Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn cynnwys rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol o fewn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol sy’n cynrychioli addysg, yr amgylchedd, iechyd, chwaraeon, datblygu cymunedol, twristiaeth a’r economi. Mae’r rhanddeiliaid yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn, gan gynnwys ein cyfarfod blynyddol ym mis Medi.

Mae aelodaeth rhanddeiliaid yn agored i unigolion neu grwpiau / mudiadau sy’n rhannu amcanion a gweledigaeth y Bartneriaeth.

Bydd rhanddeiliaid yn derbyn gwybodaeth reolaidd ynglŷn â gwaith y Bartneriaeth a gwahoddiad i ddau gyfarfod gweithredol y flwyddyn a Chyfarfod Blynyddol Cyffredinol.

Bydd gan aelodau rhanddeiliaid hawl i enwebu/ethol cynrychiolwyr i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Bartneriaeth.

Rhoddir  ystyriaeth i geisiadau am aelodaeth rhanddeiliaid yng nghyfarfodydd chwe-misol y Grŵp Rhanddeiliaid a chedwir yr hawl i wrthod ceisiadau.

Cwbwlhewch y furfflen cais canlynol ac ebostiwch i tracey.evans@outdoorpartnership.co.uk
Ffurflen Cais Aelodaeth Rhanddeiliaid

Cymru

Swydd Ayr

Cumbria

Gogledd Iwerddon