â chymwysterau eraill mewn chwaraeon padlo, ogofau a chyfeiriannu. Ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at ei Gwobr Hyfforddwr Datblygu Dringo. Mae hi’n gyfarwyddwr cofrestredig o wobrau a chyrsiau dringo a cherdded bryniau ar gyfer Mountain Training ac mae’n diwtor ar gyfer cyrsiau cyfeiriannu NNAS.

Pan nad yw Bethan yn ei gwaith, mae hi’n mwynhau rhyw fath o wyliau gweithio gan ddringo, cerdded bryniau, rhedeg a seiclo o amgylch y DU yn ogystal â rhoi ei sach teithio ymlaen a mynd ar deithiau hir o amgylch Ewrop, gyda’r Pyrenees yn ffefryn iddi. Yn fwy diweddar, mae ei hanturiaethau wedi cynnwys gwasgu dau berson a dau filgi bach i mewn i fan ac archwilio ynysoedd o amgylch y DU a hefo packraft ar ei chefn.

 mask
Bethan Logan
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored – Canolbarth Cymru
Mae Brett yn ymuno â ni gyda chefndir mewn rhaglenni ymyriad a chymwysterau awyr agored, asesu gwobrau Dug Caeredin, gwaith ieuenctid ac yn fwy diweddar, gweithio ar raglenni cyflogadwyedd.

Mae Brett yn edrych ymlaen at ddatblygu’r rhaglen “Agor y Drysau i’r Awyr Agored” yng Ngwent i alluogi mwy o bobl i elwa o fuddion anhygoel gweithgareddau awyr agored.

Y tu allan i’r gwaith, mae Brett yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu yn archwilio natur. Mae’n rhedwr, yn gerddwr ac yn ddringwr brwd, gan feddu ar gymwysterau arweinydd mynydd, hyfforddwr wal ddringo a hyfforddwr beic mynydd.

 mask
Brett Mahoney
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored - Gwent
Mae Sioned yn ymuno â’r tîm gyda phrofiad mewn Hyfforddi, Datblygu Chwaraeon a Gwyddorau Chwaraeon gan weithio'n agos gyda Chyrff Llywodraethol i sicrhau fod unigolion sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn cael digon o gyfleoedd i gymryd rhan.

O ganlyniad i’r gwaith yma, mae hi wedi llwyddo i fod ar Banel Ymgynghori Nofio Cymru a Phanel Ieuenctid Chwaraeon Cymru. 

Yn ei hamser rhydd mae Sioned yn mwynhau nofio dŵr agored yn y moroedd a llynnoedd lleol, rhedeg llwybrau yn y coedwigoedd lleol a cherdded gyda’i chŵn.

Mae Sioned yn angerddol am sicrhau fod lleisiau pawb yn cael eu clywed ac mae’n edrych ymlaen at y gwaith o’i blaen.

 mask
Sioned Thomas
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored - Rhanbarth Bae Abertawe
Mae Roger wedi bod yn rhan o waith y Bartneriaeth ers y dyddiau cynnar. Yn ystod ei gyfnod o dros 20 mlynedd yn gweithio fel Swyddog Datblygu Chwaraeon i Gyngor Sir Ynys Môn, mi welodd y sefydliad y Bartneriaeth ac ers hynny mae wedi bod yn rhan o nifer o’i brosiectau gan gydweithio’n agos â Swyddogion Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Ynys Môn.

Mae wedi ymwneud â phob math o chwaraeon o oedran cynnar, gan gymryd rhan, cystadlu a hyfforddi eraill hyd at safon genedlaethol. Mae’n meddu ar nifer o wobrau’r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a phan nad yw’n gweithio, mae’n treulio’i amser yn syrffio, dringo, beicio mynydd, sgïo alpaidd a sgïo teithiol.

 mask
Roger Pierce
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored - Conwy
Mae gan Tomos dros 12 mlynedd o brofiad fel Hyfforddwr ac Uwch Hyfforddwr Awyr Agored. Mae ganddo amryw o gymwysterau yn cynnwys RYA Senior Instructor, Lowland Leader Award a UKCC Level 2 Paddlesports.

