Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio gyda chlybiau, ysgolion, unigolion ac arbenigwyr i gynyddu cyfleoedd i bobl yng Ngogledd Iwerddon-Y Sperrins gyflawni eu potensial drwy weithgareddau awyr agored, cyfranogiad gweithredol, gwirfoddoli, hyfforddiant ac addysg.
Gary Donaldson yw ein Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Y Sperrins. Bydd yn gweithio yn ardaloedd y Causeway Coast & Glens, Derry & Strabane, Fermanagh & Omagh a Mid Ulster.
Ar hyn o bryd mae Gary yn gwneud gwaith ymchwil ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithiadol (AHNE) Y Sperrins, a’r trefi ac awdurdodau lleol. Mae yn cyfarfod gyda grwpiau cymunedol a clybiau, awdurdodau lleol a Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol. Drwy wneud hyn, gall Gary ennill dealltwriaeth dda o ddiddordebau lleol, ac yn dilyn ymlaen hyn, creu cynlluniau gwaith priodol.
Mae holidaur rhithiol wedi ei yrru allan i grwpiau. Gallwch chi leisio eich barn drwy lenwi yr holidaur yma;
Os hoffech wybod mwy gallwch gysylltu gyda Gary ar 07742876126 or gary.donaldson@outdoorpartnership.co.uk
https://www.facebook.com/TOPNorthernIreland/
Mewn partneriaeth gyda SportNI a Swim Ulster, mae cynllun Get Wet Stay Safe ar y gweill yn Llynoedd Gorton ar ddiwedd mis Mehefin.
Mae’r llynoedd wedi bod yn lecyn poblogaidd i nofio a padlfyrddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r cynllun yn gweithio ar fesurau diogelwch i’r ardal, megis arwyddion Swim Safety a cwt canoes.