Clwb Canŵio Amlwch
Canŵio / Caiacio Ynys Môn
Dyma glwb cymunedol yng Ngogledd Ynys Môn. Ers dechrau Ebrill, rydym fel arfer yn cyfarfod yn yr harbwr. Rhwng Hydref a diwedd Mawrth, byddem yn cyfarfod ym mhwll y Ganolfan Hamdden (2012 8yh tan 9yh). Yr oedran isaf ydy 8 a bydd rhaid i rieni/warcheidwaid fod yn bresennol i unrhyw un o dan 16 oherwydd rhesymau diogelwch. Rydym yn cynnig nifer o weithgareddau canŵa e.e. teithiau môr, afonydd a syrffio.
Rydym yn anelu i gynnal dau ddigwyddiad yr wythnos o fisoedd yr haf ymlaen os yw’r tywydd a’r glannau yn caniatáu. Mae’n hyfforddwyr yn hollol gymwys a gallem asesu hyd at 3 seren mewn dŵr gwyn, ac mae gennym yr hawl i ddisgyblaethau caiacio am gost isel.
Byddem hefyd yn caniatáu i bobl i fynychu 3 sesiwn blasu am gost isel i weld os ydych yn mwynhau’r gweithgaredd ac eisiau parhau. Os ydych, bydd angen i chi ymaelodi a’r clwb. Mae gan Glwb Canŵio Amlwch nifer o ganwod agored a cheufadau yn ogystal â’r offer perthnasol a gall eu llogi am gost isel ar gyfer nosweithiau clwb a digwyddiadau. Os oes gennych eich offer eich hun, bydd rhaid iddo fod yn addas ac o’r safon gywir.
Tudalen Facebook : Amlwch Canoe Club
- Cyswllt:
- Phil Edwards
- Rhif Ffôn:
- 01407 731081
- Oedran Isafswm:
- 8 Conditions apply to under 16's