Clwb Hwylio a Chwaraeon Ddŵr Traeth Coch
Canŵio / Caiacio Rhwyfo Hwylio Ynys Môn
Os ydych yn newydd i chwaraeon dŵr neu rywun eithaf profiadol, mae ein clwb wedi ei leoli’n berffaith mewn bae hyfryd, ac yn cynnig hwylio diogel i ddechreuwyr, tra bo’r rhai mwyaf profiadol yn gallu mynd ymhellach i ffwrdd i’r lleoliadau hyfryd sydd gan Ynys Môn i’w gynnig.
Rydym yn glwb gwyliau sy’n agored rhwng y Pasg hyd at fis Hydref, sy’n cael ei redeg gan aelodau i aelodau. Ein hethos yw annog pawb i gael hwyl a mwynhau’r dŵr yn ddiogel.
Mae gennym wahanol raglenni trwy gydol y tymor o rasio dingi i hyfforddi hwylio i blant iau. Os ydych chi am fynd allan ar y dŵr, mae ein sesiynau ‘hwylio i ffwrdd’ i fannau cyfagos yn dod yn boblogaidd. Mae gan y clwb hefyd galendr cymdeithasol i bawb ei fwynhau. I weld mwy, ymunwch â ni ar FaceBook.
