Y Bartneriaeth
Awyr Agored

Profiad | Mwynhau | Llwyddo

Rhoddi

Ymunwch â ni

Mae modd ichi ymuno gyda'r Bartneriaeth fel Clwb/Grŵp Gwirfoddol, Aelod Unigol neu Aelod Corfforaethol. Darganfyddwch sut y gallwch elwa o fod yn aelod.

HOFFWN WIRFODDOLI

Gwych! 'Da ni eisiau eich cyfarfod chi gan fod yna gymaint o bethau y gallech ei wneud. Darganfyddwch yr holl gyfleoedd yn eich ardal.

DOD O HYD I GLWB

Mae cymaint o glybiau gwych yn yr ardal - cymrwch olwg ar y rhestr o glybiau gweithgareddau awyr agored yng Ngogledd Cymru.

EIN PROSIECTAU

Darganfyddwch fwy am ein prosiectau a sut y gallwch gymryd rhan- mae gennym brosiectau rhyfeddol!

CEFNOGAETH I WIRFODDOLWYR

Ydych chi’n gwirfoddoli’n barod? Cofrestrwch gyda ni i weld sut allem eich helpu gyda chymorth a hyfforddiant.

Eich Adborth

Byddem wrth ein boddau yn clywed eich barn - mae sylwadau adeiladol yn ein helpu i wella ac mae canmoliaethau yn ein gwneud yn hapus felly dywedwch wrthym be’ ‘da chi’n ei feddwl!

Amdanom Ni

Rydym yn cydweithio gyda thrigolion Cymru fel eu bod yn mynd ati i wneud gweithgareddau awyr agored fel ymgyrch gydol oes. Gyda’n gilydd gallwn newid bywydau unwaith ac am byth. O glybiau lleol hyd at gopaon ein mynyddoedd, mae cyfle i bawb gymryd rhan.

Mae ein prosiectau yn fodd o roi hwb i hyder pobl a’u helpu i ddatblygu sgiliau a dysgu i weithio mewn tîm er mwyn mynd ati i fanteisio ar gyfleoedd newydd a bywydau mwy iach. Drwy wirfoddoli, manteisio ar addysg, cymryd rhan, cyflawni hyfforddiant a drwy weithio mae modd i bawb fynd ati i newid unwaith ac am byth.

Creu Cymru heini, iach a chynhwysol, lle mae gweithgareddau awyr agored yn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan, mwynhau, cyflawni a dod o hyd i waith, gan ddod â chymunedau at ei o’r amgylchedd.

Rhoi mwy o gyfle i fwy o bobl yng Nghymru gyflawni eu potensial trwy gyfrwng gweithgareddau awyr agored.

  1. Ysbrydoli plant a phobl ifanc i fod yn fwy heini yn yr awyr agored mewn ffordd gynaliadwy.
  2. Cefnogi datblygu cynnyrch o safon mewn llefydd priodol er mwyn darparu profiadau hwyl yn yr awyr agored.
  3. Rhoi cefnogaeth i bobl leol gymryd rhan mewn gweithgareddau, datblygu sgiliau a chael gwaith.
  4. Gweithredu Cynllun Partneriaid
Mwy

Ein Fideos

Newyddion Diweddaraf

Mae Cheryl Brassey o Clwb Nofio Traeth Lligwy wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwirfoddolwr y Mis ar gyfer mis Chwefror. Mae Cheryl Brassey yn hoff iawn o nofio yn yr awyr agored ac ers iddi gychwyn Clwb Nofio Traeth Lligwy yn 2018, mae hi wedi cyflwyno dros hanner cant o bobl i fwynhau nofio yn yr awyr agored

Clwb Padlo Lleol yn derbyn Hwb Ariannol!

Derbyniodd Clwb Padlo Dysynni arian cymunedol yn ddiweddar gan Tesco, eu harchfarchnad leol. Agorwyd y pleidleisiau yn yr archfarchnad yn Aberystwyth ym mis Tachwedd a bu’r siopwyr yn derbyn tocynnau i bleidleisio rhwng tri phrosiect o fewn eu cymuned drwy brosiect Bags of Help Tesco

Taith Gerdded i Cwm Idwal

Ymunwch â ni ar daith wedi ei harwain i Warchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal*, lle cewch fwynhau bod yn yr elfennau ac yng nghanol bywyd gwyllt arbennig. Gall y daith fod yn hamddenol, neu heriol, a nôd y diwrnod yw eich bod yn mwynhau tra’n ymarfer.

Cynllun Prentisiaeth Awyr Agored Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Mae Gwersyll Glan-llyn yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a derbyn hyfforddiant tuag at ennill cymwysterau cydnabyddedig yn y maes awyr agored. Gall y gweithgareddau yma gynnwys canwio, ceufadu, hwylio, cwch achub, arweinydd mynydd a chymorth cyntaf.

Ymunwch â ni

Clybiau a Grwpiau

Mae croeso i bob clwb a grŵp sy'n cynnig gweithgareddau awyr agored rheolaidd i drigolion ymaelodi. Mae tri fath o aelodaeth ar gael - Aur, Arian ac Efydd.

Unigol

Ar gael i unigolion sy’n rhannu’r un weledigaeth a chenhadaeth y Bartneriaeth Awyr Agored ac sydd eisiau cyfrannu tuag at waith yr elusen. Mae gan aelodau unigol bleidlais yn ein Cyfarfod Blynyddol.

Rhanddeiliaid

Gall mudiadau o fewn yr ardal fantais, sy'n rhannu'r un weledigaeth a chenhadaeth ag amcanion y Bartneriaeth Awyr Agored a dangos cyfraniad materol, fanteisio ar aelodaeth i randdeiliaid.

Beth mae pobl yn ei ddweud