Nod ein Rhaglen Antur Gynhwysol yw creu newid systemau hirdymor yn y ffordd y mae pobl ag anableddau yn cael mynediad at yr awyr agored ac yn ei phrofi. Trwy gyd-ddylunio, datblygu’r gweithlu, adeiladu partneriaethau a chreu llwybrau cymunedol cynhwysol, rydym yn helpu i symud gweithgareddau awyr agored o rywbeth sy’n cael ei addasu ar gyfer ychydig i rywbeth sy’n cael ei gynllunio o’r cychwyn i fod yn hygyrch, cynhwysol a chroesawgar.

Antur i Bawb
Datblygu Cyrsiau Hyfforddi Canllawio Cerdded a Rhedeg Mynydd/Llwybr yng Nghymru

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r Royal National Institute of Blind People (RNIB) i ddatblygu cyrsiau hyfforddi Guide Walker a Guide Fell/Trail Runner yng Nghymru, gan greu llwybrau cliriach i bobl â nam ar eu golwg gael mynediad hyderus i amgylcheddau mynydd a llwybrau. Cliciwch yma i ddysgu mwy am y sesiynau hyfforddi.

Roedd datblygiad arwyddocaol yn y daith hon yn cynnwys cefnogi Gareth Davies i ddod yn berson cyntaf sy’n byw gyda cholled golwg i gymryd rhan yn Râs Yr Wyddfa, o dan arweiniad Brett, ein Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored. Gwyliwch y clip byr hwn i ddysgu mwy am daith Gareth wrth baratoi ar gyfer y ras.

Mae cyfranogiad Gareth yn anfon neges bwerus am gynhwysiant yn yr awyr agored. Gyda chanllawio medrus a’r gefnogaeth gywir, gall rhedwyr â nam ar eu golwg gael mynediad i amgylcheddau mynydd heriol a chyflawni pethau anhygoel. Mae hyn yn atgyfnerthu un o’n credoau craidd ar draws Y Bartneriaeth Awyr Agored: Mae’r awyr agored ar gyfer pawb.

Clybiau Cynhwysol

Mae’r rhaglen Insport i glybiau yn rhan o’r prosiect Insport ehangach a ddarperir gan Chwaraeon Anabledd Cymru, sy’n ceisio cefnogi’r sectorau gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden sy’n darparu  yn gynhwysol.

Diben Insport i glybiau yw cefnogi clybiau i ddatblygu eu darpariaeth fel ei fod yn cynnwys pobl anabl. Ei nôd ydi creu clybiau sydd â strwythurau i allu darparu’r cyfleoedd gorau i’r gymuned, a chynyddu cyfranogiad ac aelodaeth pobl gydag anableddau. Mae hefyd yn galluogi adrannau mwy o’r gymuned i gymryd rhan mewn rôl lywodraethu wirfoddol, a pharhau i ddarparu chwaraeon gwych ledled Cymru.

Am fwy o wybodaeth neu i weld a yw eich clwb yn gymwys, ewch i wefan  Chwaraeon Anabledd Cymru.

Clwb Dringo Cynhwysol

Sefydlodd The Outdoor Partnership y Clwb Dringo Cynhwysol yn 2022 mewn ymateb i’r galw a grewyd gan sesiynau blasu dringo cynhwysol ym Mhowys ac yng Ngwent. Mae’r clwb yn rhan o waith ehangach i newid systemau, gan wneud gweithgareddau awyr agored cymunedol yn fwy cynhwysol, hygyrch a chynaliadwy.

Trwy weithio gyda chlybiau, gwirfoddolwyr, darparwyr gweithgareddau, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a sefydliadau cymunedol, rydym wedi adeiladu capasiti lleol, gwella arferion cynhwysol a chryfhau llwybrau i bobl anabl a’r rhai ag anghenion iechyd hirdymor gymryd rhan yn rheolaidd.

Gyda chefnogaeth gan Morrisons Foundation a Sport Powys, a chyflwyno drwy Ganolfan Aml-Weithgareddau Llangors, mae’r clwb bellach yn darparu model lleol dibynadwy ar gyfer darpariaeth gynhwysol. Mae’n helpu i symud ymarfer o ymyriadau byrhoedlog neu arbenigol tuag at gyfleoedd cymunedol sydd wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch o’r cychwyn.

