Mae ein Rhaglen Datblygu Cymunedol yn cael ei arwain gan ein Swyddogion Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored ac mae’n ysbrydoli miloedd o blant, pobl ifanc ac oedolion i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes drwy gynnal sesiynau blasu, sesiynau datblygu, gŵyliau a digwyddiadau.

Llwybr i Weithgaredd Awyr Agored

Mae ein swyddogion yn gweithio o fewn eu rhanbarth i sicrhau bod cysylltiadau rhwng ysgolion a chlybiau cymunedol a bod llwybrau clir i unrhyw un o bob oed a gallu gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Mae’r rhaglen hefyd yn cefnogi clybiau gweithgareddau awyr agored. Mae’r clybiau hyn yn rhoi cyfle rheolaidd i filoedd o bobl leol gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn eu cymunedau, gan wella eu hiechyd personol a’u lles cymdeithasol.

Prosiect Adeiladu Cychod Rhyng-genedlaethau Swydd Ayr

Yn enghraifft anhygoel o gydlyniant cymunedol, mae’r fenter ymarferol hon yn uno pobl ifanc a’r genhedlaeth hŷn. Gyda ffocws ar ailgysylltu â’r môr, rhyngweithio cymdeithasol traws-genhedlaeth, cyfathrebu a dysgu treftadaeth arfordirol, mae’r prosiect arobryn hwn yn gweithio o fewn cymunedau arfordirol De Swydd Ayr ac wedi bod yn llwyddiannus o fewn ysgolion lleol a gwirfoddolwyr yn adeiladu cychod a chreu clybiau rhwyfo.

Nod y fenter hon oedd datblygu prosiect treftadaeth llwyddiannus i gynyddu capasiti cymunedol, gwella iechyd meddwl ac ennill sgiliau cyflogadwyedd gyda disgyblion wedi’u targedu yn Academy Ayr, a’r gymuned oedolion leol. Mae disgyblion yn dysgu gan oedolion profiadol; sgiliau adeiladu cwch, crefft coed, peirianneg a sgiliau dylunio ynghyd â sgiliau diogelwch dŵr a morwriaeth sylfaenol. 

Mae adeiladu cwch gyda’i gilydd er lles cyffredin a mynd ar y dŵr, yn amryw o fuddiannau iechyd a lles; yn datblygu sgiliau, gwella iechyd meddwl a chydlyniant cymunedol.

Lansiwyd y cychod ym mis Ebrill, a gall disgyblion a gwirfoddolwyr hŷn barhau i gymryd rhan drwy rwyfo a dysgu sgiliau morwrol a gwella eu hiechyd a’u ffitrwydd. Bydd clwb newydd Ayr yn cystadlu, ynghyd â chlybiau lleol, mewn regattau rhanbarthol a chenedlaethol. Yn 2022, cynhaliwyd digwyddiad “Dewch i Drio” yn Loch Doon i fesur diddordeb a rhoi cyhoeddusrwydd i’r prosiect adeiladu cychod yn y dyfodol. Daeth 30 o bobl yn i brofi yr hwyl am y tro cyntaf ar y llyn. Llwyddiant ysgubol!

Swim Safe (Nofio'n Ddiogel)

Wedi ei gydlynu ar y cyd rhwng y Bartneriaeth Awyr Agored, RNLI, y Gymdeithas Achub Bywyd Brenhinol a sefydliadau eraill mewn gwahanol ranbarthau, mae’r rhaglen “Swim Safe” yn cyflwyno sesiynau hwyliog a phwysig i ddisgyblion ysgol i godi ymwybyddiaeth ac addysgu ar sut i fod yn ddiogel pan yn y dŵr neu yn agos at ddŵr, yn dysgu arddulliau arnofio ac egwyddorion diogelwch.

Mae’r rhaglen yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Atal Boddi mewn sawl rhanbarth, mae cannoedd o blant yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru wedi elwa o’r sesiynau hyn, ac wedi ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr i’w cadw’n ddiogel pan fyddant mewn dŵr ac o’i gwmpas, ac i allu mwynhau nofio yn yr awyr agored yn ddiogel.