Clwb Antur Dyffryn Peris
Canŵio / Caiacio Gwynedd
Sefydlwyd Clwb Antur Dyffryn Peris ar gyfer plant ac oedolion sy’n byw o fewn ardal Dyffryn Peris a’r pentrefi cyfagos.
Mae’n cynnig y cyfle i brofi gweithgareddau awyr agored fel ceufadu, mynydda, dringo a rhwyfo.
Mae’r clwb yn cyfarfod sawl gwaith yr wythnos, rhwng mis Ebrill a mis Medi ar yr adegau canlynol:
- Nos Lun 6pm – Ceufadu i oedolion – Croeso i ddechreuwyr
- Nos Lun 6.15pm – Ceufadu i bobl ifanc (sgiliau uwch)
- Nos Fawrth 6.30pm – Rhwyfo ar Afon
- Nos Fercher 6.30pm – Cychod Hir Celtaidd
- Nos Iau 6pm – Ceufadu i blant ysgol uwchradd ac oedolion
- Nos Iau 6.45pm – Cychod Hir Celtaidd
- Dydd Sadwrn 10.30am – Ceufadau Sbrint
- Dydd Sul 9.30am – Rhwyfo ar yr Afon a Chychod Hir Celtaidd
Yn ystod y Gaeaf, mae yna sesiynau rhwyfo yn unig: Cychod Hir Celtaidd ar fore dydd Sadwrn (9.30am), ac ar fore dydd Sul (9.30am).
Mae gweithgareddau eraill yn cael eu cynnal ar hap, felly cysylltwch â ni am fanylion neu ewch i’n gwefan i weld y calendr digwyddiadau.
Mae croeso cynnes i unrhyw un gymryd rhan. Mae cost o £3 i bob sesiwn ac mae ac mae cyfle i brofi dau sesiwn am ddim cyn gorfod ymaelodi â‘r clwb.
- Cyswllt:
- Michelle Jones
- Rhif Ffôn:
- 07795481968
- Gwefan:
- http://clwbantur.com/