Diwrnod Gweithgareddau Traeth Lligwy
08/08/2018
Mae Caffi Traeth Lligwy yn cynnal diwrnod llawn gweithgareddau i’r holl deulu fel rhan o ddathliad Blwyddyn y Môr Croeso Cymru.
Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael, gan gynnwys nofio môr, padlo, beicio ac arddangosfeydd RNLI.
Os oes well gennych chi wylio, gallech brofi’r awyrgylch yn y tipi ger y traeth lle bydd lluniaeth ar gael trwy gydol y dydd yn ogystal â cherddoriaeth fyw o 3yp ymlaen!
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ceri ar cerijones3@ynysmon.gov.uk.
