mask
Speaks Welsh
Contact
Mae Rachael yn caru nofio yn yr awyr agored ac rydym wedi ei chefnogi i ennill cymhwyster Achub Bywyd Dŵr Agored, cymhwyster y gall ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd yn ei gwaith gwirfoddoli amrywiol.

Mae hi’n ymwybodol bod amser yn y dŵr, wedi ymgolli ym myd natur, yn cael dylanwad mor gadarnhaol ar ei bywyd, ac yr haf hwn, bydd hi’n cynnig profiadau nofio gwyllt i rieni sy’n ofalwyr plant anabl ac unigolion sy’n byw gyda phoen cronig, gan obeithio dod a’r un dylanwad cadarnhaol i fwy o bobl.

Yn ogystal â bod yn Llysgennad Gwirfoddoli gyda ni, mae hi hefyd yn arweinydd teithiau cerdded ar gyfer Wellness Walks yng Ngogledd Cymru, a bydd yn dod ac agweddau a phrofiadau nofio diogel i rai o’i theithiau cerdded yna hefyd.

Mae Rachael yn ddynes brysur iawn; Mae hi’n cyd-redeg menter gymdeithasol di-elw sy’n hybu dysgu yn yr awyr agored a galluogi mynediad i bawb waeth beth fo’u cefndir, gallu, symudedd neu incwm; ethos sy’n cyd-fynd yn fawr â’n gwaith ni yn Y Bartneriaeth Awyr Agored. Yn ogystal â hyn, mae ganddi dryc coffi a chacennau symudol; cadwch lygad allan amdani os ydych o gwmpas Gwern Gôf Isaf yr haf hwn, ac mae hefyd yn fam anturus wych gyda’i mab ifanc!

 mask
Rachael Hobbs
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Llio yn ferch o Nantlle yng Ngwynedd, ac mae'n falch o'r ardal, ei hanes pwysig a'r holl adnoddau naturiol sy'n bodoli yno.

Mae’n hoff iawn o fynd am dro o amgylch yr ardal a dod i’w adnabod yn well, ac yn mwynhau mynd ac eraill am dro i adnbod eu hardal hefyd!

Mae hi’n creu cyfres o deithiau a bydd yn ysgrifennu amdanynt i fwy o bobl gael dod i adnabod ardal Nantlle a lle mae’n bosib mynd am dro yno – gydag amrywiaeth o deithiau cerdded gwahnaol.

Os ydych chi awydd mynd am dro yn ardal Nantlle, beth am ddilyn rhai o deithiau Llio:

Taith pentref Penygroes-5km

Hanes lleol

 

 mask
Llio Elenid
Llysgenhad Gwirfoddol
"Rwy'n angerddol am gyflwyno eraill i'n cefn gwlad hardd. Mae rhannu taith gerdded mewn natur gydag eraill yn brofiad pwerus, iachaol ac weithiau trawsnewidiol gydag effeithiau cadarnhaol dwys. "

Mae Sarah yn arweinydd cerdded cymwysedig ar iseldir ac mae’n ecrych ymlaen i gynnig teithiau cerdded fel Llysgennad Gwirfoddol gyda chymorth y Bartneriaeth Awyr Agored yng Nghanolbarth Cymru, i alluogi’r gymuned hŷn i ymuno yn yr awyr agored.

“Rwy’n teimlo yn frwd bod angen annog rhai yn ein cymunedau nad ydynt yn cerdded yng nghefn gwlad ar hyn o bryd, neu sydd heb wneud hynny ers amser maith ac yn teimlo bod rhwystrau iddyn nhw fynd allan am dro yn yr awyr iach..

Rydym i gyd yn gwybod manteision cerdded ym myd natur ar gyfer iechyd meddwl a chorfforol, a’m nod yw rhoi cyfle i gymaint o bobl â phosibl brofi’r awyr agored trwy gerdded.

Rwy’n arbenigo mewn arwain teithiau cerdded drwy’r cymoedd a’r bryniau yn hytrach na’r mynyddoedd, gan ddeall bod yn well gan lawer o unigolion fynd am daith îs neu ddim mor hir a heriol.

Dwi’n grediniol fod cefn gwlad yna i bawb ei fwynhau a chael anturiaethau ynddo!”

Bydd hi’n cynnal teithiau cerdded yn wirfoddol ar gyfer Y Bartneriaeth Awyr Agored Canolbarth Cymru drwy ei chwmni ei hun a sefydlodd i alluogi i’w hangerdd dros gefn gwlad a cherdded droi’n yrfa. Byddwn yn cefnogi Sarah i ddatblygu ei sgiliau a’i chymwysterau mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ymhellach.

Cadwch lygad ar dudalennau Y Bartneriaeth Awyr Agored Canolbarth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleodd.

 mask
Sarah Price
Llysgenhad Gwirfoddol
Mare gan Janet brofiad ac arbenigedd eang mewn amryw o faesydd, ac mae'n bleser i ni gyd-weithio gyda hi fel Llysgenhad Gwirfoddol.

Fel darlithydd ffotograffiaeth proffesiynol, mae gan Jan gyfoeth o brofiad o weithio gyda phobl a helpu i ddatblygu sgiliau a meithrin creadigrwydd.  Mae ei chefndir personol mewn dringo a cherdded ac ymdrochi ym myd natur yn ei gwneud hi’n angerddol am uno’r creadigol gyda’r awyr agored ac mae lefel y brwdfrydedd a’r sgil a ddaw i’n tîm yn Y Bartneriaeth Awyr Agored yn wych.