Dechreuodd gymryd rhan mewn gweithgareddau fel hwylio a chanwio yn ei arddegau cynnar. Tra’n astudio am radd mewn Rheolaeth Twristiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, darganfododd angerdd am Sgio ac ers hynny mae wedi llwyddo i gael cymhwyster BASI Alpine Level 1.

Mae Tomos yn hoff o gael profiadau newydd. Mae wedi teithio i lawer o wledydd yn cynnwys cyfnod estynedig yn trafeilio trwy De Orllewin Asia, Awstralia a Zeland Newydd. Yn ei amser hamdden, mae Tomos yn hoff o gerdded yn Eryri, hwylio neu seiclo. Mae o hefyd yn hoff iawn o chwarae gitar, coginio a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.

Yn ei rol fel Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored, mae Tomos yn edrych ymlaen yn fawr i weithio gyda’r Bartneriaeth, ac i barhau i gynnig profiadau a chyfleoedd yn yr awyr agored i drigolion Gwynedd.

 mask
Tomos Lloyd
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored - Gwynedd
Fel ein Swyddog Gwirfoddolwyr, bydd yn gweithio i ddatblygu gwaith gwirfoddolwyr clybiau Awyr Agored, ac yn lledaenu y neges am waith y Bartneriaeth a’r cyfleoedd ar gael i glybiau ar draws Cymru gyfan ac ymhellach.

Wedi treulio nifer o flynyddoedd yn teithio a gweithio dramor, yn bennaf yn y diwydiant sgio, dychwelodd i Gymru i weithio fel swyddog Datblygu Chwaraeon, yn mwynhau y cyfle i annog plant Gwynedd i gymryd rhan mewn chwaraeon o bob math.

Mae gweithio i’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gyfle iddi gefnogi unigolion, grwpiau a chlybiau i fwynhau yr awyr agored, fel mae hithau yn ei wneud.

Tu allan i’r gwaith, mae’n debyg mai yma y darganfyddwch hi! Unai yn beicio ar hyd y ffyrdd cefn distaw, nofio yn y mor neu’r llynoedd, ar daith yn ei fan, neu’n rhedeg a rasio ar fynyddoedd dros y wlad – yn aml yn deud wrthi ei hun, pan yn tuchan i fyny allt serth, i ddod o hyd i hobi newydd!

 mask
Sian Williams
Swyddog Gwirfoddolwyr
Mae Simon wedi bod yn cyfrannu tuag at lwyddiant yr elusen am bron i 10 mlynedd bellach, gan ddechrau fel Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Ynys Môn nôl yn 2009, ac yn fwy diweddar, fel Swyddog Gwirfoddoli.

Mae gan Simon dros 10 mlynedd o weithio gyda gwirfoddolwyr, ac mae ganddo brofiad helaeth a dealltwriaeth o fframwaith cymwysterau’r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol.

Mae Simon yn meddu ar Wobrau Arweinydd Mynydd (haf a gaeaf), Gwobrau Hyfforddwr Mynydd (MIA), ac mae ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ei dystysgrif Hyfforddwr Mynydd (MIC). Tu allan i’w waith, mae Simon yn mwynhau sgio, eirafyrddio, dringo, rhedeg a beicio mynydd.

 mask
Simon Jones
Swyddog Hyfforddiant
Mae Claire wedi bod yn hyfforddwraig Addysg Awyr Agored broffesiynol ers 2002. Ar ôl gweithio mewn nifer o ganolfannau awyr agored ar draws Lloegr a Chymru (gan gynnwys Outward Bound a Calvert Trust), mae Claire yn ychwanegu ei gwybodaeth helaeth o weithgareddau awyr agored i’r tîm yn ardal Copeland yn Ardal y Llynoedd.

Drwy weithio ar brosiectau megis ‘Agor y Drysau i’r Awyr Agored’ , mae Claire yn edrych ymlaen at fynd ati i rannu ei brwdfrydedd am antur gydag eraill ac i allu rhannu’r holl lwyddiannau a’r gwaith da sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, gyda Gorllewin Cumbria.

