Mae’r strategaeth hon yn nodi gweledigaeth ac amcanion y Bartneriaeth Awyr Agored ar gyfer y 10 mlynedd nesaf gan adeiladu ar ei strategaeth flaenorol.
Ein gweledigaeth – gwella bywydau pobl trwy weithgareddau awyr agored.
Sefydlwyd y Bartneriaeth Awyr Agored yn 2004 gan ddod â sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector ynghyd i weithio’n effeithiol yn y sector awyr agored gyda gweledigaeth gyffredin.
Mae dull strategol y Bartneriaeth Awyr Agored yn rhagweld ‘newid cenhedlaeth’ lle mai ymgysylltu â gweithgareddau awyr agored yw’r ‘norm’ – nodwedd a dderbynnir o ffordd o fyw rheolaidd y boblogaeth leol. O ganlyniad i’w gwaith hyd yma, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored a’i phartneriaid a rhanddeiliaid wedi gwella bywydau miloedd o bobl ac wedi grymuso ac uwchsgilio llawer o gymunedau yng Nghymru a thu hwnt
- iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl,
- yr enillion economaidd (gan gynnwys cyflogaeth),
- y gwerth cymdeithasol drwy weithgarwch awyr agored,
- cymryd rhan ar lawr gwlad mewn gweithgareddau fel cerdded, beicio, dringo, canŵio, padlfyrddio, hwylio, beicio mynydd, a llawer mwy.
Ein nod ydy parhau i gyflwyno’r deilliannau a’r effeithiau hyn er mwyn cyflawni newid dros genedlaethau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu inni gynnal gwaith datblygu o’n swyddfa yng Ngogledd Cymru er mwyn cyflawni deilliannau tebyg ledled Cymru gyfan a gweddill Prydain.
- Strategaeth Graidd – sy’n ymdrin â’n gweithdrefn i gyflawni’n gweledigaeth
- Cyflawni Lleol – i sicrhau bod y strategaeth yn diwallu’r anghenion sydd wedi’u hadnabod drwy randdeiliaid lleol (lle bynnag mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithredu)
- Dysgu ar y Cyd – inni gyd allu elwa o’r gwersi caiff eu dysgu
Mae’r tair egwyddor graidd hyn wrth wraidd ein strategaeth ac rydym yn cydnabod bod y Bartneriaeth Awyr Agored ddim ond cystal â’n partneriaid a’n rhanddeiliaid (gan gynnwys defnyddwyr terfynol), a byddwn yn cydweithio gyda nhw i gyflawni’r weledigaeth a’r amcanion yn ein strategaeth.