Bydd yn arwain sesiynnau amrywiol ar ein cyfer; gwahanol agweddau o ffotograffiaeth, gweithdai ffotograffiaeth di-gamera, symudedd a llesiant. Bydd y gallu i wneud hyn drwy gyfryngau gwahanol yn ein galluogi i weithio gydag ac annog unigolion heb gefndir awyr agored i fentro allan.

Taith Llesiant a Ffotograffiaeth / Walking, Wellbeing and Photography Tickets, Sun, Aug 4, 2024 at 9:00 AM | Eventbrite

 mask
Janet Davies
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae gan Chris gefndir amrywiol yn yr awyr agored. Chwaraeodd ran sylfaenol yn ei adferiad personol ei hun o anafiadau ac mae'n credu'n gryf yn y manteision niferus gall gweithgareddau awyr agored ei gynnig i bawb.

“Rwy’n treulio fy amser hamdden naill ai’n dringo, cerdded a beicio ac yn mwynhau padlo o dro i dro  hefyd.

Rwyf wedi cyd-sefydlu elusen sy’n cefnogi dynion a menywod o’r gwasanaethau argyfwng neu gyn-filwyr sydd wedi’u hanafu; ein bwriad ydy paratoi unigolion at a threfnu alldeithiau unigryw sy’n gyfleoedd i wneud rhywbeth hollol unigryw ac yn fodd i godi hyder i addasu i fywyd gwahanol yn dilyn damwain neu brofiadau trawmatig. Mae hyn yn rhan o becyn cyfan sy’n rhoi chymorth iddynt ddatblygu a thyfu. Mae ein all-daith gyntaf yn cael ei chynnal ym mis Ionawr 2025 yn Fietnam Cambodia a Gwlad Thai.

Rwy’n dad sengl balch i’m tri phlentyn anhygoel ac rwy’n edrych ymlaen at y daith newydd hon gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored.”

Mae Chris eisoes wedi cychwyn yn ei rôl gyda ni, gan gymryd rhan mewn sawl gweithgaredd cynhwysol a dangos ei angerdd dros wneud yr awyr agored yn gynhwysol i bawb. Rydym yn falch iawn o weithio gydag ef ac rydym yn hyderus y bydd Chris a ninnau yn Y Bartneriaeth Awyr Agored yn ennill llawer o gydweithio a rhannu gwybodaeth a phrofiadau.

 mask
Chris Bailey
Llysgenhad Gwirfoddol
Dechreuodd Hannah badlo gyda ei chlwb lleol - Clwb Canwio'r Trallwng, ac mae bellach yn aelod brwd sydd hefyd yn angerddol dros helpu eraill i mewn i'r weithgaredd. Mae hi'n weithgar iawn yn gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd; bu'n helpu bachgen awtistig ifanc deimlo'n fwy cyfforddus yn y clwb ac o fewn sesiynau, ac mae hi hefyd ar Bwyllgor Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Canŵio Cymru. Bydd ei phersbectif unigryw o brofiad personol o ymgysylltu â chwaraeon padlo yn ased amhrisiadwy i ni yn y Bartneriaeth Awyr Agored hefyd.

Dywed Hannah; “Rwy’n aelod o Glwb Canŵio’r Trallwng; mae’r clwb wedi fy nghychwyn ar fy nhaith chwaraeon padlo ac ers hynny rydw i wedi mynd ymlaen i fentrau eraill! Mae gen i ychydig o rolau gwirfoddoli eraill yn y gymuned chwaraeon padlo.
Rwy’n hyfforddwr ac yn aelod o bwyllgor yn fy nghlwb, rwy’n wirfoddolwr a chynrychiolydd clwb ‘She Paddles Cymru’, ac rwyf ar Bwyllgor Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Canŵio Cymru.
Ar y rhaglen hon hoffwn allu helpu eraill na fyddent fel arfer yn cael cyfle i badlo neu gael eu deall, i gael eu gweld! Rwyf hefyd eisiau magu mwy o hunanhyder a symud ymlaen gyda fy ngwirfoddoli a sgiliau hyfforddi fy hun. Mae chwaraeon padlo bob amser wedi fy helpu i ymlacio a theimlo’n dawel”

 mask
Hannah Hancock
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae gan Dean gyfoeth o brofiad ac ystod o gymwysterau sy'n ei wneud yn Llysgennad naturiol. Ond yr hyn sy'n ei osod ar wahân mewn gwirionedd yw ei barodrwydd i wneud unrhyw beth! Beth bynnag y gofynnir iddo ei wneud ac ym mha bynnag leoliad, mae Dean bob amser yn barod i roi cynnig arni a dod o hyd i ffordd i wneud rhywbeth ddigwydd. Mae ei allu naturiol a'i egni yn golygu ei fod yn berffaith i'n helpu ni yn y Bartneriaeth Awyr Agored yn ein gwaith o gael pobl allan ac yn weithgar!

“Fel tad i dri o blant, a gweithiwr proffesiynol gwasanaethau brys, rwy’n wir weld gwerth yn gwasanaethu fy nghymuned. Mae fy angerdd yn ymestyn y tu hwnt i’m swydd bob dydd, ac rwy’n wirfoddolwr brwd i Gynllun Gwobr Dug Caeredin a chlybiau dringo hollgynhwysol yng Nghanolfan Summit ‘Rock UK’ a Chanolfan Aml-weithgaredd Llangors. Gyda chymwysterau fel Hyfforddwr Wal Ddringo ac Arweinydd Tir Isel, rwyf wastad yn ceisio meithrin amgylchedd cynhwysol lle gall pawb, waeth beth fo’u cefndir neu allu, brofi llawenydd gweithgareddau awyr agored.
Ond yr hyn sydd wir yn fy nghyffroi i yw’r cyfle i weithio gydag ystod amrywiol o bobl. Cysylltu â chyd-cyfranogwyr awyr agored, rhannu gwybodaeth, a dysgu oddi wrth ei gilydd—dyna lle mae’r hud yn digwydd.
Wrth i mi barhau â’r daith hon, rwy’n edrych ymlaen at ennill cymwysterau pellach, ehangu fy arbenigedd yn yr awyr agored, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fynd allan!”
Clywch Clywch!!

