Mae gwirfoddolwyr yn ganolog i waith y Bartneriaeth Awyr Agored i greu cyfleoedd awyr agored cynaliadwy. Yn hytrach na recriwtio gwirfoddolwyr yn unig, rydym yn gweithio i newid y systemau sy’n cefnogi gwirfoddoli drwy ddatblygu llwybrau arwain, cryfhau rhwydweithiau cymunedol ac adeiladu capasiti clybiau a sefydliadau i ddenu, cadw a chefnogi gwirfoddolwyr yn y tymor hir.
Trwy’r dull hwn, rydym wedi helpu i symud diwylliant gwirfoddoli yn y sector awyr agored o ddibyniaeth ar ychydig unigolion i fodel cynaliadwy dan arweiniad cymunedau. Yn 2025–26, cefnogodd 838 o arweinwyr gwirfoddol dros 7,000 o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored cymunedol, gan gyfrannu tua £2.5 miliwn o werth cymdeithasol i’w cymunedau. Drwy wreiddio gwirfoddoli o fewn seilwaith awyr agored lleol, rydym yn creu newid hirdymor sy’n galluogi cymunedau i arwain, datblygu a chynnal cyfleoedd awyr agored yn annibynnol.