Nod ein rhaglen Antur i Bawb yw chwalu’r rhwystrau sy’n bodoli ar hyn o bryd a gwella mynediad a chyfleoedd mewn gweithgareddau awyr agored i bobl gydag anableddau.

Y rhaglen

Rydym yn herio pobl anabl, eu teuluoedd a’u ffrindiau i roi cynnig ar weithgaredd antur awyr agored. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys hwylio, canŵio, caiacio, padlfyrddio, dringo, cerdded mynyddoedd, beicio, rhwyfo a llawer mwy.
Nod y fenter yw cynyddu cyfranogiad pobl anabl ar draws ein rhanbarthau. Yn 2014, dyfynnodd Chwaraeon Anabledd Cymru fod 24% o boblogaeth Cymru yn anabl, a dim ond 3.4% ohonynt sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden yng Ngogledd Cymru.

Antur i Bawb
“We as a family have really enjoyed the Sailability sessions. We've met some amazing people and it's enabled our daughter to participate in a sport she would never have been able too if it wasn't for the time and effort of the organisers and volunteers. Thank you to everybody involved!”
Teulu Reddish
SEAS Sailability - Collaborative Project between RYA Cymru and Conway Centre
Clybiau Cynhwysol

Mae’r rhaglen Insport i glybiau yn rhan o’r prosiect Insport ehangach a ddarperir gan Chwaraeon Anabledd Cymru, sy’n ceisio cefnogi’r sectorau gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden sy’n darparu  yn gynhwysol.

Diben Insport i glybiau yw cefnogi clybiau i ddatblygu eu darpariaeth fel ei fod yn cynnwys pobl anabl. Ei nôd ydi creu clybiau sydd â strwythurau i allu darparu’r cyfleoedd gorau i’r gymuned, a chynyddu cyfranogiad ac aelodaeth pobl gydag anableddau. Mae hefyd yn galluogi adrannau mwy o’r gymuned i gymryd rhan mewn rôl lywodraethu wirfoddol, a pharhau i ddarparu chwaraeon gwych ledled Cymru.

Am fwy o wybodaeth neu i weld a yw eich clwb yn gymwys, ewch i wefan  Chwaraeon Anabledd Cymru

Clwb Dringo Cynhwysol

Sefydlwyd Clwb Dringo cynhwysol newydd gan y Bartneriaeth Awyr Agored ym mis Tachwedd 2022.
Sefydlwyd y clwb ar ôl i gyfres o sesiynau blasu dringo cynhwysol ym Mhowys a Gwent ddatgelu pa mor awyddus oedd pawb i gael mynediad i’w canolfan ddringo leol.

Mae’r clwb ar gyfer unrhyw un sydd â namau synhwyraidd, deallusol neu gorfforol neu gyflyrau iechyd cronig. Mae’n cynnig cyfle i ddringo ac mae annogaeth i rieni a gwirfoddolwyr i gymryd rhan hefyd. Mae cyllid gan Morrisons Foundation a Chwaraeon Powys wedi galluogi’r sesiynau hyn i gael eu cynnal ac mae Canolfan Gweithgareddau Llangors bellach wedi dod yn gartref answyddogol i’r clwb dringo cynhwysol.

Clwb Dringo Cynhwysol - Powys a Gwent
Gwyl Chwaraeon Dŵr Cynhwysol

Cynhaliwyd y digwyddiad unigryw hwn yn Dale, Sir Benfro, ar y cyd gyda 3 darparwr lleol, gan roi blas ar amrywiaeth o weithgareddau, o badlfyrddio a nofio i weithgareddau traeth fel chwilota creigiau. Roedd y cyfleoedd hygyrch hyn yn caniatáu i deuluoedd ddod draw a chymryd rhan gyda’i gilydd, i ddod o hyd i weithgaredd awyr agored y maent i gyd yn ei fwynhau ac yn gallu parhau i wneud, gyda’i gilydd.

