Mae gwerth cymdeithasol yn cyfeirio at yr effaith hirdymor sydd gan sefydliad ar bobl a lleoedd, gan helpu cymunedau i fod yn iachach, yn fwy cysylltiedig ac yn fwy gwydn.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Mantell Gwynedd i wreiddio gwerth cymdeithasol drwy’r sefydliad. Ein nod yw cynhyrchu adroddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) ar gyfer pob un o’n rhaglenni craidd yn flynyddol, gan ddangos y buddion a’r gwerth yr ydym yn ei roi i fywydau’r bobl yr ydym yn eu cefnogi a’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt.
Bydd canlyniadau’r adroddiadau hyn yn cael eu dosbarthu trwy ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a thrwy ein wefan.
Rydym hefyd yn gobeithio gallu creu adroddiadau SROI i ddangos i’n partneriaid ariannu y gwerth yr ydym yn ei gyflawni mewn cymunedau ledled y DU.