Wrth fyw yn Cumbria gyda’i theulu ifanc (a’r ci), mae Claire yn awyddus i wneud y mwyaf o’r adnoddau naturiol ar garreg ei haelwyd. Mae ganddi angerdd am helpu eraill i wthio eu hunain i lwyddiant ac mi fyddech mwy na thebyg yn dod ar ei thraws mewn canŵ neu gaiac, efallai yn cerdded y bryniau neu’n chwarae yn yr awyr agored gyda’i theulu.

 mask
Claire Bryant
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored – Cumbria
Mae Vince yn ymuno â’r tîm gyda dros 12 mlynedd o brofiad o weithio ar y rhaglen Gwobr Dug Caeredin fel Swyddog Datblygu a rheolwr DC ar gyfer Cyngor De Ayrshire yn yr Alban.

Cyn hyn bu Vince yn gweithio fel gweithiwr cymunedol mewn ysgolion cynradd yn ogystal â gweithio yn y maes hamdden a datblygu chwaraeon.

Mae Vince yn edrych ymlaen at weithio ar draws y tri awdurdod lleol yn Ayrshire i ddatblygu’r rhaglen “Drysau i’r Awyr Agored” drwy ddatblygu gweithgareddau awyr agored a chefnogi clybiau, ysgolion a grwpiau ieuenctid ar draws y sir.

Mae wedi bod yn aelod o’r RNLI gyda bad achub Troon dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae’n llongwr, rhwyfwr a cherddwr brwd ac mae ganddo gymhwyster Arweinydd Grwpiau Cerdded a chymhwyster morwr arfordirol yr RYA.

 mask
Vincent Mcwhirter
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored - Ayrshire
Mae Daniel wedi gweithio mewn nifer o brosiectau trwy gydol ei yrfa yn helpu pobl ifanc, o fynd i’r afael â digartrefedd, helpu plant o’r system derbyn gofal i setlo i ofal maeth, rhedeg prosiectau ieuenctid, i redeg rhaglenni antur ar gyfer pobl ifanc â seicosis ar draws gogledd Cymru.

Mae Daniel yn angerddol ac yn ymroddedig i ddefnyddio’r mannau gwyllt a’r gymuned i helpu pobl i wella eu bywydau eu hunain a dod o hyd i gysylltiad â’i gilydd i wella iechyd meddwl, lles emosiynol pobl a’u gallu i rymuso eu hunain.

Mae’n bêl-droediwr, gerddwr mynyddoedd a cogydd brwdfrydig ac mae’n mwynhau treulio amser yn awyr agored gwyllt gogledd Cymru drwy nofio’n wyllt, chwilota a gwersylla ac mae wrth ei fodd yn treulio amser ar y môr yn hwylio pan mae’n gallu.

 mask
Daniel Bartlett
Swyddog Cynorthwyo Rhaglenni
Mae Zac yn ymuno â'n tîm ac mae'n frŵd iawn am yr awyr agored. Wedi ei fagu yng Ngogledd Cymru ac wedi treulio sawl blwyddyn yn yr Alpau, mae bob amser wedi mwynhau gweithgareddau awyr agored ac yn edrych yn gyson i ymgymryd â her newydd! Mae wedi bod yn rasio sgïo alpaidd am nifer o flynyddoedd ac wedi cynrychioli Cymru a Prydain ar draws Ewrop ar lefel elît.

Mae Zac, a fu gynt yn llysgennad i’r Bartneriaeth Awyr Agored ac wedi buddianu o’n rhaglen addysgu hyfforddwyr, yn edrych ymlaen at ehangu’r ddarpariaeth awyr agored bresennol ar draws Gogledd Cymru gan ei fod yn angerddol am hamdden awyr agored a’r manteision cysylltiedig.

Yn broffesiynol, mae Zac wedi gweithio fel hyfforddwr syrffio a chwaraeon dŵr ers sawl blwyddyn ac yn ddiweddar mae wedi bod yn gweithio ym Mharc Antur Eryri fel Rheolwr Antur, lle bu’n rheoli tîm mawr o hyfforddwyr awyr agored ar draws llu o weithgareddau. Mae’n edrych ymlaen i ddod â’i sgiliau a’i wybodaeth i dîm y Bartneriaeth, ac mae’n gobeithio bod o fudd i’r gymuned ehangach. Mae Zac bellach yn mwynhau teithiau syrffio ac wastad yn chwilio am donnau da. Pan nad yw’n sgïo neu’n syrffio mae’n hoff iawn o feicio mynydd a dringo ac yn ddiweddar mae wedi ymgymryd â’r her newydd o Wing Foiling, ac mae wrth ei fodd allan yn yr elfennau!

 mask
Zac Pierce
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored - Gogledd Cymru
Ar ôl gorffen ei radd mewn Astudiaethau Chwaraeon ym Mhrifysgol Ulster roedd gan Gary ddiddordeb mawr mewn Chwaraeon a Datblygiad Cymunedol, o hyfforddi i weithio o fewn gwasanaethau cymunedol a'r sector iechyd a lles. Mae hefyd ar hyn o bryd yn hyfforddi i fod yn diwtor hyfforddwyr i Cycling Iwerddon.

