Newyddion

Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored x 4
Bu i’r Elusen lwyddo i ennill cyllid mewn egwyddor, gan Gronfa Galluogi Adnoddau a Naturiol a Llesiant i gynnig yr un gwasanaeth ac ethos mewn rhanbarthau eraill yng Nghymru. Mae ‘Agor y Drysau i’r Awyr Agored’ yn brosiect 2 flynedd o hyd ac mae’r Elusen yn dymuno recriwtio pedwar Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored dynamig, proffesiynol medrus a chymwys. Bydd pob Swyddog yn gweithio yn un o’r lleoliadau canlynol
02/03/2021

GRANTIAU HUD BACH 2021 AR AGOR AR 1 MAWRTH
Gall elusennau a grwpiau cymunedol llai ledled Prydain Fawr wneud cais am grant untro o £500 rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref 2021.
24/02/2021

Cronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon
Mae pecyn cymorth Covid-19 newydd yn agor yr wythnos hon ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd yn y sector chwaraeon y mae eu gwaith yn cyflwyno gweithgareddau yn uniongyrchol i gyfranogwyr, fel hyfforddwyr chwaraeon, hyfforddwyr personol, hyfforddwyr ffitrwydd a hyfforddwyr dawns. Mae cyllid o £1,500 ar gael drwy'r 'Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon', a bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut maent wedi colli o leiaf y swm hwnnw mewn incwm ers i'r argyfwng ddechrau oherwydd bod contractau'n cael eu canslo neu gyfyngiadau'n atal eu gwaith.
25/11/2020

Clwb Canŵio Amlwch – Clwb Canŵio’r Flwyddyn Cymru 2020
Roedd yn wych darganfod yn ddiweddar fod dau o’n aelodau, Clwb Canŵio Amlwch a Chlwb Canŵ Colwyn, wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobr glodfawr Clwb y Flwyddyn gan Canŵ Cymru, ac yn well byth clywed fod Amlwch wedi ennill!! Siaradom gyda Phil o Amlwch yn ddiweddar, wrth iddo edrych yn ôl ar ei amser gyda’r clwb a sut mae gweithio gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi helpu’r clwb i ddatblygu
12/11/2020

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL – Y BARTNERIAETH AWYR AGORED
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn bwriadu cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar yr 17eg o Fedi 2020 drwy Zoom. Os yw eich clwb yn aelod o’r Bartneriaeth Awyr Agored, cadwch lygad allan am wahoddiad ffurfiol dros e-bost
03/09/2020

Posteri Negeseuon Covid19 - Adventure Smart
Mae Adventure Smart wedi llunio cyfres o bosteri i helpu i gyfleu negeseuon AdventureSmart yng nghyd-destun Covid-19. Mae croeso i chi ddefnyddio a lledaenu gair y negeseuon allweddol.
01/07/2020

Sgwrs gyda Samantha English o Rhwyfo Cymru
Dyma gyflwyno Sian; swyddog Gwirfoddoli ac Addysgu Hyfforddwyr Y Bartneriaeth Awyr Agored, a Sam, swyddog Datblygu Rhwyfo Môr o Rhwyfo Cymru.
24/06/2020

Cyflawniadau Allweddol Ebrill 2019 - Mawth 2020
Dyma’r hyn yr ydym wedi ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf! DIOLCH enfawr i’n holl partneriaid cyllidol, gwirfoddolwyr, ein tîm staff a'n hymddiriedolwyr
22/06/2020

Wythnos y Gwirfoddolwyr - Gwirfoddolwr y dydd Gwener
Clwb Awyr Agored y Gogarth
05/06/2020

Wythnos y Gwirfoddolwyr - Gwirfoddolwr y dydd Iau
Claire Branston o Glwb Canwio Amlwch a Clwb Antur Dyffryn Peris
04/06/2020

