Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn rhedeg cynllun cyffrous ar gyfer pobl rhwng 18 a 30 oed sy’n byw yng Ngogledd Cymru, sy’n angerddol am yr awyr agored, ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a’u cymhwysterau.

Hyfforddeion Ifanc
Y Cefndir

Mae’r cynllun yn cael ei gynnal yng nghanol Eryri, ac yn cael ei redeg gan ein Swyddog Hyfforddi, Ailish Roberts. Mae dros 60 o bobl ifanc wedi bod drwy, neu ar y cynllun ar hyn o bryd, a’i nod yw cynyddu y nifer o bobl sy’n gwneud cais am swyddi dan hyfforddiant mewn canolfannau awyr agored a busnesau awyr agored yn yr ardal, yn ogystal â chynyddu nifer yr hyfforddwyr sy’n siarad Cymraeg yn y maes.

Mae’r cynllun yn fwy na rhaglen hyfforddi yn unig – mae’n rhan o’n dull hirdymor o newid y ffordd y mae’r sector yn recriwtio, datblygu ac yn cadw talent lleol o fewn y sector awyr agored. Rydym yn cydnabod bod llawer o sefydliadau’n wynebu heriau wrth recriwtio a chadw gweithlu medrus, tra bod llawer o bobl ifanc dalentog yn wynebu rhwystrau i gael mynediad at yrfaoedd yn y sector awyr agored. Drwy greu llwybrau cynnydd clir a gweithio’n agos gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau awyr agored, rydym yn helpu i ddatblygu gweithlu sy’n fwy amrywiol, cynhwysol a chynaliadwy. Mae’r cynllun yn cefnogi talent lleol i aros yn y rhanbarth, yn cryfhau gallu’r sector awyr agored ac yn helpu i sicrhau bod arweinwyr, hyfforddwyr a gweithwyr proffesiynol y dyfodol yn adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Am y Cynllun

Trwy ddarparu sesiynau a chyfleoedd rheolaidd, nod y cynllun yw helpu pobl ifanc i ennill neu ddatblygu sgiliau mewn amrywiol weithgareddau gan gynnwys;

  • Dringo
  • Arfordirio
  • Beicio Mynydd
  • Mordwyaeth
  • Padlo
  • Sgiliau mynydda gaeaf

Mae hefyd yn trefnu ymweliadau i Ganolfannau Awyr Agored a sefydliadau Achub Mynydd i weld sut beth yw bywyd y tu ôl i’r llenni, ynghyd â chymorth ac arweiniad ar gwblhau ceisiadau, a sesiynau ymarferol wedi’u teilwra i baratoi ar gyfer asesiadau a chymwysterau y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol.

Am y Cynllun
  • 1 diwrnod yr wythnos
  • 1 gweithgaredd yr wythnos
  • Mae’n gynllun hir-dymor sy’n cyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith a bywyd fel arall
  • Dim pwysau i fynychu bob wythnos
  • Cyfathrebu trwy grwp Whats app
  • Fforwm hysbysebu swyddi
Diddordeb?

Awydd? Ydy hyn yn swnio fel rhywbeth yr hoffech chi gymryd rhan ynddo?

Os ydych rhwng 18 a 30 oed, yn byw yng Ngogledd Cymru ac yn gallu trefnu trafnidiaeth eich hun i leoliadau, gallwch ymuno â’r cynllun.

Cysylltwch â Ailish Roberts yn uniongyrchol ar 07742875852 neu Ailish.roberts@outdoorpartnership.co.uk, ac fe gewch yr holl wybodaeth angenrheidiol pellach.

Neu Cyflwynwch gais drwy’r ddolen ganlynol: Ffurflen Cynllun Hyfforddi

Q&A Hyfforddeion

Dewch i adnabod rhai o’r Hyfforddeion yn well – Peri Smith