 mask
Dean Welton-Wall
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Delyth yn mwynhau gwirfoddoli mewn amrywiol ffyrdd, ac rydym yn falch ei bod yn ychwanegu dod yn Llysgennad Gwirfoddol ar gyfer Partneriaeth Awyr Agored i'w repertoire! Mae hi eisoes yn aelod o dîm Achub Mynydd Longtown, gwirfoddolwr rheolaidd gyda'r Clwb Dringo Cynhwysol yn Llangors, ac yn codi arian yn aml drwy gwblhau heriau anodd; yn fwyaf diweddar triathlon Ironman Cymru a Sialens "Spine MRT Summer Challenger South"; rhedeg taith o 108 milltir ar hyd y Pennine Way. Fel Llysgenhad Gwirfoddol Y Bartneriaeth Awyr Agored, byddwn yn cefnogi Delyth i gwblhau'r cymhwyster Arweinydd Mynydd.

“Mae fy nghariad at yr awyr agored a’r dyhead am heriau newydd wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi wirfoddoli; o ailadeiladu tai yn Honduras, cefnogi plant y stryd yn Ynysoedd y Philipinau, ac yn nes at adref bod yn arweinydd ieuenctid ar gyfer gweithgareddau awyr agored a gwirfoddoli gyda’r clwb dringo cynhwysol lleol. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweithio gyda phlant na fyddent fel arfer yn cael y cyfle i fwynhau dringo mewn amgylchedd cynhwysol. Rwy’n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yn enwedig os ydynt wedi cael rhai heriau yn eu bywydau ac y byddent yn elwa o amser yn yr awyr agored.
Mae fy sgiliau personol yn hyblyg ac rwy’n mwynhau gweithio gyda phobl o bob oedran a chefndir. Ar ôl i mi gwblhau’r cymhwyster arweinydd mynydd rwy’n anelu at gefnogi eraill i gael mynediad i’r awyr agored a dysgu sut i gael mynediad at y sgiliau hynny drostynt eu hunain.”

 

 mask
Delyth Brushett
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Dafydd yn dod ag agwedd unigryw i'n tîm Llysgenhadon Gwirfoddol. Mae wedi meithrin ei berthynas bersonol gadarnhaol ac iach ei hun â'r amgylchedd, natur a gweithgareddau awyr agored, sydd wedi ei helpu i oresgyn brwydrau iechyd meddwl. Mae bellach yn angerddol am ein helpu ni a helpu eraill i wneud yr un peth.

“Mae fy nghefndir yn yr awyr agored yn deillio o fy mhrofiadau personol ynghylch iechyd meddwl. Wedi sawl blwyddyn o therapi ‘traddodiadol’ ddim yn fy arwain i unrhyw le cefais fy nghyfeirio at ‘Tonic Surf Therapy‘ rhaglen sydd wedi’i lleoli yng Ngorllewin Cymru.

Darganfyddais fod bod yn y môr a dysgu syrffio, ochr yn ochr â therapi seiliedig ar CBT, yn galluogi i mi ddod o hyd i fy hun eto’n araf. Rhoddodd bwrpas ac ystyr i mi, ac wrth edrych yn ôl fe achubodd fy mywyd yn y pen draw. Bod yn yr amgylchedd rhyfeddol hwn oedd y catalydd ar gyfer fy adferiad iechyd fy hun.

Byth ers hynny rwyf wedi ymdrechu i roi’r un cyfleoedd i bobl ifanc eraill gysylltu â’r amgylchedd, drwy ba bynnag weithgaredd sy’n addas iddyn nhw. Rwyf hefyd wedi bod yn astudio Addysg Antur Awyr Agored yn y brifysgol ac mae gen i gynlluniau i astudio gradd meistr mewn seicoleg ym mis Medi, ac yn y pen draw fy nôd yw ymarfer fel therapydd antur.”

Rydym yn sicr y bydd profiad personol a brwdfrydedd Dafs o werth mawr i’n tîm ni mewn sawl ffordd, ac y bydd Dafs yn cael cyfle i ehangu ei sgiliau a profiadau ei hun drwy’r cynllun. hefyd

 mask
Dafydd Millns
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Marcus wedi bod yn weithgar yn yr awyr agored ar hyd ei oes, ac wrth ei fodd yn cerdded bryniau a mynyddoedd, beicio mynydd, marchogaeth, a 'bushcraft'. Tua diwedd y cyfnod clo, dechreuodd ddysgu Dringo a daeth hyn a newid i'w fyd, wrth iddo hyfforddi a cymhwyso fel arweinydd dringo ac mae bellach yn gweithio yn y maes.

