Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn gwmni elusennol partneriaeth gymunedol. Ein nôd yw newid bywydau trwy weithgareddau awyr agored ac ysbrydoli pobl leol i gymryd rhan er budd iechyd, lles cymdeithasol a lles economaidd, boed trwy gyfranogiad, addysg, gwirfoddoli neu gyflogaeth.
Sefydlwyd Y Bartneiraeth Awyr Agored yn 2004 yn benodol i fynd i’r afael â methiant systemig: roedd gan Gymru adnoddau awyr agored o safon fyd‑eang a diwydiant awyr agored cryf, ond cyfranogiad cymharol isel gan bobl leol, llwybrau dilyniant cyfyngedig, cyflogaeth leol isel ac isadeiledd cymunedol gwan. Nododd ymchwil Prifysgol Bangor fod y materion hyn yn broblemau cysylltiedig yn hytrach na rhwystrau ar wahân.
Ers 2004, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi symud y tu hwnt i gyflwyno prosiectau unigol ac wedi meithrin newid systemau hirdymor yn y ffordd y mae pobl yn cael mynediad at weithgareddau awyr agored ac yn elwa ohonynt. Trwy adeiladu partneriaethau cryf ar draws cymunedau, iechyd, addysg, llywodraeth leol a’r sector awyr agored, rydym wedi datblygu llwybrau cynaliadwy sy’n dileu rhwystrau ac yn galluogi cyfranogiad parhaus.
Dros 21 mlynedd, rydym wedi sefydlu rhwydwaith cryf o sefydliadau, gwirfoddolwyr ac arweinwyr cymunedol sy’n parhau i gryfhau isadeiledd awyr agored lleol ledled Cymru ac ymhellach. O ganlyniad, mae gweithgaredd awyr agored yn cael ei gydnabod fwyfwy nid yn unig fel hamdden, ond fel offeryn ar gyfer gwella iechyd, lles, cyflogadwyedd, cynhwysiant cymdeithasol a gwydnwch cymunedol.
Ein gweledigaeth yw gwella bywydau pobl drwy weithgareddau awyr agored. Byddwn yn gwneud hyn drwy drawsnewid y systemau sy’n dylanwadu ar bwy sy’n gallu cael mynediad at, cymryd rhan mewn, ac elwa o weithgareddau awyr agored. Credwn y gall hamdden awyr agored fod yn offeryn pwerus ar gyfer gwella iechyd a lles, lleihau anghydraddoldebau, cryfhau cymunedau a chreu cyfleoedd economaidd – ond dim ond pan fo’r strwythurau sy’n galluogi cyfranogiad yn gynhwysol, yn gysylltiedig ac yn gynaliadwy.
Mae ein dull yn canolbwyntio ar adeiladu capasiti hirdymor yn hytrach na darpariaeth fyrhoedlog. Trwy weithio gyda chymunedau, gwirfoddolwyr, awdurdodau lleol, partneriaid iechyd ac addysg, cyflogwyr a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol, rydym yn datblygu’r sgiliau, y rhwydweithiau a’r llwybrau sydd eu hangen i wreiddio gweithgareddau awyr agored o fewn systemau lleol. Mae hyn yn creu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer cyfranogiad, gwirfoddoli a chyflogaeth, gan alluogi cymunedau i arwain ac i gynnal newid.
Dechreuodd ein stori dros ddau ddegawd yn ôl yng Ngogledd-orllewin Cymru, yn dilyn ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor.
Nododd yr ymchwil anghydraddoldeb sylweddol: er bod gan yr ardal adnoddau naturiol o safon fyd‑eang a rhai o’r amgylcheddau awyr agored gorau yn y DU, roedd llawer o bobl leol — yn enwedig y rhai oedd yn profi tlodi, anfantais, gwahaniaethu ac ynysu daearyddol – yn methu cael mynediad at y cyfleoedd ar eu stepen drws nac elwa ohonynt.
Roedd y rhwystrau’n gymhleth ac yn systemig. Roedd gweithgareddau awyr agored bron yn absennol o’r system addysg, roedd cyfleoedd i bobl leol gael profiadau cychwynnol yn gyfyngedig, ac yn wahanol i chwaraeon traddodiadol fel rygbi neu bêl-droed, nid oedd llwybrau clir i glybiau cymunedol, cyfleoedd gwirfoddoli na chyfranogiad hirdymor. O ganlyniad, nid oedd gweithgareddau awyr agored wedi’u gwreiddio o fewn cymunedau lleol ac roedd y sector yn brin o berchnogaeth leol.