Fe wnaethom hefyd wahodd sefydliadau eraill, fel Ross Handling a ddaeth ag offer arbenigol anhygoel gyda nhw i bobl roi cynnig arnynt, ac elusen Cerebra sy’n helpu teuluoedd plant sy’n byw gydag anafiadau i’r ymennydd. Roedd hyn yn caniatáu cyfleoedd i gyfranogwyr a’u teuluoedd rannu gwybodaeth yn ogystal â hwyl yn y dŵr ac o’i gwmpas.
Diolch yn fawr i’n holl gydweithwyr a gynhaliodd y digwyddiad gwych hwn ochr yn ochr â ni: Celtic Deep, Chwaraeon Dŵr Gwyntog, Nofio Gwyllt Cymru, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r RNLI.

Addysg Hyfforddwr Cynhwysol

Ein nod yw cefnogi clybiau gweithgareddau awyr agored sy’n bodoli yn bresennol yn y gymuned, drwy drefnu a sybsideiddio hyfforddiant penodol. Gall clybiau sydd â diddordeb mewn dod yn fwy cynhwysol, ddatblygu’r clwb drwy weithio trwy’r  achrediad insport gan Chwaraeon Anabledd Cymru. Gall cefnogaeth hyfforddiant gynnwys;

  • Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd
  • BCU Paddle-ability
  • Dringo i Bawb
  • Sailability
  • Hyfforddi gydag Anabledd (Lefel 2)
Cyrsiau Dringo i Bawb

Mae “Dringo i Bawb” yn gwrs un diwrnod, wedi’i achredu gan Gyngor Mynydda Prydain (BMC), sy’n rhoi cyflwyniad i hyfforddi pobl anabl wrth ddringo. Mae’n rhoi’r sgiliau i hyfforddwyr ymgysylltu â phobl anabl yn fwy effeithiol wrth ddringo.
Nod y cwrs yw darparu mwy o gyfleoedd dringo i bobl anabl drwy roi mwy o sgiliau a hyder i hyfforddwyr dringo wrth gyflwyno sesiynau.

 

Trefnwyd cyrsiau gan ein swyddogion datblygu mewn llawer o’n rhanbarthau, gan gynnwys Wal Ddringo Gilford, Gogledd Iwerddon, Wal Ddringo “The Rock” yn Harlech, Gwynedd, Summit Centre ym Merthyr Tudfil, Canolfan Gweithgaredd Llangors a Dynamic Rock yn Abertawe. Mae hyn wedi creu nifer o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr gydag addysg a hyfforddiant, ac sy’n awyddus ac yn abl i gynnwys pobl ag anableddau amrywiol mewn gweithgaredd dringo.

Oherwydd y galw cynyddol am ddarparu gweithdai “Dringo i Bawb” yng Nghymru, mae Andy Cummings o Manzoku Climbing and Mountaineering o Gymru hefyd bellach wedi’i gymeradwyo i gyflwyno’r cyrsiau hyn, sy’n newyddion gwych ar gyfer dringo cynhwysol yng Nghymru.

Diolch yn fawr iawn i Paul Kellagher, Ricky Bell, Graeme Hill ac Andy Cummings am eu holl gymorth gyda’r gwaith hwn.

Ym mis Mawrth 2021, Y Bartneriaeth Awyr Agored oedd y sefydliad trydydd sector cyntaf i gwblhau Achrediad Arian Insport Chwaraeon Anabledd Cymru.

Rydym bellach yn gweithio yn ddiwyd i anelu am yr Achrediad Aur.

“I would like to thank The Outdoor Partnership for coming into Ysgol y Gogarth and bringing in the e-bikes and wheelchair carrier bike. From that moment I was hooked on them to the point we as a family have all got them. Lexie has a wheelchair carrier with electric assist so she can come out on family bike rides enjoying the fresh air and the beautiful scenery around North Wales. There is no stopping us as a family now!”
Debbie, Nick & Lexie Brennan
Inclusive Adventure Programme