Clwb Seiclo Caergybi
Beicio Ynys Môn
Mae gan y clwb ystod eang o weithgareddau beicio, gan gynnwys treialu amser, rasio ffyrdd a reidiau hamddenol. Er hynny, fel llawer o glybiau beicio, y prif faes yw’r treialon amser wythnosol sy’n amrywio o dreialon deg milltir i deithiau 25 milltir ar ffordd Rhosneigr - Aberffraw - Niwbwrch (A4080). Mae hefyd cyfle gwych i aelodau newydd ymuno gyda’r treial amser 8 milltir ar gwrs Rhosneigr - Engedi - Rhosneigr.
Mae’r sesiynau clwb yn boblogaidd iawn y tu allan i’r tymor ar gyfer cymdeithasu a hyfforddi tra’n ystod y tymor mae digwyddiadau agored yn cael eu cynnal ar y penwythnosau ar y calendr C.T.A.F a W.C.U. Mae gan y clwb dros 25 mlynedd o brofiad o gynnal digwyddiadau sy’n amrywio o bencampwriaethau Cymru i dreialon amser wythnosol.
Mae’r clwb yn croesawu aelodau newydd o bob agwedd o feicio, o ddechreuwyr i seiclwyr profiadol. Bydd croeso cynnes i bawb.
Am fanylion pellach ar sut i ymuno, cysylltwch â ni.
- Cyswllt:
- Annie Glover
- Rhif Ffôn:
- 07932278119
- Gwefan:
- http://www.holyheadcyclingclub.co.uk