Clwb Canŵio Llanrwst
Canŵio / Caiacio Conwy
Mae clwb canŵio Llanrwst yn glwb sefydledig sy’n cynnwys gwahanol weithgareddau canŵio a cheufadu i’w aelodau. Dros yr 8 mlynedd diwethaf mae’r clwb wedi bod yn hynod o lwyddiannus wrth recriwtio aelodau newydd i’r gweithgaredd.
Mae’r clwb ar agor i blant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd - “Rydym yn darparu cyfleoedd i bawb o bob oed ym mhob gweithgaredd a rhoi cyfle i bobl leol gael mynediad i’r dŵr” meddai Roger Pyves.
Rhwng Mai a Medi mae’r clwb yn cyfarfod yn Llyn Geirionnydd (uwch Llanrwst) am 7yh hyd at 9yh pob nos Fercher. Yr adegau eraill o’r flwyddyn bydd y clwb yn cyfarfod am 7.30yh nes 9.30yh pob nos Lun ym mhwll nofio Llanrwst.
Mae’r clwb yn trefnu nifer o weithgareddau a gwobrau i blant, pobl ifanc ac oedolion, gan gynnwys teithiau i lynnoedd lleol, afonydd, teithiau ar gychod agored, teithiau caiacio môr misol ac addysg hyfforddiant i wirfoddolwyr.
- Cyswllt:
- Roger Pyves
- Rhif Ffôn:
- 07818 068959
- Gwefan:
- http://llanrwstcanoeclub.org.uk/wordpress/
- Oedran Isafswm:
- dependent on ability