Clwb Mynydda Cymru
Dringo/Mynydda
Mae Clwb Mynydda Cymru yn hyrwyddo mynydda drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn agored i bawb sy’n hoff o fynydda mewn cwmni hwyliog, diogel a chefnogol.
Drwy fod yn aelod o’r clwb gellid manteisio ar:
- deithiau amrywiol yn Ne a Gogledd Cymru ar ddyddiau Sadwrn neu Sul,
- deithiau llai heriol ar ddyddiau Mercher,
- yswiriant y CMP (Cyngor Mynyddig Prydain) ar gyfer holl weithgareddau’r Clwb,
- ddysgu neu gwella sgiliau a hyder mynydda gydag aelodau mwy profiadol,
- deithiau mynydda tramor neu i rhannau eraill o’r DU yn rheolaidd,
- gefnogaeth ariannol i fynychu cyrsiau trwy’r Bartneriaeth Awyr Agored,
- ddisgownt mewn amryw o siopau offer mynydda
- gyfle i ymarfer neu gwella iaith os yn dysgu’r Gymraeg.
Tudalen Facebook : Clwb Mynydda Cymru
- Gwefan:
- http://www.clwbmynyddacymru.com/
- Oedran Isafswm:
- 12