Wythnos y Gwirfoddolwyr - Gwirfoddolwr y dydd Mawrth
Simon Brown o Glwb Syrffio Dyffryn Conwy
03/06/2020

Wythnos y Gwirfoddolwyr - Gwirfoddolwr y dydd Mawrth
Jamie Holding o Glwb Antur Môn
02/06/2020

Wythnos y Gwirfoddolwyr - Gwirfoddolwr y dydd Llun
Enillydd y dydd heddiw ydi Dylan Hughes o Hamdden Harlech Ardudwy Leisure
01/06/2020

Enwebwch eich Gwirfoddolwyr Gwych
Wythnos nesa mae hi’n Wythnos Cenedlaethol y Gwirfoddolwyr, ac fe hoffwn ni ddeud "Diolch yn Fawr" i wirfoddolwyr ein clybiau i gyd!!
29/05/2020

GWAHODDIAD I GYFLWYNO TENDR AM YMGYRCH FARCHNATA DROS 12 MIS I’R BARTNERIAETH AWYR AGORED
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn chwilio am gynigion gan sefydliadau i gynnal ymgyrch dros 12 mis i godi proffil yr elusen yn dilyn argyfwng COVID-19 drwy gynyddu’r nifer o ymwelwyr i’n gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol a chynyddu’r ymgysylltiad cymdeithasol a chyfranogaeth mewn gweithgareddau awyr agored drwy’r elusen.
04/05/2020

COVID - 19 - Yma i helpu
Mae’r rhain yn gyfnodau anodd ac rydym yn cynghori pob aelod i ddilyn polisïau diweddaraf y llywodraeth a’r cynghorau lleol ynghylch coronafirws (COVID-19). Yn ogystal â’ch cyfeirio at ffynonellau o arweiniad gan asiantaethau allweddol a chyrff llywodraethu, rydym ar hyn o bryd ynghanol creu tudalen adnoddau COVID-19 ar ein gwefan.
08/04/2020

Diweddariad gan y Bartneriaeth Awyr Agored
Yn yr amser anarferol tu hwnt yma, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn dal i fod yn weithredol ac yn awyddus i gadw cyswllt gyda’n holl glybiau ac aelodau. Mae mis Ebrill fel arfer yn golygu dechrau blwyddyn aelodaeth newydd, ond o ystyried y sefyllfa bresenol rydym wedi penderfyny na fyddwn yn cynnig aelodaeth ym mis Ebrill eleni. Gyda holl weithgareddau a digwyddiadau wedi eu gohurio am amser amhenodol, a meddyliau pobl ar gadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel, nid dyma’r amser i hyn. Fodd bynnag, pan ddaw yr amser i ail-afael mewn gweithgareddau byddwn yn sicr yn cynnig hyn i glybiau eto.
23/03/2020

Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2019 - 2020
Mae Lauren yn weithgar iawn mewn amryw o glybiau ac yn hwyluso nifer o sesiynnau mewn gwahanol weithgareddau! Mae’r criw yma o Ysgol Eirias er engrhaifft yn falch iawn o’r cyfle i gael mynd i ddringo!
18/03/2020

Croeso i’n Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Gogledd Iwerddon newydd
Croeso i’n Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Gogledd Iwerddon newydd, Caoimhe (Keva) Connor, sydd yn ymuno â’n tîm, fel rhan o brosiect Loteri Prydain Gyfan, er mwyn ymestyn gwaith y Bartneriaeth ar draws ardaloedd arall o Brydain.
21/02/2020
Gwirfoddolwr yn Beicio i Uchderau Newydd
Yn ddiweddar, fe gwblhaodd Sarah Hattle, sef un o wirfoddolwyr lleol clwb Dreigiau Coed y Brenin, gwrs hyfforddiant Hyfforddi Lefel 2 Beicio Prydain drwy raglen Addysg Hyfforddwyr y Bartneriaeth Awyr Agored, ac o ganlyniad, mae wedi lansio sesiynau beicio i reidwyr ifanc er mwyn iddynt ddysgu’r sgiliau sylfaenol ac i fagu hyder ar gefn beic.
05/02/2020