Mae Gary yn edrych ymlaen at ddatblygu cyfleoedd awyr agored o fewn ardal Sperrins a gweld cymunedau lleol yn ffynnu ac yn tyfu gan ddefnyddio adnoddau naturiol anhygoel y Sperrins.
Mae Gary yn angerddol  am unrhyw beth yn ymwneud â beicio. Wedi ei fagu yn ardal y Gortin Glens, treuliodd ei ieuenctid yn crwydro yn y goedwig ar ei feic, yn dod o hyd i bethau i neidio oddi arnynt! Mae wedi cystadlu mewn amryw o ddisgyblaethau beicio, yn teithio ar draws Ewrop a thu hwnt. Ei brif ddiddordeb bellach yw beicio mynydd enduro; mae hyn wedi caniatáu iddo fanteisio’n llawn ar y rhwydwaith llwybrau MTB sydd gan Sperrins i’w gynnig. Yn ddiweddar, gorffennodd yn 3ydd yn ras 5 diwrnod Trans Madeira 2022 ac mae’n edrych ymlaen at gystadlu mewn mwy o ddigwyddiadau rasio aml-ddiwrnod yn y dyfodol.

 mask
Gary Donaldson
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored - Sperrins Gogledd Iwerddon
Mae Stuart wedi gweithio yn y diwydiant awyr agored am dros 35 mlynedd, yn rhedeg canolfannau o Awstralia i Plymouth a nifer o wledydd rhyngddynt. Yn beiriannydd a gweithiwr ieuenctid yn wreiddiol yng ngorllewin canolbarth Lloegr, syrthiodd mewn cariad â'r awyr agored pan yn cwblhau gwobr Dug Caeredin ac mae wedi parhanu byth ers hynny.

Mae wedi bod yn hyfforddwr dingi RYA ac yn arolygydd canolfan RYA ers dros 20 mlynedd, ac mae’n meddu ar gymhwyster hyfforddwr Uwch RYA a chymwysterau hyfforddwr dingi, cilfadau, multihull, hyfforddi rasio, cychod pŵer, hwylfyrddio a chymorth cyntaf, ynghyd â chymwysterau hyfforddi caiaco BCU. Mae hefyd wedi hwylio cychod ledled y byd gan gymryd rhan mewn rhai o’r rasys cychod hwylio eiconig.

Dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae Stuart wedi bod yn gweithio ym maes gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol, gan alluogi sefydliadau lleol i ddatblygu a chyflawni eu huchelgeisiau, gyda chymorth ariannol, cysylltiadau, rhwydweithio ac eirioli ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol yn ardal Plymouth.

Symudodd Stuart a’i deulu i Plymouth 20 mlynedd yn ôl, ac mae ei deulu’n rhannu ei angerdd at yr awyr agored, ac mae eu gwyliau teuluol yn cynnwys cerdded, beicio mynydd, sgïo a dringo yn yr Alpau, padlo’r afonydd lleol a rasio eu cychod gyda clybiau lleol. Y tu allan i chwaraeon anturus, mae Stuart yn gefnogwr enfawr o bêl-droed Americanaidd.

 mask
Stuart Jones
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored - Plymouth
Mae Sarah wedi gweithio ym myd addysg ac addysg awyr agored am dros 20 mlynedd - mae cael pobl yn yr awyr agored wedi bob yn flaenoriaeth allweddol iddi hi. Ar ôl teithio o amgylch y byd lle’r oedd yn profi heriau ac antur yn ddyddiol, ymgartrefodd yn ôl yn y DU, gan ddysgu mewn ysgolion ar draws pob cyfnod allweddol, gweithio mewn canolfannau awyr agored a dal swydd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Awyr Agored a Chynghorydd Addysg Awyr Agored i Coventry am 9 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, bu Sarah hefyd yn rheoli cynllun Gwobr Dug Caeredin ar gyfer holl ganolfannau DofE Coventry. Mae hi wedi bod yn ymwneud â chyrsiau hyfforddi arweinwyr helaeth a chyflwyno rhaglenni trwy gydol yr amser hwn, gan gefnogi pobl o bob oed i gael mynediad i’r awyr agored yn ogystal ag arwain pobl ifanc ar ymweliadau tramor ac alldeithiau ledled y byd.

