CORONAVIRUS / COVID-19

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd, dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r holl staff yn dilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth a phan yn bosib, yn parhau i weithio o’u cartrefi gan barhau i’ch cefnogi chi. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’n e-byst arferol.
partneriaeth-awyr-agored.co.uk/cy/about-us/our-team
Gwybodaeth i Glybiau
Cadwch yn ddiogel
Tîm Y Bartneriaeth Awyr Agored

Ein Hardaloedd
Ar hyn o bryd rydym yn cynnwys Gogledd Cymru, Ayrshire, Cumbria a Gogledd Iwerddon. Darganfyddwch fwy yma
AELODAETH CLYBIAU NAWR AR AGOR
Rydym wedi bod yn brysur yn paratoi, ac rydym nawr yn derbyn clybiau fel aelodau unwaith eto. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am y buddion o ymaelodi ac i gwblhau neu lawrlwytho ffurflen aelodaeth yma
Cylchlythyr
Os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf gan Y Bartneriaeth yn syth i’ch blwch ebyst, tanysgrifiwch yma
Ymunwch â’r Tîm
SWYDDOG DATBLYGU GWEITHGAREDDAU AWYR AGORED X 4
Rydym yn dymuno recriwtio pedwar Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored dynamig, proffesiynol medrus a chymwys. Bydd pob Swyddog yn gweithio yn un o’r lleoliadau canlynol
EIN PROSIECTAU
Darganfyddwch fwy am ein prosiectau a sut y gallwch gymryd rhan- mae gennym brosiectau rhyfeddol!
CEFNOGAETH I WIRFODDOLWYR
Ydych chi’n gwirfoddoli’n barod? Cofrestrwch gyda ni i weld sut allem eich helpu gyda chymorth a hyfforddiant.


Amdanom Ni
Rydym yn cydweithio gyda thrigolion Cymru fel eu bod yn mynd ati i wneud gweithgareddau awyr agored fel ymgyrch gydol oes. Gyda’n gilydd gallwn newid bywydau unwaith ac am byth. O glybiau lleol hyd at gopaon ein mynyddoedd, mae cyfle i bawb gymryd rhan.
Mae ein prosiectau yn fodd o roi hwb i hyder pobl a’u helpu i ddatblygu sgiliau a dysgu i weithio mewn tîm er mwyn mynd ati i fanteisio ar gyfleoedd newydd a bywydau mwy iach. Drwy wirfoddoli, manteisio ar addysg, cymryd rhan, cyflawni hyfforddiant a drwy weithio mae modd i bawb fynd ati i newid unwaith ac am byth.
Creu Cymru heini, iach a chynhwysol, lle mae gweithgareddau awyr agored yn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan, mwynhau, cyflawni a dod o hyd i waith, gan ddod â chymunedau at ei o’r amgylchedd.
Rhoi mwy o gyfle i fwy o bobl yng Nghymru gyflawni eu potensial trwy gyfrwng gweithgareddau awyr agored.
- Ysbrydoli plant a phobl ifanc i fod yn fwy heini yn yr awyr agored mewn ffordd gynaliadwy.
- Cefnogi datblygu cynnyrch o safon mewn llefydd priodol er mwyn darparu profiadau hwyl yn yr awyr agored.
- Rhoi cefnogaeth i bobl leol gymryd rhan mewn gweithgareddau, datblygu sgiliau a chael gwaith.
- Gweithredu Cynllun Partneriaid
Ein Prosiectau


Ein Fideo

Newyddion Diweddaraf

Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored x 4
Bu i’r Elusen lwyddo i ennill cyllid mewn egwyddor, gan Gronfa Galluogi Adnoddau a Naturiol a Llesiant i gynnig yr un gwasanaeth ac ethos mewn rhanbarthau eraill yng Nghymru. Mae ‘Agor y Drysau i’r Awyr Agored’ yn brosiect 2 flynedd o hyd ac mae’r Elusen yn dymuno recriwtio pedwar Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored dynamig, proffesiynol medrus a chymwys. Bydd pob Swyddog yn gweithio yn un o’r lleoliadau canlynol

GRANTIAU HUD BACH 2021 AR AGOR AR 1 MAWRTH
Gall elusennau a grwpiau cymunedol llai ledled Prydain Fawr wneud cais am grant untro o £500 rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref 2021.

Cronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon
Mae pecyn cymorth Covid-19 newydd yn agor yr wythnos hon ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd yn y sector chwaraeon y mae eu gwaith yn cyflwyno gweithgareddau yn uniongyrchol i gyfranogwyr, fel hyfforddwyr chwaraeon, hyfforddwyr personol, hyfforddwyr ffitrwydd a hyfforddwyr dawns. Mae cyllid o £1,500 ar gael drwy'r 'Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon', a bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut maent wedi colli o leiaf y swm hwnnw mewn incwm ers i'r argyfwng ddechrau oherwydd bod contractau'n cael eu canslo neu gyfyngiadau'n atal eu gwaith.

Clwb Canŵio Amlwch – Clwb Canŵio’r Flwyddyn Cymru 2020
Roedd yn wych darganfod yn ddiweddar fod dau o’n aelodau, Clwb Canŵio Amlwch a Chlwb Canŵ Colwyn, wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobr glodfawr Clwb y Flwyddyn gan Canŵ Cymru, ac yn well byth clywed fod Amlwch wedi ennill!! Siaradom gyda Phil o Amlwch yn ddiweddar, wrth iddo edrych yn ôl ar ei amser gyda’r clwb a sut mae gweithio gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi helpu’r clwb i ddatblygu
Ymunwch â ni
Clybiau a Grwpiau.
Mae croeso i bob clwb a grŵp sy'n cynnig gweithgareddau awyr agored rheolaidd i drigolion ymaelodi. Mae tri fath o aelodaeth ar gael - Aur, Arian ac Efydd.
Unigol
Ar gael i unigolion sy’n rhannu’r un weledigaeth a chenhadaeth y Bartneriaeth Awyr Agored ac sydd eisiau cyfrannu tuag at waith yr elusen. Mae gan aelodau unigol bleidlais yn ein Cyfarfod Blynyddol.
Rhanddeiliaid
Gall mudiadau o fewn yr ardal fantais, sy'n rhannu'r un weledigaeth a chenhadaeth ag amcanion y Bartneriaeth Awyr Agored a dangos cyfraniad materol, fanteisio ar aelodaeth i randdeiliaid.