AIL HYSBYSEB: Swyddog Gweithgareddau Awyr Agored
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi llwyddo i ennill cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Fawr er mwyn cynnal prosiect 7 mlynedd o hyd, Agor y Drws i’r Awyr Agored, i fynd ati i rannu ei ethos mewn mannau eraill ym Mhrydain. Fel rhan o’r prosiect mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn awyddus i gyflogi Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored yn yr ardal Dwyrain Ayrshire.
19/01/2020

Y Bartneriaeth Awyr agored yn ennill gwobr y categori Gwobr am y defnydd gorau o’r Gymraeg yn seremoni gyntaf Gwobrau Elusennau Cymru
Enillodd [Y Bartneriaeth Awyr Agored] o [Capel Curig] wobr fawreddog nos Wener (15 Tachwedd) yn seremoni gyntaf Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i wobrwyo rhagoriaeth yn y trydydd sector yng Nghymru.
04/12/2019

Y BARTNERIAETH AWYR AGORED WEDI CYRRAEDD Y RHESTR FER AR GYFER DWY WOBR GENEDLAETHOL
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Gwobr Cynnwys y Gymuned a’r Wobr am y defnydd gorau o’r Gymraeg yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2019, a gynhelir ar 15 Tachwedd.
12/11/2019

Plant ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn Diwrnod o Chwaraeon Padlo!
Wythnos diwethaf yng ngogledd Cymru, cymrodd dros 250 o blant o 16 ysgol ran mewn diwrnod o chwaraeon padlo.
09/11/2019

Elusen Leol yn dathlu ei 10fed Gŵyl Awyr Agored
Cynhaliodd y Bartneriaeth Awyr Agored ei 10fed Gŵyl Gweithgareddau Awyr Agored flynyddol ar 14 Medi ym Mhlas y Brenin, Capel Curig. Mae’r elusen leol wedi bod yn cynnal y digwyddiad ers 2009 fel ffordd o ddiolch i’w gwirfoddolwyr am eu hymrwymiad a rhoi’r cyfle i bobl leol roi cynnig ar gyfoeth o weithgareddau ar garreg eu haelwyd.
01/10/2019

HYSBYSIAD AM GYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL - Y BARTNERIAETH AWYR AGORED
Hysbysir drwy hyn y bydd cyfarfod cyffredinol blynyddol 2019 y cwmni yn cael ei gynnal ym MHLAS y BRENIN ar y 14eg o FEDI am 4.45yp.
30/07/2019

Hyfforddeion Awyr Agored Gogledd Cymru
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn rhedeg rhaglen newydd a chyffrous ar gyfer pobl sydd rhwng 17-30 ac yn byw yng ngogledd Cymru. Rydym yn gobeithio cynyddu’r nifer o bobl sy’n ymgeisio am swyddi hyfforddeion o fewn canolfannau a busnesau awyr agored yn yr ardal.
24/06/2019

Croeso i Sian!
Sian yw’r aelod diweddaraf i dim y Bartneriaeth Awyr Agored. Fel ein Swyddog Gwirfoddolwyr, bydd yn gweithio i ddatblygu gwaith gwirfoddolwyr clybiau Awyr Agored Gogledd Cymru
06/06/2019

RAS A THAITH CANŴ CONWY ASCENT - 8fed o Fehefin 2019
Mae Conwy Ascent yn ddigwyddiad canŵio. Bydd y ras yn dechrau o’r Beacons, Conwy ac yn mynd i Ddolgarrog ar y llanw
31/05/2019

Gwirfoddolwr y Mis am fis Mai: Rhys Jones
Mae’r wobr hon yn cydnabod ymdrechion gwirfoddolwyr sydd yn gwneud gwahaniaeth o fewn eu clwb. Rhys Jones o Glwb Canŵio Amlwch ydi enillydd y wobr ar gyfer mis Mai. Llongyfarchiadau Rhys!
17/05/2019

