Y Bartneriaeth Awyr Agored yn ennill gwobr Chwaraeon Cymru 2018

07/12/2018

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael ei henwi fel Sefydliad y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2018. Mae’n helpu miloedd o bobl i ddefnyddio’r awyr agored i

wella eu bywydau – gan gynnwys Gwenllian Dafydd, o Fethesda.

Meddai Gwenllian, 30 oed, a ddechreuodd fynd i sesiynau dringo yn Indy Climbing Wales yn Llanfairpwll ar Ynys Môn y llynedd: “Roeddwn i wedi cyrraedd croesffordd yn fy mywyd.

“Roeddwn i’n pwyso mwy nag erioed, yn segur ac yn teimlo’n isel iawn.”

Aeth o fod yn faint 20-22 i faint 10 a nawr mae’n dringo ac yn rhedeg ac mae wedi cofrestru ar gwrs sgïo.

Ychwanegodd: “’Wnaeth yr hyfforddwr dringo ddim gwneud i mi feddwl nad oeddwn i ddigon da neu angen newid, ond fe roddodd y sesiynau yr adnoddau oeddwn i eu hangen i gael help.”

Fe sylweddolodd Gwenllian pa mor bell oedd hi wedi dod wrth ddringo yn yr awyr agored am y tro cyntaf. Mae’n cofio: “Fe wnes i eistedd ar y top ar ôl dringo 300 troedfedd a gwylio’r machlud a meddwl ’mod i’n byw y bywyd yma diolch i’r Bartneriaeth Awyr Agored.

“’Fyddwn i byth wedi gwneud hyn cyn dechrau dringo gyda nhw.”

Mae’r Bartneriaeth wedi cael ei chydnabod am ei gwaith yn sbarduno cynhwysiant yn y sector awyr agored. Mae ei rhaglen Antur Merched yn un o’r mentrau sy’n mynd o nerth i nerth.

Esboniodd y Prif Weithredwr, Tracey Evans: “Mae gwaith y Bartneriaeth yn ysbrydoli pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgarwch awyr agored er lles eu hiechyd a’u hyder ac mae’n helpu i ddarparu cyfleoedd newydd i newid bywydau er gwell.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig mae’r tîm wedi ysbrydoli mwy na 16,000 o bobl, drwy gydweithio â’r 45 o glybiau sy’n aelodau, partneriaid a chyflogwyr lleol.

Mae Gwobr Sefydliad y Flwyddyn yn helpu i gydnabod llwyddiant wrth annog pobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Unwaith eto, mae gennym ni safon uchel iawn o enillwyr yn y gwobrau cymunedol, sy’n dangos y gwaith anhygoel sy’n digwydd mewn chwaraeon ar lawr gwlad.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd clywed am y grwpiau a’r unigolion yma’n helpu i gymell ac ysbrydoli eraill i fwynhau chwaraeon a’r cyfleoedd niferus maen nhw’n eu cynnig.”