NEWYDDION CLWB: Breeze Coed y Brenin
30/01/2018
Grŵp beicio mynydd i ferched ydi Breeze Coed y Brenin. Wedi’i leoli yn ardal Dolgellau, mae’r grŵp yn cynnal reidiau rheolaidd sy’n addas i bob gallu.
Cafodd y grŵp ei sefydlu tua 20 mis yn ôl ac ers hynny mae wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth annog merched i gymryd rhan mewn beicio.
Bu’r hwb yn bosib gyda phartneriaeth agos a chymorth gan wahanol bartneriaid fel Beics Brenin, Partneriaeth Awyr Agored a ChNC.
Derbyniwyd y grŵp gyllid gan y Bartneriaeth Awyr Agored, ac oherwydd hyn, maent wedi gallu hyfforddi nifer o unigolion i arwain gwahanol deithiau.
Yn ddiweddar, mae’r grŵp wedi penodi Becky Nokes fel y cydlynydd newydd i Hwb Beicio Mynydd Gogledd Cymru.
Mae Becky yn Feiciwr Mynydd profiadol, ac mi fydd hi’n chwarae rhan hanfodol yn nhwf yr hwb yng Nghoed y Brenin. Nod Becky yw codi’r nifer o gyfleoedd beicio, yn ogystal â chynnal gweithdai cynnal a chadw beics, cyrsiau cymorth cyntaf a chyrsiau eraill sy’n ymwneud â beicio mynydd.
Eglurai Becky: “Gall beicio wneud gymaint o wahaniaeth i fywydau pobl mewn nifer o wahanol ffyrdd. ‘Dwi mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i helpu datblygu’r grŵp yma yng Nghoed y Brenin, ac wrth gydweithio’n agos â Gaynor, rydym wedi cefnogi ac annog nifer o ferched i ddysgu sgiliau newydd.
Ar hyn o bryd mae Becky yn gweithio tuag at ei chwrs hyfforddi Lefel 2 gyda’r bwriad o gynnal reidiau a sesiynau hyfforddi i ferched yn unig.
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y Temtiwr yn 2017, mae cynlluniau ar y gweill i wneud y digwyddiad eleni hyd yn oed yn fwy. Rydym yn cydweithio â phartneriaid lleol i gynnal digwyddiad i ferched dros benwythnos cyfan.
Cymrwch olwg ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahanol ddigwyddiadau a reidiau.
Os hoffech chi glywed mwy am y prosiect Breeze yn eich ardal chi, yna cysylltwch â Becky ar becky@infiniteexposures.co.uk neu 07971 825225