Lansio cronfa £1m ‘Lle i Chwaraeon’ i wella cyfleusterau chwaraeon Cymru
Mae Chwaraeon Cymru, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, heddiw (30 Ebrill 2019) wedi lansio cronfa newydd, 'Lle i Chwaraeon', gyda hyd at £1m ar gael i glybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru. Bydd y gronfa ar gael i gefnogi prosiectau sy'n awyddus i wella, amddiffyn neu greu cyfleusterau chwaraeon newydd.
06/05/2019

I DDOD YM MIS MEHEFIN
Ydych chi am roi cynnig ar ddringo am y tro cyntaf neu’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau dringo? Mae gennym 3 sesiwn blasu a 6 sesiwn datblygu mewn bowldro a dringo yn yr awyr agored.
03/05/2019

Digwyddiadau Beicio Cymru
Cyfres Go Race MTB Gogledd Cymru - cyfle i bobl ifanc dan 16 gael rasio.
29/03/2019

Gwirfoddolwr y Mis: Chwefror - Cheryl Brassey
Mae Cheryl Brassey o Clwb Nofio Traeth Lligwy wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwirfoddolwr y Mis ar gyfer mis Chwefror. Mae Cheryl Brassey yn hoff iawn o nofio yn yr awyr agored ac ers iddi gychwyn Clwb Nofio Traeth Lligwy yn 2018, mae hi wedi cyflwyno dros hanner cant o bobl i fwynhau nofio yn yr awyr agored
28/02/2019

Clwb Padlo Lleol yn derbyn Hwb Ariannol!
Derbyniodd Clwb Padlo Dysynni arian cymunedol yn ddiweddar gan Tesco, eu harchfarchnad leol. Agorwyd y pleidleisiau yn yr archfarchnad yn Aberystwyth ym mis Tachwedd a bu’r siopwyr yn derbyn tocynnau i bleidleisio rhwng tri phrosiect o fewn eu cymuned drwy brosiect Bags of Help Tesco
15/02/2019
Taith Gerdded i Cwm Idwal
Ymunwch â ni ar daith wedi ei harwain i Warchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal*, lle cewch fwynhau bod yn yr elfennau ac yng nghanol bywyd gwyllt arbennig. Gall y daith fod yn hamddenol, neu heriol, a nôd y diwrnod yw eich bod yn mwynhau tra’n ymarfer.
13/02/2019

Hyd at £2000 ar gael i clybiau!
A wyddech chi fod gan y Postcode Lottery grantiau hyd at £2000 i’w dosbarthu i glybiau a mudiadau o fewn eich cymdeithas? Mae’r rownd gyntaf bellach ar agor er mwyn i chi ddatgan eich diddordeb yn y grant.
04/02/2019

SESIYNAU BEICIO ADDASOL
Sesiynau Beicio Addasol ym Mhlas Menai ar y 19eg o Ionawr a'r 2il o Chwefror. Gwelwch ein poster am fanylion
15/01/2019

Ydych chi â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored?
Hoffi dringo, Caiacio neu cerdded? Cyfle gwych i fentro gweithgareddau awyr agored. Agored i bawb
15/01/2019

Y Bartneriaeth Awyr Agored yn ennill gwobr Chwaraeon Cymru 2018
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael ei henwi fel Sefydliad y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2018. Mae’n helpu miloedd o bobl i ddefnyddio’r awyr agored i wella eu bywydau – gan gynnwys Gwenllian Dafydd, o Fethesda.
07/12/2018

Y Bartneriaeth Awyr Agrored yn ennill gwobr IOL
Diolch i bawb a bleidleisiodd amdanom yn ddiweddar ar gyfer y gwobrau IOL. Roedd Paul Airey, ein Cadeirydd yn bresennol i dderbyn y wobr ar ran pawb o’r Bartneriaeth Awyr Agored, gan gynnwys ein hymddiriedolwyr, ein staff a’r holl wirfoddolwyr.
07/12/2018

