Clwb Rhwyfo Pwllheli
Rhwyfo Gwynedd
Rydym yn rhwyfo o Bwllheli, ac yn aelodau o Gymdeithas Rhwyfo Môr Cymru (WSRA).
Rydym yn rhwyfo am hwyl ond hefyd yn cystadlu mewn ambell ras cynghrair ar draws Cymru. Rydym hyd yn oed wedi rhwyfo ar y Tafwys ac i Iwerddon!
Mae gan y clwb ddau Gwch Hir Celtaidd (Madryn a Mererid) a thri chwch bach (Yoles).
Mae rhwyfo yn ymarfer corff aerobic gwych sydd yn “low-impact”.
Rydym yn croesawu aelodau newydd unrhyw dro (beth bynnag fo’u profiad neu ffitrwydd), felly beth ydych yn aros amdano?
- Cyswllt:
- Carwyn Jones-Evans
- Gwefan:
- http://www.facebook.com/clwbrhwyfopwllheli
- Oedran Isafswm:
- 16