Tan yn ddiweddar Sarah oedd swyddog datblygu Gorllewin Canolbarth Lloegr ar gyfer y Cyngor Dysgu y Tu Allan i’r Ystafell Ddosbarth, yn gweithio gydag ysgolion i gefnogi llês myfyrwyr trwy gysylltiad â natur ac ymgorffori dysgu y tu hwnt i’r cyfleoedd ystafell ddosbarth wrth gyflwyno’r cwricwlwm bob dydd.

Mae Sarah yn aelod o’r Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored, wedi cadeirio rhanbarth Canolbarth Lloegr am 6 mlynedd ac yn parhau i fod yn aelod gweithgar o weithgorau dynodedig.

Fel gweithiwr awyr agored proffesiynol cymwysedig, mae Sarah yn angerddol am wneud gweithgaredd awyr agored yn hygyrch i bawb. Mae agor llwybrau i weithgareddau awyr agored i holl gymunedau Coventry yn gyfle cyffrous i ddatbygu rhaglenni’r Bartneriaeth Awyr Agored.

Yn ei hamser hamdden, mae Sarah yn mwynhau crwydro’r wlad gyda’i gŵr yn eu camperfan, gan ddod o hyd i antur ble bynnag y maent yn mynd.

 mask
Sarah Ramsey
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored - Coventry
Mae Sam wedi ymuno â’r Bartneriaeth Awyr Agored ar ôl gweithio ym myd addysg awyr agored am y 9 mlynedd diwethaf. Dechreuodd fel prentis yn y New Forest, symudodd i fyny i'r Alban a gorffen fel uwch hyfforddwr yng Ngogledd Swydd Efrog.

Tra’n gweithio fel hyfforddwr mae Sam wedi rhoi cynnig ar y rhan fwyaf o weithgareddau awyr agored ond ei ffefryn yw ogofau ac mae’n well ganddo fod o dan y ddaear, oni bai ei bod hi’n bwrw glaw,  Yr amser hynny mae’n tueddu i fynd i’r wal bowldro leol.

Tra’n gweithio fel hyfforddwr mae Sam fwyaf hoff o gael pobl o gefndiroedd amrywiol i drio gweithgareddau na fyddent fel arfer yn cael cyfle i roi cynnig arni. Mae Sam wedi gweld y buddion y gall y gweithgareddau hyn eu rhoi i fywydau pobl ac mae’n edrych ymlaen yn fawr at wneud mwy o hyn yn ei swydd newydd.

Ar wahân i weithgareddau awyr agored, mae Sam yn mwynhau treulio amser yn ei sied yn rhoi cynnig ar ychydig o DIY, mynd i gigs, a choginio ar y BBQ.

 mask
Sam Allum
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored – Gogledd Efrog
Mae'r awyr agored wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed. Cefais fy magu ar fferm, yn yr ysgol mi nes i gymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau chwaraeon.

Wnes i ddim chwaraeon awyr agored tan esi i’r coleg a gwneud cwrs Antur Awyr Agored lefel 3. Ers hynny rydw i wedi bod yn gweithio tuag at rai cymwysterau a fyddai’n caniatáu i mi weithio yn y diwydiant awyr agored. Yn ystod fy amser yn y coleg cefais gyfle gwych i brofi a datblygu fy hun, fel y dywedais o’r blaen, nid oeddwn wedi gwneud unrhyw beth yn yr awyr agored. Gefais i gyfla i gaiacio, canŵio, hwylio, dringo, cerdded bryniau a gwneud rhai sgiliau gaeaf i fyny yn yr Alban.

 mask
Megan Bown
Swyddog Nofio Saf _ Ynys Mon