Marcus yw sylfaenydd a chadeirydd Clwb Mynydda Equal Heights

Mae’r clwb yn darparu’r adnoddau, yr hyfforddiant a’r cymorth sy’n galluogi unigolion i archwilio a mwynhau natur yn hyderus ar eu telerau eu hunain. Mae’r annibyniaeth a’r hunanddibyniaeth hon yng ngwerthoedd craidd y clwb, ac mae Marcus yn ymroddedig i feithrin amgylchedd croesawgar a hygyrch i bawb gysylltu â natur. Yn aelod o’i dîm achub lleol, mae Marcus yn gwasanaethu fel technegydd achub dŵr cyflym ac yn aelod criw bad achub, lle mae’n falch iawn o fod yn rhan o dîm sy’n helpu aelodau o’i gymuned pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Mae’n credu bod amrywiaeth o brofiadau a safbwyntiau yn cyfoethogi’r profiad antur awyr agored. Mae ymrwymiad i gynhwysiant yn gyrru ei waith, wrth iddo ymdrechu i annog unigolion o bob cefndir i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, a’u gwerthfawrogi. Mae’r ymrwymiad a’r angerdd hwn dros gynwysoldeb yn ei wneud yn llysgennad perffaith ac ysbrydoledig ac rydym yn freintiedig iawn bod Marcus yn rhan o dîm Y Bartneriaeth Awyr Agored.

 mask
Marcus Twine
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Eiri yn hoff iawn o dreulio amser allan yn yr awyr agored. Mae wrth ei bodd yn gwneud gwahanol weithgareddau awyr agored, yn arbennig chwaraeon dŵr a padlo; mae'n weithgar iawn gyda criw Llandysul Paddlers, ac yn ddiweddar mae wedi ei dewis i gynrychioli tim Padlo y DU.

Ei hoff weithagreddau yw Caiac Slalom a Caiac Cross, ac mae’n cystadlu yn y ddau fath yma o badlo. Bu yn Slofacia a’r Weriniaeth Czech yn ddiweddar mewn cystadlaethau gyda Paddle UK. Mae’n gobeithio cael cynrychioli Paddle UK eto yn 2025, ac yn anelu i gystadlu yn rhyngwladol yn y dyfodol – cadwch olwg allan am ei henw dros y blynyddoedd nesaf – mae Eiri yn dalentog, penderfynol ac uchelgeisiol, ac yn sicr o fynd ymhell!

Pan nad ydyw hi’n cystadlu, mae’n gweithio yn Llandysul Paddlers, yn rhedeg sesiynnau nofio, rafftio a padlfyrddio. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli ei hamser yn hyfforddi padlo i blant ifanc a helpu gyda rasus a cystadlaethau. Does dim yn well ganddi na treulio amser allan yn yr awyr agored, cadw yn heini a iach, ac annog eraill i wneud hynny hefyd. Fel Llysgenhad Gwirfoddol i ni bydd yn parhau i wneud hyn a helpu ysbrydoli y genhedlaeth ifanc i fentro a dangos iddynt beth sy’n bosib!

 mask
Eiri O’Connor
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Jon wedi bod yn hyfforddwr MTB cymwysedig ac Arweinydd Mynydd ers dros 20 mlynedd ac mae'n awyddus i gyfuno ei angerdd am anturiaethau yn yr awyr agored â chreu cyfleoedd tŵf i bobl ifanc.

“Rwyf wedi gweithio i Ymddiriedolaeth y Tywysog / Princes Trust, mewn amrywiaeth o rolau ers dros 8 mlynedd ac wedi gweithio am flynyddoedd lawer yn y byd beicio fel rheolwr gweithdai a siop. Fel Llysgennad Gwirfoddolwyr, rwy’n awyddus i gysylltu’r ddwy rôl a helpu pobl ifanc i sylweddoli beth yn union y gallant ei wneud; darparu cyfleoedd i bobl ifanc fynd ar feic, dringo craig, cerdded bryn, a gweld sut mae’r profiad yn eu newid! Er fy mod i’n reidio i safon dda, rwy’n gwybod sut beth yw dysgu a dechrau eto, wedi dioddef rhai anafiadau sylweddol ac rwy’n edrych ymlaeni rannu’r hyn rwy’n ei wybod fel y gall pobl fwynhau manteision yr awyr agored i’r eithaf ond mewn ffordd fwy diogel”.
Gyda’i frwdfrydedd diddiwedd a’i angerdd am fod yn y foment pan yn yr awyr agored, nid oes gennym unrhyw amheuaeth y bydd y bobl ifanc hynny a’r Bartneriaeth Awyr Agored yn elwa’n fawr o gael Jon fel Llysgennad Gwirfoddol!

 mask
Jon Davies
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Aled wrth ei fodd yn yr awyr agored, ac yn cymeryd rhan mewn pob math o weithgareddau, a'i brif angerdd yw dringo. Mae hefyd yn angerddol am ddefnyddio a datblygu'r Gymraeg o fewn gweithgareddau awyr agored. Ar ôl treulio amser yn Sgandinafia a gweld sut mae nhw'n cofleidio'r ffordd awyr agored o fyw, a’r defnydd o derminoleg berthnasol yno, mae awyddus i ddod â hyn i Gymru a'r iaith Gymraeg.

Fel Llysgennad Gwirfoddol, mae’n bwriadu datblygu sesiynau sy’n cyflwyno Dringo i Ddechreuwyr drwy’r Gymraeg, yn y ganolfan ddringo dan do leol, a datblygu hyn ymhellach trwy greu grŵp sy’n paru dringwyr sy’n dysgu/yn awyddus i ddechrau ddysgu Cymraeg, gyda dringwyr newydd sy’n siarad Cymraeg!

Mae hefyd yn angerddol am greu cyfleoedd dringo i bobl ag anableddau amrywiol, a bydd yn gweithio gyda’r ganolfan ddringo i sefydlu sesiynau dringo cynhwysol er budd y ganolfan ac unigolion yn y gymuned nad ydynt ar hyn o bryd yn cael mynediad i’r ganolfan nac yn dringo fel gweithgaredd.

