Lansiwyd y cynllun Antur y Ferch Hon gan y Bartneriaeth Awyr Agored yn 2015, i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb o ferched yn y sector awyr agored. Mae merched yn cael eu tangynrychioli o fewn cymhwysterau arwain awyr agored, ac mae hyn yn dod yn fwy amlwg wrth i lefel y cymhwysterau fynd yn uwch. Mae’r nifer o ferched sydd yn meddu ar y cymhwysterau uchaf mor isel a 4% o’r cyfanswm o arweinwyr. (IOL Linda Allin, Prifysgol Northumbria 2021).

Nôd Antur y Ferch Hon yw ysbrydoli mwy o ferched a genethod i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a mwynhau’r buddion y gall yr awyr agored eu cynnig i iechyd a lles cymdeithasol, ac yn y pen draw gweld gyrfa posibl o fewn y sector.

Ymunwch yn yr hwyl

Rydym yn ysbrydoli merched a genethod i fod yn actif drwy weithgareddau cymdeithasol a chyfeillgar gan gynnwys dringo, cerdded, caiacio, canŵio, beicio mynydd, sgïo, syrffio, nofio dŵr agored a rhedeg llwybrau a mynyddoedd.

Mae’r sesiynau hyn yn hwyl, yn ddiogel, yn bleserus ac yn addas i bawb, ac yn cael eu darparu gan hyfforddwyr cymwys a profiadol.

Dewch i ymuno yn yr hwyl i fagu hyder, ffitrwydd a ffrindiau newydd.

Mae gweithgareddau a chyfleoedd yn cael eu hysbysebu yn gyffredinol drwy ein grŵp Facebook This Girls Adventure

 

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Roedd Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn cael ei gynnal yn mis Mawrth yn 2023, ac fe wnaethom ei ddathlu mewn steil ar draws ein holl ranbarthau!

O sesiynau  Cyflwyniad i Gaiacio a  gynhaliwyd gan Glwb Canŵio Copeland yn Cumbria, i sesiynau hyfforddi Beicio Mynydd dan arweiniad merched yn  Rhondda Cynon Taf, i sesiwn padlfyrddio a chyflwyniad ysbrydoledig gan Merched y Môr (4 merch anhygoel sy’n hyfforddi i fod y criw benywaidd cyntaf o Gymru i rwyfo ar draws yr Iwerydd), yn sicr roedd digon o gyfleoedd i ddathlu yr holl ferched gwych sy’n cymryd rhan yn yr awyr agored bob dydd,  ar bob lefel.

“I have found the womens only surfing sessions amazing in so many ways. Being with a group of females to learn a new sport has been such a relaxed atmosphere and taken away some of the potential embarrassment or competition mixed gender groups can create. It is safe to say, although a beginner, I am now a surfer and will be continuing and getting my kids involved too. What a great experience!”
Lisa Edwards
This Girls' Adventure Beginners Surfing
Merched EYST yn mynd amdani

Gan weithio gyda’r tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chwaraeon Ieuenctid (EYST) yn Abertawe, fe ddatblygom raglen benodol i annog menywod i gael mynediad i’r awyr agored. Gyda diddordeb cychwynol mewn teithiau cerdded lefel isel, dyfeisiwyd rhaglen 4 wythnos ar gyfer y grŵp, ochr yn ochr â’r darparwr lleol, Tread Gower. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar lwybrau cerdded arfordirol, a gyda’r nod o adeiladu’r pellter a’r hyder, ochr yn ochr â sgiliau, a chyfle i ddysgu llwybrau newydd. Derbyniodd y rhaglen adolygiadau gwych.

Yn dilyn y sesiynau, mwynhaodd yr aelodau gyfleoedd i gymryd rhan ymhellach mewn sesiynau agored a digwyddiadau mwy fel Gŵyl Gerdded Gŵyr – digwyddiad cymunedol gwych, gan ganiatáu cyfleoedd i bawb brofi’r teithiau cerdded gwych sydd ar gael ym Mro Gŵyr!

“Tread Gower were so please to be involved with the first guided walk with EYST where everyone had a really good time! The group were really enthusiastic and engaging and loved exploring new places on Gower, enjoying the sunshine, magnificent views and the coffee and ice cream to finish! The group walk was a chance for them to come together and catch up and chat with each other in a outdoor environment and they were all relaxed.  There were some new people who had recently moved to Swansea and engaged with EYST and this was a great way for them to meet others and find out more about the local area. The group were keen to make this a regular part of their routine and be involved on more guided walks to other new areas and Tread Gower would love to be involved in planning and leading these walks to suit the needs of the group. ”
Ruth Gates
Tread Gower Instructor