Wythnos y Gwirfoddolwyr - Gwirfoddolwr y dydd Mawrth
03/06/2020
Mae’r clwb yn cynnal sesiynnau syrffio i blant a phobl ifanc lleol Conwy yn Adventure Parc Snowdonia. Byddai y sesiynnau wythnosol yn cychwyn yn mis Ebrill yn arferol, ond nid flwyddyn yma yn anffodus.
Simon yw swyddog cyfathrebu y clwb ac roedd yn sydyn iawn yn setio Zoom i fyny i aelodau y clwb allu cadw cysylltiad, ac mae wedi bod yn cynnal cwis i wneud yn siwr fod pawb yn parhau i ddysgu am holl bethau byd syrffio, hyd yn oed dan glo yn Nyffryn Conwy!
Mae’r clwb yn ddiolchgar iawn iddo am ei waith drwy gydol y flwyddyn, a gobeithio byddant i gyd yn ol yn syrffio efo’i gilydd cyn bo hir!