Byddwn yn cefnogi Aled gyda’r gwaith hwn wrth iddo hefyd barhau â’i ddatblygiad proffesiynol personol yn yr awyr agored.

 mask
Aled Oddy
Llysgenhad Gwirfoddol
Darganfu Esther gariad dwfn a pharhaus at gerdded a bod yn yr awyr agored pan ddechreuodd gerdded ym mryniau Cymru gyda'i mam a'i mab ifanc yn dilyn marwolaeth ei brawd. Dysgodd dri pheth yn gyflym - fod bod yn yr awyr agored, ac yn enwedig dringo bryniau mawr, yn ymarfer corff gwych sy'n gwneud i'r corff a'r meddwl deimlo'n well, bod cerdded gyda rhywun yn ffordd wych o gysylltu, gwella hen glwyfau, ac adeiladu perthynas ddyfnach, a bod Cymru yn wlad wirioneddol brydferth.

Dechreuodd y darganfyddiad hwn hi ar daith i well iechyd a lles, yn ogystal ag ymdeimlad cynyddol o antur. Mae hi’n mwynhau dringo, padlfyrddio, syrffio, ac mae hi bob amser yn awyddus i roi cynnig ar weithgareddau awyr agored newydd a dod o hyd i leoedd newydd i’w darganfod. Ers hynny mae Esther wedi hyfforddi i fod yn athrawes ioga a myfyrdod, canllaw ymwybyddiaeth ofalgar ym myd natur, a hyfforddwr adfer a ymgorffori, ac mae wedi gwneud hyfforddiant Arweinydd Iseldir, Cymorth Cyntaf Awyr Agored a Lles mewn Natur. Mae Esther yn awdur ac yn hyfforddwr adfer sy’n credu y gallwn wella’n well, yn gyflymach ac yn fwy cynaliadwy os ydym yn gwneud bod ym myd natur yn rhan o’n pecyn cymorth llesiant.

Mae Esther yn edrych ymlaen at gefnogi’r Bartneriaeth Awyr Agored drwy gynnig teithiau cerdded, ioga awyr agored a rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar ac adfer drwy ei rôlau eraill, yn ogystal â dod â’i sgiliau ysgrifennu a TG i’n helpu ni yn uniogyrchol gyda blogiau a gweithgaredd gwefan.

Meddai Esther, “Rwyf wedi mynychu ychydig o ddigwyddiadau anhygoel a drefnwyd gan y Bartneriaeth Awyr Agored, ac rwy’n falch iawn o allu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, a bod yn rhan o’r tîm. Rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod pobl a darganfod beth y gallaf ei gynnig i helpu i hybu lles ym myd natur yn Ne-ddwyrain Cymru.”

 mask
Esther Nagle
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Caitlin yn Lysgenhad grêt a gwahanol, ac mae'n dod a sgiliau newydd i'n tîm Caitlin is a great Volunteer Ambassador for The Outdoor Partnership, and brings different skills to the role.

“Rwy’n fyfyriwr prifysgol yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Ffilmio Antur… Mae’n epig… Rwy’n cael cyfuno fy nau angerdd mwyaf o fod yn yr awyr agored yn gwneud chwaraeon ac yn anturio, gyda chreu ffilmiau a lluniau… Alla i ddim aros i rannu fy nghreadigrwydd a’m hangerdd yn y rôl hon! Rwyf wrth fy modd yn creu cynnwys ystyrlon o amgylch ein cysylltiad â natur, presgripsiwn cymdeithasol a helpu i gadarnhau i bobl pa mor wych a hapus y maent yn edrych yn yr awyr agored. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wirfoddoli gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored, i roi hwb i’w presenoldeb, rhannu’r gair am y gwaith ysbrydoledig y maent yn ei wneud, a gobeithio creu mwy o gyllid os yn bosibl!!
Yn fy amser hamdden, fe ddewch o hyd i mi: yn chwilota mewn coetiroedd, nofio mewn unrhyw gorff o ddŵr, a thynnu lluniau mewn mynyddoedd.”

Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Caitlin wrth iddi ddatblygu ei sgiliau a pharatoi i weithio yn y byd antur ac awyr agored, ac edrychwn ymlaen i weld mwy o’i ffilmiau yn y dyfodol!

 mask
Caitlin Longden
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Elin yn ymuno efo'n tîm o Lysgenhadon Gwirfoddol fel mae hi'n gorffen ei astudiaethau acadmenaidd yn y maes awyr agored, ac mae'n awyddus nawr i fwrw mewn i waith a profiadau ymarferol o bob math!

“Rwyf wedi graddio mewn Addysg Antur Awyr Agored ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant ac ar hyn o bryd yn symyd i fyd gwaith yn y diwydiant cyffrous hwn! Dechreuodd fy nghariad at yr awyr agored ym mynyddoedd Eryri lle cefais fy magu, yna darganfyddais y gallwn ddod yn rhan o gymuned sy’n ymdrechu i wneud yr awyr agored yn lle hygyrch i bobl ei fwynhau a ffynnu.

Mae ymuno â’r gymuned hon wedi rhoi profiadau hynod werth chweil i mi, fel cael dylanwad cadarnhaol ar fywydau pobl ifanc yn ogystal a thaith o hunan-ddarganfod trwy ddringo, mynydda, caiacio, a llawer mwy!

Mae fy astudiaethau wedi dangos i mi y gwerth a’r llês, ynghyd a rhoi cyd-destun imi o ran pam mae’r awyr agored yn gwneud i ni deimlo mor gyflawn. Mae ffocws penodol ar astudiaethau rhywedd a lle menywod yn yr awyr agored yn fy ngwneud yn awyddus i wirfoddoli gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored i barhau i fynd i’r afael â’r pynciau a’r heriau pwysig hyn.”

Bydd Elin yn ein helpu a cynrychioli mewn amrywiol ddigwyddiadau a sesiynnau, ac mae hi wastad yn awyddus am sgwrs am ddyddiau da allan yn yr awyr agored! Cofiwch ddweud Helo os gwelwch hi allan yn rhywle!

