Mae’r rhaglen Iechyd a Lles yn defnyddio strwythurau sy’n bodoli yn barod i ddod â phartneriaid o’r sectorau awyr agored ac iechyd ynghyd. Y bwriad ydi cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, gwella iechyd meddwl a chorfforol a darparu cysylltiadau â chlybiau a grwpiau cymunedol lleol i alluogi pobl i fyw bywydau egnïol tymor hir annibynnol.

 

Iach ac Egniol

Datblygwyd ein rhaglen Iechyd a Llês i ddechrau yng Ngogledd Cymru yn 2019 gyda chyllid gan gronfa Iach ac Egnïol  Llywodraeth Cymru.  Roedd y prosiect Agor Drysau i’r Awyr Agored yn  gydweithrediad rhwng y Bartneriaeth Awyr Agored, timau Iechyd Meddwl Cymunedol ar draws Gogledd Cymru, darparwyr gweithgareddau awyr agored lleol yn yr ardal a sefydliadau’r trydydd sector.

Bu i werthusiad annibynnol ddangos, am bob £1 a fuddsoddwyd yn y prosiect, fe gynhyrchwyd £5.36 o werth cymdeithasol i gyfranogwyr. Yn ogystal, roedd cyfweliadau â chleientiaid yn dangos cynydd mewn llês meddyliol, hyder, cysylltiad cymdeithasol, a iechyd cyffredinol o ganlyniad i gymryd rhan yn y prosiect (Prifysgol Bangor, 2022).

Agor Drysau i'r Awyr Agored
Therapi Antur

Drwy ein rhaglen Iechyd a Lles cawsom ein cyflwyno i wasanaethau Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Seicosis (EIP) ledled Cymru. Gan ddefnyddio cyllid EnRAW buom yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau arbennigol hyn i ddatblygu rhaglenni Therapi Antur. Roedd hyn yn integreiddio gwybodaeth ddamcaniaethol ochr yn ochr â sesiynau ymarferol, i helpu i ddatblygu gwytnwch emosiynol pobl, lleihau stigma a datblygu grwpiau cymorth cymdeithasol.

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored bellach yn cadeirio is-grŵp Therapi Antur Cymru Gyfan ac mae’n datblygu prosiectau, cysylltiadau a phartneriaethau gyda’r 7 bwrdd iechyd ledled Cymru, i ddatblygu hyn fel safon genedlaethol yng Nghymru sy’n cefnogi canlyniadau i’r byrddau iechyd a’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Sut mae Therapi Antur yn helpu pobl sy'n byw gyda Seicosis
Presgripsiynu Cymdeithasol Tir i Ddŵr

Gan ddatblygu’r rhaglen Iechyd a Lles ymhellach, fe wnaethom ymuno ag Adferiad Recovery ac yn benodol y Tîm Ymyrraeth Gynnar yn Adferiad ar brosiect peilot, i gynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 18 a 34 oed archwilio’r awyr agored trwy raglen Presgripsiynu Cymdeithasol Tir i Ddwr.

Gan weithio’n agos gyda 2 ddarparwr lleol, roedd sesiynau’r rhaglen yn seiliedig ar ymchwil o amgylch Ecotherapi;  math ffurfiol o driniaeth therapiwtig sy’n cynnwys gwneud gweithgareddau awyr agored ym myd natur, ac yn cynnwys trochi dŵr oer a’r holl fanteision y mae hyn yn ei roi. Rhoddodd y rhaglen gyfle i gyfranogwyr ddysgu am natur a’u hamgylchoedd ar y tir, trwy weithgareddau crefft a theithiau cerdded tywysedig, yn ogystal â chyflwyniad diogel a thawel i nofio dŵr agored.

Prosiect Presgripsiynu Cymdeithasol Tir i Ddŵr
Budd Cymdeithasol ar Fuddsoddiant (SROI)

Mae dadansoddiad Budd Cymdeithasol ar Fuddsoddiad wedi ei gynnal gan Brifysgol Bangor ar ein rhaglen Agor Drysau i’r Awyr Agored.

Amlygodd y ddamcaniaeth newid y canlyniadau canlynol ar gyfer cyfranogwyr;

Damcaniaeth Newid

Sesiynnau Cerdded a Nofio / Hike and Dip

Dyma esiampl gwych o arferion da yn cael eu rhannu rhwng ein rhanbarthau; mae ein  sesiynau Cerdded a Nofio / Hike and Dip wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Mae buddion nofio awyr agored a trochi dŵr oer wedi eu nodi yn aml, ac mae’r cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n trio’r gweithgaredd wedi rhoi syniad i ni, i gael hyd yn oed mwy o bobl i ymddiddori.

Mae ein  sesiynau Cerdded a Nofio / Hike and Dip, a ddechreuodd yn Sir Benfro, a bellach wedi lledaenu cyn belled â Swydd Ayr, yn cynnwys cyfleoedd i gyfranogwyr ymuno ar deithiau cerdded hardd a chael eu tywys drwy’r camau petrus cyntaf hynny i drochi dŵr agored. Gall y manteision iechyd corfforol a meddyliol a geir o’r gweithgaredd fod yn hynod fuddiol.

Gan fod y mwyafrif o’r rhanbarthau yr ydym yn gweithredu ynddynt unai yn ardaloedd arfordiroedd trawiadol neu gyda ffynonellau dŵr mewndirol hardd, mae hwn yn weithgaredd awyr agored sy’n hawdd ei gyrraedd yn ddaearyddol. Mae hefyd yn weithgaredd lle nad oes angen offer arbennigol drud, ac felly yn weithgaredd cost isel hefyd. Ond darganfuwyd fod rhai pobl yn wyliadwrus o’r dŵr, naill ai am resymau diogelwch, neu ddiffyg rhywun i fynd gyda nhw. Mae ein sesiynau Cerdded a Nofio / Hike and Dip yn darparu’r  wybodaeth, yr hyder a’r cwmni elfennol hwnnw y gall pawb ei ennill ac adeiladu arno’n raddol, i ganiatáu mynediad at weithgaredd awyr agored rhad, hawdd ei gyrraedd, y gallant ei fwynhau am oes. Beth sy’n well na hynny?!

“You know it's going to be a good day when even the drive down to the car park makes you say "WOW" out loud to yourself. The buzz everyone felt from today's Hike & Dip event was absolutely contagious! Thank you all for being amazing sports and bringing all the energy . Conditions were picture perfect with possibly the clearest view I've ever seen of Ailsa Craig and Arran. We enjoyed a peaceful walk along our beautiful coastline towards Culzean Castle, perched on its clifftop and illuminated by the sun all the way. After a very important loo stop at the visitor centre we made our way back via "secret" wild woodland tracks and trails . Open water with Elaine then took over and led us through a fantastic dip. The water was a very pleasant (actually!!) 19 degrees. If you'd been on the beach you'd have heard many MANY shrieks of laughter and cheers of support coming from us as members of the group attempted mermaid dives or handstands in the water. So. Much. Fun ”
Gillian
Arweinydd "Gillians Walks"