Dewch i ymuno â thîm CARU ERYRI!
Mae “Caru Eryri” yn cael ei redeg ar y cyd gan Barc Cenedlaethol Eryri, Y Bartneriaeth Awyr Agored, Cymdeithas Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’n rhaglen gwirfoddoli sy’n rhoi cyfleoedd i wirfoddoli yn yr awyr agored, gan wneud gwahaniaeth ymarferol yn y Parc Cenedlaethol.
Rydym yn trefnu sifftiau mewn lleoliadau penodol sy’n cael eu harwain gan arweinydd cymwys a phrofiadol. Mae gwirfoddolwyr yn ymuno fel grwpiau bach, yn mwynhau diwrnod allan dan arweiniad ar lwybrau mynydd, ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd naturiol; felly cyfle i gael diwrnod da allan yn y mynyddoedd a gwneud rhywbeth da yn y broses!
Ar ddiwrnod arferol, mae’r grŵp yn cerdded ar hyd llwybr penodol, dan arweiniad. Dewch yn barod i fod yn yr awyr agored am y diwrnod, mewn dillad addas a dewch â phecyn bwyd a diod.
Y nod yw darparu presenoldeb mewn ardaloedd a llwybrau poblogaidd ar Yr Wyddfa, a mannau poblogaidd eraill o fewn y Parc, lle gallwn gynghori ymwelwyr a chlirio unrhyw sbwriel sydd i’w weld. Rydym yn darparu’r holl offer sydd ei angen ar gyfer hyn.
Nid oes angen i chi fod yn gerddwr profiadol i ymuno, ond bydd angen i chi allu cerdded ar hyd llwybrau a thirwedd amrywiol a bod ar eich traed am oddeutu 5 awr.
Mae’r teithiau cerdded i gyd yn deithiau cerdded lefel isel, ac mae’r cyflymder yn hamddenol!
Trefnir shifftiau ar ddydd Gwener/dydd Sadwrn/dydd Sul bob wythnos, ac fel arfer maent rhwng 9:00 a 15:00.
Gall gwirfoddolwyr gofrestru drwy ein system ar-lein, a gellir ymrwymo cyn gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch!
Rydym yn rhedeg sifftiau mewn gwahanol leoliadau: Llanberis, Ogwen, Nant Gwynant ac Abergwyngregyn.
Mae croeso i unrhyw un dros 18 oed ymuno efo ni, a bydd angen cyrraedd lleoliad y shifft yn annibynol.
Mae gennym dudalen Facebook sy’n rhoi mwy o wybodaeth: Caru Eryri – Hafan | Facebook
Os ydych chi eisiau ymuno, cofrestrwch yma:
Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu gweld yr holl leoedd a dyddiadau lle gallwch wirfoddoli ac arwyddo i fyny i shifftiau Caru Eryri.
Bydd grwpiau Caru Eryri allan drwy’r haf, tan ddiwedd mis Medi.
Os gallwch ymuno â ni am 1 shifft neu 10 shifft – mae croeso i bawb ofalu am Eryri!