 

 mask
Elin Jones
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Elis wedi ei fagu ym Mhen Llyn ac yn byw ond tafliad carreg o'r llwybr arfordir. Ers yn ifanc mae wedi bod yn cerdded a chrwydro mynyddoedd a llwybrau Eryri, ac mae yn aelod o glwb cymunedol Rhedwyr Hebog, ac yn cystadlu mewn rasys mynydd yn rheolaidd.

Mae Elis hefyd wedi cymhwyso fel athro cynradd ac yn mwynhau addysgu plant ifanc.

“Credaf fod mwy i addysg na’r hyn a gynigir o fewn yr ystafell dosbarth. Mae’n bwysig bod plant yn cael bod tu allan yn yr awyr agored, fel eu bod yn cael profiadau i ddatblygu sgiliau hanfodol eraill megis ffitrwydd corfforol, sgiliau ieithyddol, daearyddol ac yn y blaen. Mae pwyslais ar ddatblygiad iechyd a llês yn y Cwricwlwm newydd i Gymru felly mae lle pendant i’r awyr agored yn addysg y plant.

Hoffwn ddatblygu fy sgiliau personol fel y gallaf rannu’r sgiliau a rhoi profiadau positif yn yr awyr agored i blant oedran cynradd ac uwchradd. Rwyf yn hyfforddi i fod yn arweinydd mynydd, ac ar ôl cymhwyso byddaf yn gweithio i gynnig cyfleoedd i ddisgyblion gael mentro i’r mynyddoedd lleol, dysgu am eu cynefin a magu hyder i’w galluogi i fentro allan au hunain yn y dyfodol.”

 mask
Elis Jones
Llysgenhad Gwirfoddol
Rydym mor falch fod yr hyfforddwraig Pilates Elen, yn rhan o'n tîm Llysgenhadon Gwirfoddol. Mae hi'n angerddol am helpu pobl i deimlo'n gryf, wedi'u grymuso ac yn symud, ac mae'n gobeithio cyfuno hyn â'i chariad at yr awyr agored, gan gynnig sesiynau natur i helpu pobl i gysylltu symudiad â'r amgylchedd o'u cwmpas.

“Mae’r awyr agored wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd erioed. Dwi wrth fy modd yn cerdded, yn enwedig yn y Bannau Brycheiniog, yn ogystal â dringo a nofio gwyllt. Rwyf wrth fy modd yn dringo, ac er fy mod weithiau’n cael trafferth gyda’r uchder, mae’r teimlad o gyflawniad y mae’n ei roi yn werth chweil, waeth pa mor uchel rydych chi’n mynd. Mae Cymru’n llawn tirweddau anhygoel i’w harchwilio, ac er fy mod wedi bod yn anturio ers yn blentyn, rwy’n teimlo fel fy mod ond wedi crafu’r wyneb. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio tuag at fy nghymhwyster Arweinydd  Bryniau ac Iseldir ac rwy’n methu aros i ddechrau arwain teithiau cerdded a rhannu’r profiad o ymdrwytho’n llawn ym myd natur gydag eraill. Dwi byth yn colli cyfle i neidio i mewn i ddŵr oer!

Cesfais gyfnod yn byw ym mynyddoedd y Rockies yng Nghanada, lle roeddwn i’n ddigon ffodus i brofi dringo iâ, sgïo traws gwlad, a beicio mynydd, i gyd diolch i garedigrwydd pobl a rannodd eu sgiliau gyda mi. Nawr, rwyf am dalu hynny ymlaen, gan rannu fy ngwybodaeth fy hun o gerdded, dringo a pilates lle bynnag y gallaf, wrth barhau i ddysgu gan y rhai o’m cwmpas.

 

 mask
Elen Francis-Falkner
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Bex yn ymuno â'n tîm Llysgennad Gwirfoddol gyda phrofiad mewn llawer o wahanol weithgareddau; o gerdded a nofio i syrffio ac eirafyrddio. Ar ôl datblygu angerdd am weithgareddau awyr agored, penderfynodd symud i Ogledd Cymru i gael ei hamgylchynu gan holl adnoddau naturiol anhygoel yr ardal, ac mae'n sicr yn gwneud y gorau ohonynt i gyd! Bydd Bex yn gweithio ochr yn ochr â ni, gan geisio cyflwyno mwy o bobl yng ngogledd ddwyrain Cymru i roi cynnig ar rai gweithgareddau newydd sy'n bosib eu gwneud yn eu milltir sgwar!

“Dechreuodd fy mywyd fel hyfforddwr awyr agored pan oeddwn i’n 18 oed a symudais o Gaint i Ogledd Cymru i fyw yn y mynyddoedd! Dechreuais brentisiaeth mewn canolfan awyr agored cyn mentro allan a rhoi cynnig ar waith llawrydd. Rydw i wedi bod yn dywysydd rafft ac wedi hyfforddi mewn beicio mynydd, dringo, padlo a cherdded. Ar ôl gweithio gydag oedolion a phlant mewn gwahanol leoliadau, rwyf bellach yn gwybod fy mod wrth fy modd yn cysylltu pobl a natur â’u hunain trwy antur, cysylltiad natur ac ymwybyddiaeth ofalgar. Rwy’n angerddol am edrych ar ôl yr amgylchedd ac rwy’n credu pan fydd pobl yn caru rhywbeth, maen nhw eisiau gofalu amdano – felly mae cael pobl i garu’r awyr agored yn golygu llawer i mi. “

 mask
Bex Pope
Llysgenhad Gwirfoddol
Fel rhywun sydd wedi darganfod manteision yr awyr agored ychydig yn ddiweddarach, mae Ali, ers hynny, mae wedi bod yn gwneud iawn am amser coll! Mae'n mwynhau dysgu sgiliau newydd mewn gweithgareddau newydd ac eisiau eu defnyddio trwy annog eraill i roi cynnig arnynt hefyd.