Cyfres Insport Gogledd Cymru
Bydd cyfres insport, sef diwrnod chwaraeon cynhwysol yn cael ei gynnal ym Mharc Eirias, Bae Colwyn mis yma. Bydd dros 20 o chwaraeon ar gael i rhoi tro arnynt, croeso i bob oedran, teuluoedd a ffrindiau. Mae’r cyfresi insport yn gyfle gwych i gael gwybodaeth am gyfleoedd sydd ar gael yn lleol
14/10/2018

Fforwm Clwb 2018 - Hydref 18fed
Hoffai’r Bartneriaeth Awyr Agored wahodd aelodau o glybiau awyr agored lleol i’r fforwm ym Mhlas y Brenin. Bydd y fforwm yn rhoi’r cyfle i ddysgu mwy am ein gwefan a’r system mewngofnodi newydd, yn ogystal â’r gefnogaeth sydd ar gael gan y Bartneriaeth Awyr Agored, gan gynnwys cyllid, cyfleoedd hyfforddi a chefnogaeth mentora.
01/10/2018

Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd
25/09/2018

Gwirfoddolwr y Mis: Medi 2018: Jackie Evans
Cafodd Clwb Dringo Cyswllt Conwy ei sefydlu ym mis Hydref 2016 ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu. Maent y n cyfarfod yn wythnosol ar wal ddringo wych Ysgol y Gogarth, Llandudno. Dros fisoedd yr haf, maent hefyd yn cyfarfod a dringo ar greigiau lleol, gan ddefnyddio’r sgiliau newydd a ddysgwyd.
10/09/2018

Gwirfoddolwr y Mis: Awst 2018: Phil Edwards., Amlwch Canoe CLub
Y 2009 symudodd Phil a’i wraig Jane i Ynys Môn. Gan eu bod wrth eu boddau yn canŵio, fe wnaethant ymuno â Chlwb Canŵio Amlwch. Yn fuan wedyn, mi wnaethant gymryd mwy o gyfrifoldebau o fewn y clwb
10/09/2018

Diwrnod Gweithgareddau Traeth Lligwy 2018 – Blwyddyn y Môr
Daeth clybiau a sefydliadau chwaraeon dŵr o bob cwr o Ynys Môn at ei gilydd yn ddiweddar i rannu eu gweithgareddau a’u sgiliau gyda phobl leol ac ymwelwyr er mwyn dathlu Blwyddyn y Môr.
05/09/2018

Gŵyl Awyr Agored Flynyddol 2018
Dyma ddiwrnod llawn hwyl wedi’i drefnu gennym ni gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr o glybiau lleol, a barbeciw am ddim i gloi’r dydd. Archebwch heddiw i gadw’ch lle.
10/08/2018

Clwb Achub Bywyd Syrffio Bae Colwyn
Daeth pobl yn llu i sesiwn gyntaf Clwb Achub Bywyd Syrffio ym Mae Colwyn. Daeth unigolion draw i Colwyn Bay Watersports ar gyfer eu sesiwn cyntaf i ddysgu am y cyfleoedd gwirfoddoli o fewn y clwb a gwahanol ffyrdd o gymryd rhan.
10/08/2018

Clwb Syrffio Cymunedol i Blant
Sefydlwyd Clwb Syrffio Dyffryn Conwy o ganlyniad i bartneriaeth rhwng y gymuned, Y Bartneriaeth Awyr Agored, Cyngor Sirol Conwy a Surf Snowdonia.
10/08/2018

