Ymunwch â ni
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gwmni partneriaeth cymunedol elusennol sy’n newid bywydau drwy gynnig gweithgareddau awyr agored. Mae’r Bartneriaeth yn annog pobl yr ardal i ymwneud â gweithgareddau awyr agored drwy gymryd rhan, manteisio ar addysg, gwirfoddoli a dod o hyd i waith sydd yn y pendraw yn gwella iechyd a lles cymdeithasol ac economaidd.
Hoffech chi leisio’ch barn ynghylch polisïau ac ymarfer gorau yn ymwneud â’r awyr agored yn ogystal â hyrwyddo cyfloedd awyr agored yn y rhanbarth? Gallwch ymuno gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored.
Mae croeso i bob clwb a grŵp gweithgareddau awyr agored sy’n cynnig gweithgareddau awyr agored rheolaidd i drigolion ymaelodi.
Mae aelodaeth clwb llawn yn cael ei gynnig AM DDIM hyd nes diwedd mis Mawrth 2021 (cost arferol yn £150)
Lawrlwythwch ein ffurflen ymaelodi isod a’i ddychwelyd yn dol drwy ebsot neu post.(ar gael yn fuan)
- • Cyfle i fanteisio ar Wobrau Corff Llywodraethol Cenedlaethol am £20 y diwrnod.
• Mynediad i’n cynllun Mentora newydd. Gall gwirfoddolwyr fanteisio ar gyfle i weithio yn unigol efo hyfforddwr profiadol i wella sgiliau i baratoi ar gyfer cymhwyso fel hyfforddwr neu arweinydd. Cost o £20 y dydd.
• Cyngor a chefnogaeth gan ein tîm staff ynghylch y canlynol: recriwtio gwirfoddolwyr, lleoli gweithwyr, cynhaliaeth a chydnabod, cyngor gyrfaoedd i aelodau ar eu taith at ddod o hyd i waith yn y sector, sgiliau, hyfforddiant a gwobrau Corff Llywodraethol Cenedlaethol, cynwysoldeb (e.e. Achrediad Insport), strwythur a threfn lywodraethol clybiau, ffynonellau ariannu a dod o hyd i a chynnal a chadw offer.
• Hyrwyddo’ch clwb/grŵp/digwyddiad am ddim ar ein gwefan, map clwb a thudalennau cyfryngau cymdeithasol.
• Mynediad i gyrsiau rhithiol ar bynciau fel Diogelu a Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar bris gostyngedig.
• Cyfle i fanteisio ar weithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus (e.e. cynnal a chadw offer, lles plant, codi arian) - am gost ostyngol.
• Cyfle i fanteisio ar gyrsiau cymorth cyntaf awyr agored REC am £20 y diwrnod.
• Bydd gan bob grŵp neu glwb bleidlais unigol yn ein Cyfarfod Blynyddol.