Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio gyda chlybiau, ysgolion, unigolion ac arbenigwyr i gynyddu cyfleoedd i bobl yn Cumbria gyflawni eu potensial drwy weithgareddau awyr agored, cyfranogiad gweithredol, gwirfoddoli, hyfforddiant ac addysg.

Claire Bryant - Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored

Claire Bryant yw ein Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Cumbria. Mae’n cwmpasu Coastal Cumbria (Copeland ac Allerdale).

Antur i'r Teulu

Rydym yn cefnogi teuluoedd i ddarganfod yr awyr agored ar eu haelwyd yn Cumbria Arfordirol gan greu digwyddiadau sy’n groesawgar ac yn addas ar gyfer ystod o alluoedd. Hyd yn hyn mae gweithgareddau wedi cynnwys Ysgol Goedwig Deuluol, diwrnodau diogelwch ar y  dŵr a theithiau cerdded tywys.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Copeland i greu adnoddau o amgylch yr arfordir.

Mae Llwybrau Straeon yn deithiau cerdded 1-2 awr i deuluoedd yn seiliedig ar storïau hwyliog, gyda map wedi’i lunio â llaw i blant. Felly, lawrlwythwch gopi o’r map ac ewch am antur. Mae yna 6 o deithiau cerdded gwych ar hyd arfordir Copeland i ddewis ohonynt – http://taletrails.co.uk/the-walks.

Buom hefyd yn gweithio i gynhyrchu pecynnau gweithgareddau yn ystod y cyfnod clo sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Antur y Ferch Hon

Mae’r rhaglen Antur y Ferch Hon yn cynnig cyfle i merched a genethod gymryd rhan mewn gweithgareddau am bris gostyngol. Mae’r holl weithgareddau yn cael eu rhedeg gan hyfforddwyr ysbrydoledig a chefnogol mewn amgylchedd cymdeithasol a chefnogol. Hyd yn hyn, mae gweithgareddau wedi cynnwys cerdded bryniau a phadlfyrddio, a’r cyfan o fewn tirweddau naturiol hardd arfordirol Cumbria a Llynnoedd y Gorllewin.

Diwrnodau Sgiliau Mynydd Misol. Rydym yn mynd ar daith gerdded wahanol bob mis, ac yn adeiladu eich sgiliau yn yr awyr agored, gan edrych ar feysydd fel darllen mapiau, dewis llwybrau, a diogelwch ar y bryniau. Mae’r dyddiau’n gefnogol ac yn hwyl, a does dim ots os ydych chi’n ddechreuwr llwyr. Rydyn ni’n mynd ar gyflymder sy’n addas i’r grŵp ac yn dechrau gyda rhai teithiau cerdded heb fod ymhell o Whitehaven. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth:

Hyfforddiant Gwirfoddolwyr

Rydym yn cefnogi clybiau gweithgareddau lleol gydag addysg hyfforddwyr ar gyfer eu gwirfoddolwyr oherwydd rydym yn gwybod y byddem ar goll heb y gwaith caled a’r ymroddiad y mae cymaint o bobl yn ei roi trwy wirfoddoli eu hamser a’u hegni bob wythnos er mwyn datblygu eu clybiau o fewn y gymuned a gwella cyfranogiad chwaraeon ar lawr gwlad.

Hyd yn hyn, rydym wedi cefnogi gwirfoddolwyr anhygoel i ennill cymwysterau o badlo i gyfeiriannu,  Cymorth Cyntaf a chymwysterau addysg hyfforddwyr disgyblaeth benodol.

I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen Cefnogaeth Clybiau yma:

Iechyd a Lles

Nod ein rhaglen iechyd a lles yw cynyddu lefel gweithgaredd corfforol a gwella iechyd meddwl trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn amgylchedd â chymorth.

Rydym wedi ymuno â Black Dog Outdoors i gynnig teithiau cerdded misol rhad ac am ddim o ganol Whitehaven gyda bws mini ac arweinwyr mynydd cymwys a phroffesiynol. I archebu lle dilynwch y ddolen  https://www.blackdogoutdoors.co.uk/events/

Cyfleodd i bobl ifanc

Yn dilyn llwydiant cynllun 2022, byddwn yn cynnig mwy o gyfleodd i bobol ifanc mewn gweithgaredddau awyr agored o Ebrill 2023 ymlaen.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld be sy’n digwydd:

https://outdoorpartnership.co.uk/events

https://www.facebook.com/TOPCumbria

Cawsom ein hariannu gan Sefydliad Cymunedol Cumbria i gynnal cyfres o weithgareddau awyr agored i bobl ifanc. Rydym wedi cefnogi dros 150 o bobl ifanc mewn gweithgareddau datblygiadol ar lawr gwlad gan gynnwys Padlfyrddio, Canŵio, Dringo a cherdded gweundiroedd.

Yn dilyn llwyddiant y prosiect hwn rydym yn cynnig gweithgareddau awyr agored i bobl ifanc dros yr haf. Edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau i archebu lle.

Lles drwy Natur

Mae Lles mewn Natur yn rhaglen 12 mis o weithgareddau cysylltiad natur ar gyfer rhagnodi cymdeithasol gwyrdd.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys ysgol Coedwig ymdrochi Coedwig (oedolion a phlant) Llwyn sylfaenol yn crefftio ffotograffiaeth Ymwybyddiaeth Ofalgar Natur ar stepen eich drws

Os hoffech fynegi diddordeb yn hyn, cysylltwch gyda claire.bryant@outdoorpartnership.co.uk

Eisiau gwybod mwy?

Os hoffech wybod mwy neu os ydych yn glwb gweithgareddau awyr agored a hoffai gymryd rhan, cysylltwch â Claire ar 07516 507357 neu claire.bryant@outdoorpartnership.co.uk.