Mae’n awyddus i sefydlu grŵp sy’n cefnogi ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn yr awyr agored, ac mae’n gweithio ochr yn ochr â ffrindiau i sefydlu pethau, a byddwn yn eu helpu ar hyd y ffordd.

Mae Ali hefyd yn cymryd rhan frwd mewn digwyddiadau cymunedol yn ardal Llangollen, fel y Dee Valley Clean Up.

Helo! Ali ydw i.

Tan symud i ogledd Cymru, roedd yr awyr agored yn ffordd o fynd o A i B i mi! Yn daith feicio neu daith cerdded achlysurol. Fe wnes i ddarganfod ei fod yn gymaint mwy na hyn. Mae’r awyr agored bellach yn lle o gyffro, antur, iachâd, gwaith a chymaint mwy i mi.

Rwy’n treulio fy amser nawr wedi’i rannu rhwng gweithio fel hyfforddwr gweithgareddau a chymryd rhan mewn ystod eang o hobïau.

Rwy’n dywysydd rafft cymwysedig, hyfforddwr padlfyrddio a hyfforddwr beicio mynydd ac rwy’n edrych i ddod yn arweinydd mynydd.

Fel rhywun sy’n dal i ddarganfod pa mor fuddiol a hardd yw’r awyr agored mewn gwirionedd, rydw i bob amser yn awyddus i gael eraill i gymryd rhan.

 mask
Ali Matten
Llysgenhad Gwirfoddol
Mae Jos wir yn lysgennad; ar ôl cael blas ar weithgareddau awyr agored trwy ymuno â'i glwb lleol yn Llanberis, mae bellach wedi datblygu gyrfa a busnes yn y diwydiant, ac mae'n dweud fod hyn i gyd oherwydd y Bartneriaeth Awyr Agored!

“Cefais fy magu yn Llanberis, a threuliais fy mhlentyndod yn y mynyddoedd o amgylch y pentref. Pan helpodd y Bartneriaeth Awyr Agored i sefydlu Clwb Antur Dyffryn Peris yn y pentref, ymunais a dechrau padlo ac roedd yn wych gallu mynd allan bob wythnos a dysgu gan aelodau eraill mwy profiadol o’r clwb.

Fe wnes i fwynhau pob agwedd ar chwaraeon dŵr yn fawr, a dechreuais ddysgu sut i hwylio ym Mhlas Menai, ac yna ar ôl gadael yr ysgol, ymunais â chynllun hyfforddeion Plas Menai i ddod yn hyfforddwr chwaraeon dŵr cymwysedig. O’r fan honno roeddwn i’n gallu mynd i weithio fel hyfforddwr yng Ngwlad Groeg a Dubai ac roeddwn i wrth fy modd â’r holl brofiadau hyn.

Rwyf bellach wedi dychwelyd adref i Ogledd Cymru, ac ochr yn ochr â fy mhartner a’m ffrindiau, wedi dechrau busnes: Snowdonia Gear Repair.

Mae’n gyfle gwych i ddatblygu busnes newydd yn yr ardal ac rydym yn mynd yn brysur eisoes. Mae hefyd yn bwysig dangos y gall gweithio yn y diwydiant awyr agored olygu llawer o bethau gwahanol, ac rydym yn falch o fod yn gwneud ein rhan dros yr amgylchedd hefyd a helpu selogion awyr agored i fyw’n fwy cynaliadwy.”

Mae’n wych cael Jos a’r tîm yn rhan o’n tîm Llysgenhadon Gwirfoddol ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw, a darparu cyfleoedd i eraill feddwl am gynaliadwyedd yn eu hamgylchedd awyr agored eu hunain. Ac os oes gennych rywfaint o ddillad neu offer sydd angen ei drwsio neu ychydig o sylw, rydym yn argymell Jos a’i dîm yn fawr!

 mask
Jos Davison
Llysgenhad Gwirfoddol
O’r soffa i’r Himalaia!

Cychwynnodd fy llwybr i fod yn Lysgennad Gwirfoddol gyda’r Soffa i 5K gyda MIND, gan arwain i deithiau cerdded Rhagnodi Cymdeithasol a gynhaliwyd gan Y Bartneriaeth Awyr Agored, a arweiniodd i gyfarfod Bethan.

Arweiniodd hefyd i mi gyfarfod â Helen Menhinick o Bryn Walking oedd yn arwain y teithiau cerdded hynny i’r Bartneriaeth Awyr Agored. Es ymlaen i gymryd rhan mewn Diwrnod Llywio Cyflwyniadol a gynhaliwyd gan Bryn Walking, ac wedyn, diolch i dîm y Bartneriaeth Awyr Agored, ymlaen i wneud cwrs Sgiliau Mynydd a chyrsiau llywio NNAS Efydd ac Arian gyda Helen. Cyfarfûm ag Alan Ward, Arweinydd Mynydd Rhyngwladol, a sgwrsio dros ginio ac wrth gerdded, ac ymlaen i Wersyll Sylfaen Annapurna (!), wythnos arall yn Eryri ac un arall ar y gweill (a’r posibilrwydd o Camp Gwaelod Everest arall gyda nhw!!).

Rwyf wrth fy modd yn dysgu llywio. Roeddwn wrth fy modd gyda Daearyddiaeth yn yr ysgol ond roedd y weithred o ddysgu rhywbeth newydd tra bod allan yn yr awyr agored yn rhywbeth mor bwerus p’un a ydych chi’n bwriadu defnyddio map a chwmpawd ai peidio. Yn fuan, byddaf yn cymryd rhan mewn Hyfforddiant Mynydd Arweinydd Rhostir ac, erbyn hyn, yn aelod o’r NNAS, cymdeithas y BMC a’r Mountain Training Association.

