Ffurfiwyd y Bartneriaeth Awyr Agored (YBAA) yn 2004 i fynd i’r afael â diffyg cysylltiad yn sector awyr agored Gogledd Orllewin Cymru lle nad oedd llawer o gyfleoedd i bobl leol gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.

Ers hynny, rydym wedi gweithio ar nifer o raglenni a phrosiectau sy’n ceisio goresgyn y rhwystrau sy’n bodoli i bobl leol yng Ngogledd Orllewin Cymru i gymeryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored lleol.

Erbyn 2015 cafodd gwaith YBAA ei gydnabod fel enghraifft o arfer da

Roedd galw cynyddol am ein cymorth a’n harbenigedd mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Yn 2018 sicrhaodd YBAA grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Pawb a’i Le, i ymestyn ein waith i bob rhanbarth yng Nghymru;

  • Canolbarth Cymru
  • Rhanbarth Bae Abertawe
  • Gwent
  • Canolbarth De Cymru
Yn 2019, cawsom gynnig grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (Portffolio'r DU)

Ymestynnwyd y gwaith hwn i ardaloedd eraill yn y DU. Dewiswyd tair ardal, sef: Swydd Ayr, Yr Alban Arfordir Cumbria, Lloegr Newry, Mourne a County Down, Armagh City, Bainbridge, Craigavon/Ards a Gogledd Down yng Ngogledd Iwerddon.

Darganfyddwch ein Ardaloedd
Cumbria
Swydd Ayr
Gogledd Iwerddon-De Ddwyrain
Canolbarth De Cymru
Ardal Bae Abertawe
Canolbarth Cymru
Gwent
Plymouth
Coventry
Arfordir Gogledd Swydd Efrog
Gogledd Iwerddon-Y Sperrins