Mae’r Rhaglen Llwybrau i Waith wedi’i hanelu at bobl sy’n manteisio ar weithgareddau awyr agored am y tro cyntaf neu sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau personol a/neu broffesiynol, gan arwain at ffordd o fyw, gwirfoddoli a chyflogaeth fwy egnïol.

Sefydlodd y Bartneriaeth Awyr Agored y rhaglen Llwybrau i Waith yn 2010 yng ngogledd-orllewin Cymru (Ynys Môn, Conwy a Gwynedd) wedi ei gyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (Porth Ymgysylltu, Marchnad Lafur Canolradd a Chynhwysiant Gweithredol) i gefnogi pobl ddi-waith yn ôl i’r gwaith gan ddefnyddio gweithgareddau awyr agored.

Mae’r rhaglen yn defnyddio gweithgareddau awyr agored i ymgysylltu gyda a chefnogi pobl ddi-waith i wella ffitrwydd corfforol, sgiliau cyflogaeth, hunan hyder, rhyngweithio cymdeithasol a gwella iechyd meddwl. Hefyd i ddarparu llwybrau i barhau mewn gweithgareddau, addysgu, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyfleoedd cyflogaeth. Ers 2010, mae’r rhaglen wedi helpu dros 700 o bobl ddi-waith ddychwelyd i gyflogaeth barhaol yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Ein Heffaith

Sgoriodd y rhaglen y ganran uchaf dros Nghymru o ran cael pobl ifanc i gyflogaeth barhaus fel rhan o’r prosiect ILM, oedd yn darparu profiad gwaith cyflogedig, mentoriaid a chymwysterau yn y diwydiant gweithgareddau awyr agored- daeth 96% o’r cyfranogwyr o hyd i gyflogaeth llawn amser (24 allan o 25 o gyfranogwyr) dros y prosiect 18 mis.

Mae ein prosiectau cyflogaeth yn aml wedi rhagori ar dargedau, hyd yma rydym ni wedi dychwelyd dros 700 o bobl i gyflogaeth barhaus neu addysg bellach ac addysg uwch, gydag Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddi o £4.42 yng Ngogledd-orllewin Cymru (Gwerth Cymdeithasol Cymru, 2020).

Manteision y Prosiect

1. Yn dileu rhwystrau i gymryd rhan drwy godi hyder a chymhelliant ar gyfer gwaith a gwella'r sgiliau generig sydd eu hangen ar gyflogwyr fel cyfathrebu, gweithio tîm a datrys problemau.
2. Yn datblygu sgiliau galwedigaethol cyfranogwyr a hyrwyddo pwysigrwydd dysgu gydol oes i gyfranogwyr.
3. Sicrhau bod cymwysterau Corff Llywodraethol Cenedlaethol mewn chwaraeon awyr agored yn cael eu hennill.
4. Yn gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol drwy fynediad at weithgareddau awyr agored gydol oes
5. Yn sicrhau cyfranogiad uwch mewn grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, gan gynnwys NEETs, menywod, pobl sy'n byw mewn tlodi, profi digartrefedd, pobl ag anableddau a phobl sydd â chyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar waith.
6. Yn annog pobl sy'n ddi-waith i fynd ati i chwilio am waith.
7. Yn gwella lefelau sgiliau unigol i gyd-fynd â'r rhai sy'n ofynnol gan gyflogwyr yn y sector awyr agored, gan gynnwys sgiliau sylfaenol.
8. Sicrhau budd i'r bobol sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig.
9. Yn helpu i fynd i'r afael â thangyflawni.
10. Yn rhoi dealltwriaeth a gwerthfawrogiad i'r cyfranogwyr o'u hamgylchedd naturiol ar stepen eu drws.

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored bellach yn arwain ar sawl prosiect cyflogaeth ar draws Cymru gyfan, ac o fewn ein rhanbarthau yn Ayrshire, Cumbria, a Gogledd Iwerddon.

Am fwy o wybodaeth am bosiblrwydd o brosiectau cyflogaeth yn eich ardal chi, cysylltwch gyda’ch swyddog datblygu gweithgareddau awyr agored lleol:
Stori Ryan

Ryan oedd un o’r cyntaf i gymeryd rhan mewn rhaglen Llwybrau i Waith gyda ni, yng Ngogledd Cymru. Mae stori Ryan yn anhygoel, ac rydym mor falch o fod wedi chwarae rhan fach yn ei siwrnau.

Gwyliwch ei stori isod:

Stori Ryan