I raddau helaeth oherwydd fy mod wedi cymryd y llwybr hwn a gweld beth oedd yn gyraeddadwy, rwy’n credu’n gryf bod yr awyr agored, cerdded a llywio i bawb. Cyn belled â’ch bod wedi paratoi ar yr ochr diogelwch (esgidiau cyfforddus a diogel, dillad glaw ayyb) nid yw’n weithgaredd elitaidd ar gyfer labeli drud, i’r rhai sy’n hynod o ffit neu o siâp neu faint corff neu oed arbennig. Mae’n rhy hawdd meddwl bod pethau fel heicio yn yr Himalaia, tystysgrifau llywio, a cymwysterau eraill allan o’ch cyrraedd am bob math o resymau – ond rwy’n brawf nad ydynt. Rwy’n Gymhorthydd Cyntaf yn y gwaith ac wedi cwblhau hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn y gweithle ac ar gyfer yr awyr agored gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored. Rwy’n gwneud cymaint ag y gallaf o gyrsiau yn y gwaith, yn cynnwys cyrsiau Iechyd a Llesiant.

Rwyf wastad wedi caru natur, ers yr amser roedd fy mam yn fy ngwthio yn fy mhram ar hyd glan yr afon gyferbyn â ble tyfais i fyny, ond buaswn wedi bod yn rhy nerfus i fynd draw i daith gerdded fyddai’n cael ei hysbysebu, neu i ddigwyddiad a chyfarfod pobl newydd, oni bai fy mod wedi cymryd y llwybr hwn ac wedi derbyn y gefnogaeth gefais i. Rwyf wedi cael hobi newydd, sgiliau, a chariad o’r newydd tuag at yr awyr agored (heb sôn am y Bannau Brycheiniog) a grŵp newydd o ffrindiau hyfryd.

Mae gen i hobïau eraill hefyd – hyfforddiant nerth, gwaith coed, gwnïo a chrefftau, Rhedeg Rhwystrau Mwd, campio yn y Bannau Brycheiniog gydag Ernie’r milgi, codi arian ar gyfer milgwn, mulod ac anifeiliaid eraill (yn cynnwys cerdded tân ar gyfer South Wales Dog Rescue). Rwy’n aelod o Gymdeithas Gefeillio Aberhonddu / Dhampus, wrth fy modd yn mynychu digwyddiadau Nepalaidd ac yn dechrau dysgu’r iaith. Rwyf wedi teithio drwy Siberia a Mongolia ar y Trans-Siberian Express, wedi cerdded ym Mynyddoedd Rila ym Mwlgaria, yn cynnwys yr eclips llawn ym 1999.

Gall yr awyr agored fod yn gymaint o bethau gwahanol – lle ar gyfer heddwch a thawelwch i ail-gysylltu gyda natur ac i adfywio, lle ar gyfer antur ac archwilio. Mae’n ein hannog i ehangu ein ffiniau ac i drio pethau newydd. Mae gan byd natur ffordd o’n seilio ni, i’n helpu i ddod o hyd i eglurder a phersbectif yng nghanol dryswch bywyd pob dydd – mae gan yr awyr agored rhywbeth i’w gynnig i bawb.

 mask
Louise B.
Llysgenhad Gwirfoddol

Cefais fy nghyflwyno i heicio o oedran ifanc ac rwyf bob amser wedi caru crwydro cefn gwlad Lloegr, yr Alban a nawr Cymru. Y dyddiau yma mae fy nheithiau cerdded yn tueddu i gynnwys nofio mewn llyn, afon neu gilfach gyfrinachol – beth bynnag fo’r adeg o’r flwyddyn! Rwyf hefyd yn treulio llawer o fy amser rhydd yn padlo ar y dŵr ac yn ddiweddar wedi cwblhau fy Ngwobr Hyfforddwr Chwaraeon Padlo. Pan nad wyf yn y dŵr neu ar y dŵr, rwy’n mwynhau dringo dan do a’m nod nesaf yw gwella fy sgiliau yn y maes hwn.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn arbennig, rwyf wedi cydnabod yr effaith gadarnhaol enfawr y mae bod yn egnïol wedi’i chael ar fy iechyd a’m lles. Ers 2011, rwyf wedi gweithio gyda phobl sydd wedi colli eu golwg ac rwy’n angerddol am weithgareddau a phrofiadau sy’n hygyrch i bawb. Fel Llysgenhad Gwirfoddol rwy’n gyffrous i gefnogi eraill i brofi manteision dringo ac ymgysylltu â’r awyr agored, ac i gyflawni pethau na fyddent efallai wedi’u meddwl yn bosibl.

 mask
Jemma Dopson
Llysgenhad Gwirfoddol

Rwy’n wneuthurwr ffilmiau ac yn ffotograffydd anturiaethwr llawrydd o Gŵyr. Graddiais gyda gradd mewn gwneud ffilmiau antur fis Gorffennaf diwethaf. Fy angerddau mwyaf yw bod mewn natur ynghyd â gwneud Ffilmiau a Ffotograffiaeth, ac mae cyfuno’r ddau ohonyn nhw’n dod â chymaint o lawenydd i mi. Mae gen i angerdd dros wneud ffilmiau am hygyrchedd mewn chwaraeon eithafol, a’m breuddwyd yw teithio a chreu ffilmiau am barasyrffio. Rwyf mor gyffrous ac yn ddiolchgar o fod yn rhan o’r bartneriaeth awyr agored ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r bobl anhygoel sy’n rhan o’r Elusen hon.

 mask
Lucy Rose
Llysgenhad Gwirfoddol