Cefnogi Cymunedau
Rydym yn gwybod faint o waith gwych mae clybiau yn ei wneud i ddarparu cyfleoedd i bobl yn eu cymuned gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn rheolaidd.
Gwyddom hefyd fod yr holl waith hwn yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr.
Ein nod yw helpu’r clybiau a’r gwirfoddolwyr hyn.
Os hoffech i’ch clwb ymaelodi â ni yn y Bartneriaeth Awyr Agored, gallwn gynnig amrediad o gefnogaeth.
Aelodaeth Cyffredinol:
Rydym yn annog unrhyw glwb gweithgareddau awyr agored sy’n cynnig darparaieth rheolaidd i bobol leol, i ymuno â ni. Mae’n rhad ac am ddim! Bydd angen i glwb gwblhau ffurflen arlein (ewch i waelod y dudalen) yn rhoi manylion am y clwb. Wedi ymaelodi, bydd y manylion yn ymddangos ar ein gwefan, a bydd y clwb yn derbyn gwybodaeth a chefnogaeth ganddom.
Fel clwb cysylltiedig â’r Bartneriaeth Awyr Agored, byddwch yn elwa o’r canlynol:
- Cyngor a chefnogaeth gan eich swyddog datblygu rhanbarthol ar y canlynol; Strwythur a llywodraethu clybiau, Cyngor ar ffynonellau ariannu a recriwtio a chadw gwirfoddolwyr, Cyngor ar hyfforddiant a chyrsiau, Canllawiau ar gynwysoldeb (e.e. achredu Insport)
- Hyrwyddo eich clwb a’ch digwyddiadau am ddim ar ein gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol
- Bydd gan bob clwb un bleidlais yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
- Mynediad i wirfoddolwyr i gyrsiau Diogelu/Safeguarding – cyrsiau sy’n cael eu cyflwyno yn rhithiol
Aelodaeth Cyffredinol gyda Cymorth Addysgu Hyfforddwyr (Uwchradd):
Ar rai adegau mae angen gan glybiau i’w gwirfoddolwyr fynychu cyrsiau i helpu gyda’u rôl yn y clwb. Gallwn roi cymorth ariannol i wirfoddolwyr yn eich clwb fynychu cyrsiau penodol. I fod yn gymwys am hyn, bydd angen i’r clwb gael Aelodaeth Cyffredinol gyda cymorth Addysgu Hyfforddwyr. Mae cost o £150 y flwyddyn am yr aelodaeth yma.
Os yn dewis yr opsiwn yma o aelodaeth, byddwn yn sicrhau gwerth £500 o gymorth o fewn y cyfnod aelodaeth blwyddyn (Ebrill i Fawrth). Bydd unrhyw geisiadau dros y swm hwn yn ddibynnol ar ein cyllid. Gofynnwn i glybiau felly flaenoriaethu eu ceisiadau, yn seiliedig ar anghenion y clwb.
*Mae’n rhaid i glwb fod yn aelodau gyda’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol eu gweithgaredd i allu ymaelodi gyda Y Bartneriaeth Awyr Agored.
Bydd angen i bob clwb ddilyn ein proses pan yn ymgeisio am gymorth i’w gwirfoddolwyr; cwblhau ffurflen Ymgais am Gymorth ar ran gwirfddolwyr. Ceir hyn i’r ffurflen yn eich proffil clwb ar ôl i’r ffi aelodaeth (£150) gael ei dalu.
Mae’r broses yn addas ar gyfer cefnogi gwirfoddolwyr unigol ar gyrsiau fel mae’r galw yn digwydd. Os mai cael nifer fawr o wirfoddolwyr eich clwb i wneud yr un cwrs ar yr un pryd yw’r galw, rydym yn awgrymu ffynhonellau gwahanol i ariannu rhain.
*Gall clybiau optio i mewn ac allan o’r opsiwn hwn yn flynyddol yn dibynnu ar eu hangen am gymorth addysgu hyfforddwyr.
Os ydy eich clwb yn mynd am yr opsiwn yma, bydd yn elwa o’r canlynol:
- Cyngor a chefnogaeth gan eich swyddog datblygu rhanbarthol ar y canlynol; Strwythur a llywodraethu clybiau, Cyngor ar ffynonellau ariannu a recriwtio a chadw gwirfoddolwyr, Cyngor ar hyfforddiant a chyrsiau, Canllawiau ar gynwysoldeb (e.e. achredu Insport)
- Hyrwyddo eich clwb a’ch digwyddiadau am ddim ar ein gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol
- Bydd gan bob clwb un bleidlais yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
- Mynediad i wirfoddolwyr i gyrsiau Diogelu/Safeguarding – cyrsiau sy’n cael eu cyflwyno yn rhithiol
A HEFYD
- Gallwch ymgeisio am gefogaeth ariannol i wirfoddolwyr fynychu cyrsiau
- Byddwn yn sybsideiddio pris cyrsiau fel mai dim ond £20 y dydd y mae gwirfoddolwyr yn ei dalu
- Mae angen i wirfoddolwyr ddod o hyd i’r cwrs eu hunain, ac archebu eu lle eu hunain ar y cwrs (gellir gwirio os ydyw yn gwrs y gallwn ei gefnogi drwy weld y rhestr isod)
- Dylient archebu lle amodol i ddechrau
- Os ydym yn gallu cefnogi y gwirfoddolwr, byddwn ni yn talu am gost y cwrs yn llawn, drwy anfoneb, yn union i’r darparwr. Mae’r gwirfoddolwr yn talu cyfraniad o £20 y dydd yn union i ni
- Bydd y clwb yn enwebu un person i fod yn gyfrifol am bob cais ar ran y clwb a’r holl wirfoddolwyr