Wythnos y Gwirfoddolwyr - Gwirfoddolwr y dydd Llun

01/06/2020

Mae Dylan yn gwirfoddoli fel un o’r cyfarwyddwyr ac fel hyfforddwr dringo yn ‘The Rock’ fel arfer, ond gyda’r pwll nofio a’r wal ddringo ar gau, mae Dylan yn parhau i fod yn brysur yn sicrhau fod talidau, cyflogau a gwaith papur angenrheidiol yn dal yn cael ei gwblhau drwy’r cyfnod hwn. Mae hefyd yn codi hwyliau pawb gyda’i hanesion am ei feics, ei wenyn a’i seidar-diddordebau amrywiol sy’n ei gadw yn brysur!

Mae’n cael ei adnabod fel y “Gwirfoddolwr super-duper”, ac fe hoffem ni ddeud “Diolch yn Fawr” i Dylan, ar ran cymuned gyfan Harlech a’r cyffuniau, am ei waith di-flino yn sicrhau fod cyfleuster mor hanfodol yn parhau ar agor yn yr ardal-bydd ei angen yn fwy nag erioed ar ol y cyfnod anodd yma!

Mae’n edrych yn debyg i Dylan gael sioc o glywed y newyddion!!

Llongyfarchiadau!