Ein Gweledigaeth CAC: “Mynediad teg at weithgareddau awyr agored i bawb”

Gan weithio gyda’r rhai sy’n gwynebu’r rhwystrau mwyaf ac sy’n cael eu cynrychioli lleiaf, ein nod yw galluogi pawb i gael mynediad at gyfranogiad gydol oes mewn gweithgareddau awyr agored. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sail i bopeth a wnawn yn y Bartneriaeth Awyr Agored. Credwn y dylai pawb allu mwynhau manteision bod yn yr awyr agored, teimlo’n ddiogel ac yn perthyn. Rydym yn gwerthfawrogi pob unigolyn fel person unigryw, ac yn trin pawb gyda pharch ac urddas.
Gyda’n profiadau bywyd amrywiol, rydym yn meithrin gweithleoedd a gwasanaethau diogel, teg, amrywiol a chynhwysol lle mae pob llais yn cael ei glywed, ei barchu a’i ddeall. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu gweithlu a sector awyr agored ehangach sydd â’r hyder, y sgiliau a’r wybodaeth i wreiddio tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd ar ddarpariaeth, gan greu amgylchedd cynhwysol lle mae croeso i bawb.
Darllenwch ein strategaeth lawn i archwilio ein nodau a’n blaenoriaethau rhanbarthol CAC:
STRATEGAETH CAC 2026
2 MB, PDF
'Moving to Inclusion'
Rydyn ni bellach wedi tanysgrifio i’r Fframwaith Moving to Inclusion.

Mae “Moving to Inclusion” yn fframwaith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y DU, wedi’i greu gan y Cynghorau Chwaraeon i helpu sefydliadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol i ymgorffori arferion cynhwysol drwy hunan‑fyfyrio, cynllunio gweithredu a gwelliant parhaus.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

Ein Priosectau CAC:
Antur y Ferch Hon
Antur i Bawb
Prosiectau Iaith Gymraeg
Rhaglen Amser