Parchwch ein Mynyddoedd
Bu Ceidwaid Ifanc Eryri yn helpu i gasglu sbwriel oddi ar Lwybr Llanberis yn ddiweddar fel rhan o brosiect UIAA Parchwch ein Mynyddoedd. I gloi’r diwrnod cawsant flas ar rwyf-fyrddio ar Lyn Padarn. Diolch yn fawr am eich gwaith caled ac i Y Bartneriaeth Awyr Agored - The Outdoor Partnership
10/08/2018

Diwrnod Gweithgareddau Traeth Lligwy
Ydych chi wedi rhedeg allan o bethau i wneud dros yr haf? Dewch draw i draeth Lligwy ar y 18fed o Awst ar gyfer diwrnod llawn gweithgareddau a hwyl!
08/08/2018

Gŵyl Antur i Bawb yn torri’r Rhwystrau!
Cymrodd dros 300 o blant, pobl ifanc a staff o 7 wahanol ysgol yng Ngogledd Cymru ran yn y digwyddiad. Bu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys beicio, dringo a rhwyfo.
13/07/2018

Defnyddio’r Gymraeg yn eich clwb.
Does dim ots os ydych yn rhugl, yn ddysgwyr neu ond yn siarad ychydig o Gymraeg, yn y modiwl yma sydd wedi ei greu gan Gomisiynydd y Gymraeg, Chwaraeon Cymru, clybiau a chyrff llywodraethant chwaraeon, byddwch yn cael eich cyflwyno i fuddion defnyddio’r Gymraeg yn eich clwb chwaraeon.
28/06/2018

Adolygiad clwb: Croeso i Gerddwyr Trefriw
Mae'r grŵp cymunedol lleol yma yn Nhrefriw yn cyfarfod yn rheolaidd ar gyfer nifer o deithiau cerdded wedi'u trefnu o fewn yr ardal. Y grŵp cerdded yma yw prif drefnydd gŵyl flynyddol Gŵyl Gerdded Trefriw ac mi wnaethant dderbyn achrediad ‘Croeso i Gerddwyr’ nôl yn hydref 2014. Dyma ddyfarniad i drefi a phentrefi sydd "gyda rhywbeth arbennig i gynnig i gerddwyr".
28/06/2018

Gwirfoddolwr y Mis - Mehefin 2018
Gill Scheltinga yw cadeirydd Gŵyl Gerdded Conwy a hi oedd yn gyfrifol am sefydlu’r ŵyl flynyddol nôl yn 2013.
Am y ddwy flynedd gyntaf roedd yr ŵyl yn cael ei rhedeg o dan Cerdded Conwy Walks, ond ers 2015, mae wedi cael ei rhedeg a’i chynnal yn gwbl annibynnol.
25/06/2018
Gwirfoddolwr y Mis: Ebrill 2018 - Pete Rainford
Pete Rainford o Glwb Canŵio Amlwch am y wobr mis yma. Yn ddiweddar mi welodd ddau badlwr ger Amlwch ac roedd un wedi disgyn i’r môr a methu mynd yn ôl ar ei gaiac.
11/05/2018
Antur Sgïo i ddisgyblion Gogledd Cymru
09/05/2018

Gwirfoddolwyr y Mis: Mawrth 2018
John Smith o Glwb Hwylio Merioneth ydi enillydd gwobr Gwirfoddolwr y Mis ar gyfer mis Mawrth eleni, oherwydd ei ymroddiad i ail-lunio amcanion y Clwb wrth iddynt ddatblygu o fod yn glwb hwylio traddodiadol i gyflwyno gwahanol weithgareddau ar y dŵr.
24/04/2018

Ymgynghoriad: Gweledigaeth ddrafft ar gyfer chwaraeon yng Nghymru
Mae’r ymgynghoriad yn holi am farn ar weledigaeth arfaethedig ar gyfer chwaraeon yng Nghymru. Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 5pm ar Ebrill 30ain 2018.
05/04/2018

Beth bynnag fo’ch antur y Pasg hwn: Mentra’n Gall -Tro dy ddiwrnod da yn ddiwrnod gwell
Mae gwyliau’r Pasg ar ein gwarthau, a boed law neu hindda, bydd pobl yn mentro allan i fwyhau anturiaethau yn awyr agored gwych Cymru! Fel rhan o lansiad ymgyrch newydd sy’n cwmpasu Cymru gyfan heddiw, rydym ni’n gofyn i bobl ‘Fentra’n Gall’.
22/03/2018

Pecynnau aelodaeth newydd y Bartneriaeth Awyr Agored ar gyfer 2018
Dros y blynyddoedd, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cynnig amrywiaeth o fuddion i aelodau’r clybiau, gan gynnwys mynediad at gyrsiau hyfforddiant a mentora am bris gostyngol, cyngor ar gyllid a chyngor cyffredinol ar strwythur y clwb.
09/03/2018
Archif Newyddion Gwirfoddolwr y Mis: Chwefror - Judy Cooper
28/02/2018
Arolwg clybiau gweithgareddau awyr agored yng Nghymru
Mae'r Bartneriaeth Awyr Agored, ar y cyd â Phrifysgol Bangor a gyda chefnogaeth y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, yn cynnal ymchwil eang sy’n ymwneud â gweithgareddau awyr agored yng Nghymru. Bwriad yr ymchwil yw gwella ein dealltwriaeth o ddarpariaeth gweithgareddau awyr agored yng Nghymru gan adnabod y bylchau ac awgrymu sut y gallem wella’r ddarpariaeth yma.
21/02/2018

Wardeiniaid Gwirfoddol
Eleni, unwaith eto, bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn rhedeg proseict cyffrous a fydd yn cynnig cyfle i wirfoddoli ar fynydd uchaf Cymru!
19/02/2018

Cyfleoedd Dringo a Sgïo cynhwysol i bobl ifanc anabl ar Ynys Môn
Mae gwersi sgïo cynhwysol wrthi’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Sgïo Llandudno a sesiynau dringo cynhwysol ar wal ddringo’r Indy, Llanfairpwll. Ariennir y sesiynau yma gan Gronfa Grantiau Bach- Gweithgareddau i bobl anabl Ynys Môn.
15/02/2018

Gwirfoddolwr y mis: Ionawr 2018 - Stephen Weake Pŵer Seiclo- Clwb Seiclo Hygyrch
Mae Steve wedi bod yn ran allweddol o waith cynllunio a sefydliad yr hwb seiclo yng Ngwynedd. Mae ganddo brofiad blaenorol o’r hyn gan ei fod eisoes wedi gweithio ar brosiectau addasol tebyg yn Lloegr.
05/02/2018

Ail sefydlu Clwb Rhwyfo Moelfre
Yn ystod 2017 bu sawl cyn-aelod a nifer o rwyfwyr newydd yn brysur iawn yn ail sefydlu'r clwb yma ym Moelfre, Ynys Môn. Nid yw'r clwb wedi bod yn weithredol ers rhai blynyddoedd, ond gyda chefnogaeth y clwb Biwmares, fe gasglwyd yr hen offer at ei gilydd, sefydlwyd gwefan newydd, adeiladwyd doli newydd i'r cwch, a thrwy gymorth grant gan y gist gymunedol, fe brynwyd clawr newydd hefyd.
05/02/2018

NEWYDDION CLWB: Breeze Coed y Brenin
Grŵp beicio mynydd i ferched ydi Breeze Coed y Brenin. Wedi’i leoli yn ardal Dolgellau, mae’r grŵp yn cynnal reidiau rheolaidd sy’n addas i bob gallu. Cafodd y grŵp ei sefydlu tua 20 mis yn ôl ac ers hynny mae wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth annog merched i gymryd rhan mewn beicio.
30/01/2018
Cystadleuaeth Bowldro Ysgolion Ynys Môn
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu yng Nghystadleuaethau Bowldro Ysgolion Môn
23/01/2018

Cerdded yn Uwch - Mawrth 2018
Ein rhaglen newydd i unigolion dros 25 ac yn ddi-waith yng Ngwynedd, Conwy a Mon
21/01/2018

Parhewch i siopa yn Co-op - Mae pob ceiniog yn helpu!
Mae gennym newyddion cyffrous iawn ar eich cyfer! Mae rhaglen Antur i Bawb y Bartneriaeth Awyr Agored wedi cofrestru fel un o achosion da y Co-op. Ein bwriad ydi sefydlu cyfleoedd awyr agored cynaliadwy i blant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd a gofalwyr.
14/01/2018

Gwirfoddolwraig y Mis - Hydref 2017 - Judy Clarke Clwb Canŵio Colwyn
Mae Judy wedi bod yn aelod o Glwb Canŵio Colwyn am 6 mlynedd bellach. Mae hi’n wirfoddolwraig gweithgar ac mae hi wrth ei bodd yn padlo ar y môr. Mae wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â mentoriaid y Bartneriaeth i ddatblygu gwirfoddolwyr newydd ar gyfer y clwb
12/11/2017

Archif Newyddion Gwirfoddolwr y mis- Mai 2017 - Manja Ingle - Clwb Chwaraeon Eira Gogledd Cymru.
Mae Manja wedi bod yn gweithio’n ddiflino am 18 mis gyda chlwb ChEGC. Mae ganddi’r dasg o chwilio a threfnu hyfforddwyr ar gyfer y sesiynau clwb. Yn aml iawn, Manja yw’r sylwebydd ar gyfer y rasys, a hi sy’n gyfrifol am y gwaith papur.
02/06/2017

Gwirfoddolwr y Mis : Mai 2017 - Alan Williams
Mae Alan yn un o aelodau cychwynnol Clwb Mynydda Môn ac mi chwaraeodd ran hanfodol yn ei sefydliad. Mae wedi bod yn drysorydd i’r clwb ers y dechrau ac oherwydd ei lygad am fanylder wrth gynnal a chadw cyllid y clwb, yn ogystal â’i lwyddiant wrth ymgeisio am wahanol grantiau, mae’r clwb yn parhau i ffynnu
15/05/2017
Gwirfoddolwr y Mis: Mawrth 2017: Simon Owen
Mae Simon Owen yn un o sefydlwyr Clwb Rhwyfo Môr Conwy. Mi dderbyniodd y clwb y wobr Clwb Cymunedol y Flwyddyn ddwy flynedd yn ôl ac maent bellach wedi cyrraedd lefel arian Insport. Mae Simon yn rhoi’i holl ymdrech ac oriau o waith yn y cefndir i sicrhau bod y clwb yn rhedeg yn esmwyth gan ofalu bod y rhwyfwyr yn ddiogel ac yn cael digon o hwyl ar y dŵr, yn ogystal â rhedeg y sesiynau wythnosol.
06/04/2017

Gwirfoddolwyr y Mis: Ionawr 2017
Mae Wendy yn aelod brwdfrydig o Glwb Canŵio Amlwch, ac mae hi wastad yn barod i helpu unrhyw un. Yn aml iawn mae Wendy yn brysur yn cludo caiacs unigolion sydd heb rac ar do eu ceir o un lle i’r llall. Mae hi hyd yn oed yn gwirfoddoli i fod yn yrrwr gwennol ar deithiau nad ydi hi’n padlo arnynt.
15/03/2017

Gwirfoddolwr y Mis: Chwefror 2017
Mae Simon yn aelod cychwynnol o Glwb Mynydda Môn ar Ynys Môn. Dechreuodd y clwb yn dilyn ychydig o sesiynau blasu ac roedd Simon yn un o’r grŵp bach oedd yn awyddus i gynnal y clwb. Mae’r clwb yn aelod o’r BMC ac maent yn cynnig sesiynau dringo dan do wythnosol yn ogystal â theithiau a digwyddiadau rheolaidd.
07/03/2017