Wardeiniaid Gwirfoddol
19/02/2018
Eleni, unwaith eto, bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn rhedeg proseict cyffrous a fydd yn cynnig cyfle i wirfoddoli ar fynydd uchaf Cymru!
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych i ychwannegu gwirfoddolwyr newydd i’r tîm presennol o Wardeniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa. Mae aelodau’r tîm yn cynnig gwyneb cyfeillgar a chroesawgar i’r cyhoedd ar lwybrau prysuraf Yr Wyddfa, y copa a’r meysydd parcio. Mae’r rôl yn cynnwys darparu gwybodaeth, cyngor ar ddewis llwybr a diogelwch ar y mynydd; cadw sbwriel oddi ar y llwybrau prysuraf a chyflawni gwaith cynnal a chadw mân ar y llwybrau.
Eleni bydd cyfle i roi cyngor i gerddwyr ar y Fan Wybodaeth newydd ar droed rhai o lwybrau’r Wyddfa.
Dyddiad Cau: 9fed o Fawrth, 2018
http://www.eryri.llyw.cymru/visiting/warden-service/volunteers?name