Roedd y rhwystrau hyn hefyd yn effeithio ar gyflogaeth a chyfleoedd economaidd. Nid oedd llwybr strwythuredig i bobl ifanc leol symud o gyfranogiad i hyfforddiant, cymwysterau a chyflogaeth yn y sector awyr agored. O ganlyniad, nid oedd y gweithlu’n adlewyrchu’r cymunedau yr oedd yn eu gwasanaethu. Ar adeg yr ymchwil, dim ond 4% o’r hyfforddwyr a’r rheolwyr llawn amser yng Ngogledd-orllewin Cymru oedd yn siarad Cymraeg yn rhugl ac wedi cwblhau eu haddysg uwchradd yn lleol – er bod y sector yn dibynnu’n helaeth ar adnoddau naturiol yr ardal.
Mae dull strategol y Bartneriaeth Awyr Agored yn rhagweld ‘Newidiad Cenhedlaeth’; ble mae ymgysylltu gyda gweithgareddau awyr agored yn arferol ac yn rhan o ffordd o fyw rheolaidd y boblogaeth leol.
Mae effaith The Outdoor Partnership yn ymestyn ymhell y tu hwnt i niferoedd cyfranogiad. Trwy rwydwaith o sefydliadau cymunedol, clybiau, gwirfoddolwyr, gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid strategol, rydym wedi helpu i adeiladu’r isadeiledd sy’n galluogi cyfranogiad hirdymor mewn gweithgareddau awyr agored ledled y DU.
Yn 2025–26, fe wnaethom gefnogi 147 o glybiau a grwpiau cymunedol, cryfhau gweithlu gwirfoddol o 838 o arweinwyr, ymgysylltu â 14,789 o bobl o gymunedau sydd dan gynrychiolaeth, a chreu llwybrau cynaliadwy i wirfoddoli, cymwysterau a chyflogaeth. Canfu asesiad annibynnol fod ein dull yn cynhyrchu £8.42 o werth cymdeithasol am bob £1 a fuddsoddir, gan ddangos sut mae cryfhau systemau lleol, capasiti a phartneriaethau yn darparu buddion hirdymor i unigolion, cymunedau a lleoedd.
Gallwch weld ein Strategaeth gyflawn yma: Strategaeth 10 Mlynedd y Bartneriaeth Awyr Agored
Mae ein cryfder nid yn unig yn yr hyn a ddarparwn, ond yn ein gallu i gysylltu a dylanwadu ar systemau. Dros ddau ddegawd, rydym wedi adeiladu rhwydwaith helaeth o bartneriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n ymestyn ar draws iechyd, addysg, llywodraeth leol, cyrff amgylcheddol, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, sefydliadau cymunedol a llunwyr polisi.
Mae hyn yn ein galluogi i weithredu fel pont rhwng sectorau, alinio adnoddau o amgylch canlyniadau a rennir, ac ymgorffori gweithgareddau awyr agored o fewn systemau ehangach sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, gwella lles, cryfhau cymunedau ac adeiladu newid cymdeithasol hirdymor.
Erbyn 2015 cydnabuwyd gwaith y Bartneriaeth Awyr Agored yn genedlaethol fel enghraifft o arfer da. Roedd galw cynyddol am ein cymorth a’n harbenigedd mewn ardaloedd eraill yng Nghymru ac yn 2018 sicrhaodd y Bartneriaeth Awyr Agored grant gan y Gronfa Gymunedol Loteri – Pawb a’i Le i ymestyn ein gwaith i bob rhanbarth yng Nghymru:
- Gogledd Cymru
- Canolbarth Cymru
- Rhanbarth Bae Abertawe
- Gwent
- Canolbarth De Cymru
Erbyn 2019 cynigwyd grant gan Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol – Portffolio’r DU oedd yn caniatáu i ni ymestyn ein gwaith i ardaloedd penodol eraill o fewn y DU.
Lloegr:
- Arfordir Cumbria
- Arfordir Gogledd Swydd Efrog
- Plymouth
- Coventry
- Torbay
Yr Alban:
- Swydd Ayr
Gogledd Iwerddon:
- De-ddwyrain (Dinas Armagh, Banbridge a Craigavon, Ards a North Down, Newry, Morne a Down)
- Y Sperrins (ANOB O fewn rhannau o Causeway Coast & Glens, Derry & Strabane, Fermanagh & Omagh a Mid Ulster)
Mae gennym Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored penodedig ym mhob rhanbarth a fydd yn gweithio ar wahanol brosiectau, gyda chlybiau a grwpiau cymunedol, ysgolion, unigolion ac arbenigwyr i gynyddu cyfleoedd i bobl gyflawni eu potensial trwy weithgareddau awyr agored.
Rydym yn gweithio ar chwe thema graidd: