Croeso i Sian!

06/06/2019

Sian yw’r aelod diweddaraf i dim y Bartneriaeth Awyr Agored.

Fel ein Swyddog Gwirfoddolwyr, bydd yn gweithio i ddatblygu gwaith gwirfoddolwyr clybiau Awyr Agored Gogledd Cymru, ac yn lledaenu y neges am waith y Bartneriaeth a’r cyfleoedd ar gael i glybiau ar draws Cymru gyfan.

Wedi treulio nifer o flynyddoedd yn teithio a gweithio dramor, yn bennaf yn y diwydiant sgio, dychwelodd i Gymru i weithio fel swyddog Datblygu Chwaraeon, yn mwynhau y cyfle i annog plant Gwynedd i gymryd rhan mewn chwaraeon o bob math.

Mae gweithio i’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gyfle iddi gefnogi unigolion, grwpiau a chlybiau i fwynhau yr awyr agored, fel mae hithau yn ei wneud.

Tu allan i’r gwaith, mae’n debyg mai yma y darganfyddwch hi! Unai yn beicio ar hyd y ffyrdd cefn distaw, nofio yn y mor neu’r llynoedd, ar daith yn ei fan, neu’n rhedeg a rasio ar fynyddoedd dros y wlad – yn aml yn deud wrthi ei hun, pan yn tuchan i fyny allt serth, i ddod o hyd i hobi newydd!