Rhaglen Therapi Antur
Drwy ein rhaglen Iechyd a Lles cawsom ein cyflwyno i wasanaethau Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Seicosis (EIP) ledled Cymru. Gan ddefnyddio cyllid EnRAW buom yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau arbennigol hyn i ddatblygu rhaglenni Therapi Antur. Roedd hyn yn integreiddio gwybodaeth ddamcaniaethol ochr yn ochr â sesiynau ymarferol, i helpu i ddatblygu gwytnwch emosiynol pobl, lleihau stigma a datblygu grwpiau cymorth cymdeithasol.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored bellach yn cadeirio is-grŵp Therapi Antur Cymru Gyfan ac mae’n datblygu prosiectau, cysylltiadau a phartneriaethau gyda’r 7 bwrdd iechyd ledled Cymru, i ddatblygu hyn fel safon genedlaethol yng Nghymru sy’n cefnogi canlyniadau i’r byrddau iechyd a’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
Mae hyn wedi ein harwain at gefnogi’r gwasanaethau iechyd meddwl hyn i gael mynediad i fyd yr awyr agored trwy raglenni a sesiynau therapi antur, dod o hyd i bartneriaid trydydd sector ac ymgysylltu â nhw sy’n gallu ychwanegu at y modd y cyflwynir y sesiynau hyn, a darparu mynediad at gyllid ar gyfer ymgysylltu tymor hir â’r sesiynau hyn fel Sefydliad Moondance a ffynhonellau bach eraill o gyllid lleol.
Ein nod yw parhau â’r gwaith hwn dros y blynyddoedd nesaf ac ar hyn o bryd rydym yn cefnogi dau brosiect ymchwil sy’n edrych ar yr effeithiau y gall therapi antur eu cael ar gydnerthedd emosiynol cyfranogwyr a chysylltiadau cymdeithasol.
Os hoffech wybod mwy am y grŵp hwn, cysylltwch â : – daniel.bartlett@outdoorpartnership.co.uk