GWAHODDIAD I GYFLWYNO TENDR AM YMGYRCH FARCHNATA DROS 12 MIS I’R BARTNERIAETH AWYR AGORED
04/05/2020
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn chwilio am gynigion gan sefydliadau i gynnal ymgyrch dros 12 mis i godi proffil yr elusen yn dilyn argyfwng COVID-19 drwy gynyddu’r nifer o ymwelwyr i’n gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol a chynyddu’r ymgysylltiad cymdeithasol a chyfranogaeth mewn gweithgareddau awyr agored drwy’r elusen.
Dibenion
Pwrpas y brîff hwn yw chwilio am unigolyn neu sefydliad sydd â phrofiad i arwain ar ymgyrch farchnata’r BAA i:
Yn y lle cyntaf:
• Adlewyrchu effaith newidiol COVID-19 wrth iddo effeithio ar waith Y BAA yn y sector awyr agored gan gynnwys, ond nid yn unig, cyfleoedd, cymorth, cyngor a chefnogaeth.
Edrych y tu hwnt i’r angen uniongyrchol hwn:
• Datblygu a gweithredu ymgyrch gyfathrebu integredig i ganiatáu hyrwyddo gwaith Y BAA i’r cymunedau y mae’n ei gwasanaethu.
• Cynyddu’r nifer o ymwelwyr i’r wefan
• Dyblu’r nifer o ddilynwyr ar Facebook
• Dyblu’r nifer o ddilynwyr ar Twitter
• Cynyddu’r ymgysylltiad ar y cyfryngau cymdeithasol
• Darparu sylwadau’r wasg i gynulleidfaoedd lleol
• Adeiladu ar allu marchnata o fewn gweithlu’r BAA
• Hyrwyddo i gynulleidfa ehangach er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r awyr agored trwy waith Y BAA.
• Sicrhau enw da’r BAA fel sefydliad arweiniol sy’n hybu iechyd corfforol a meddyliol.
Cewch lawrlwytho y ddogfen tendr yma
Gyrrwch eich cynigion os gwelwch yn dda i Tracey Evans, Prif Weithredwr y Bartneriaeth Awyr Agored erbyn y 29ain o FAI 2020