Clwb Dringo Cynhwysol - Powys a Gwent
Gwyl Chwaraeon Dŵr Cynhwysol

Cynhaliwyd y digwyddiad unigryw hwn yn Dale, Sir Benfro, ar y cyd gyda 3 darparwr lleol, gan roi blas ar amrywiaeth o weithgareddau, o badlfyrddio a nofio i weithgareddau traeth fel chwilota creigiau.

Roedd y cyfleoedd hygyrch hyn yn caniatáu i deuluoedd ddod draw a chymryd rhan gyda’i gilydd, i ddod o hyd i weithgaredd awyr agored y maent i gyd yn ei fwynhau ac yn gallu parhau i wneud, gyda’i gilydd.

Fe wnaethom hefyd wahodd sefydliadau eraill, fel Ross Handling a ddaeth ag offer arbenigol anhygoel gyda nhw i bobl roi cynnig arnynt, ac elusen Cerebra sy’n helpu teuluoedd plant sy’n byw gydag anafiadau i’r ymennydd. Roedd hyn yn caniatáu cyfleoedd i gyfranogwyr a’u teuluoedd rannu gwybodaeth yn ogystal â hwyl yn y dŵr ac o’i gwmpas.

Diolch yn fawr i’n holl gydweithwyr a gynhaliodd y digwyddiad gwych hwn ochr yn ochr â ni: Celtic Deep, Chwaraeon Dŵr Gwyntog, Nofio Gwyllt Cymru, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r RNLI.

Cyrsiau Dringo i Bawb

Mae Cyrsiau Dringo i Bawb yn waith hirdymor i newid y systemau sydd wedi cyfyngu ar fynediad at ddringo i bobl anabl. Trwy weithio gyda chlybiau, waliau dringo, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau cymunedol, rydym yn helpu i wreiddio arferion cynhwysol o fewn darpariaeth leol yn hytrach na dibynnu ar gyfleoedd un-tro neu ymyriadau unigol.

Wedi’i achredu gan y British Mountaineering Council, mae’r cwrs un diwrnod yn meithrin sgiliau a hyder hyfforddwyr a gwirfoddolwyr i ddarparu dringo cynhwysol yn ddiogel ac yn effeithiol. Ei nod ehangach yw newid systemau: cryfhau capasiti’r gweithlu fel bod mwy o sefydliadau’n gallu croesawu cyfranogwyr anabl fel rhan o brif ddarpariaeth.

Trwy gyrsiau ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau eraill, ac wrth gefnogi’r hyfforddwr o Gymru Andy Cummings i gyflwyno’r hyfforddiant, mae The Outdoor Partnership yn meithrin rhwydwaith cynaliadwy o ddarparwyr medrus. Mae hyn yn cryfhau ecosystem dringo ac yn helpu gwneud cynhwysiant yn rhan naturiol, ddisgwyliedig o ymarfer bob dydd.

 

Addysg Hyfforddwr Cynhwysol

Ein nod yw cefnogi clybiau gweithgareddau awyr agored sy’n bodoli yn bresennol yn y gymuned, drwy drefnu a sybsideiddio hyfforddiant penodol. Gall clybiau sydd â diddordeb mewn dod yn fwy cynhwysol, ddatblygu’r clwb drwy weithio trwy’r  achrediad insport gan Chwaraeon Anabledd Cymru. Gall cefnogaeth hyfforddiant gynnwys;

  • Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd
  • BCU Paddle-ability
  • Dringo i Bawb
  • Sailability
  • Hyfforddi gydag Anabledd (Lefel 2)

Ym mis Mawrth 2021, Y Bartneriaeth Awyr Agored oedd y sefydliad trydydd sector cyntaf i gwblhau Achrediad Arian Insport Chwaraeon Anabledd Cymru.

Rydym bellach yn gweithio yn ddiwyd i anelu am yr Achrediad Aur.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy