Ffurfiwyd y Bartneriaeth Awyr Agored (YBAA) yn 2004 i fynd i’r afael â diffyg cysylltiad yn sector awyr agored Gogledd Orllewin Cymru lle nad oedd llawer o gyfleoedd i bobl leol gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
Ers hynny, rydym wedi gweithio ar nifer o raglenni a phrosiectau sy’n ceisio goresgyn y rhwystrau sy’n bodoli i bobl leol yng Ngogledd Orllewin Cymru i gymeryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored lleol.
Erbyn 2015 cydnabuwyd gwaith y Bartneriaeth Awyr Agored fel enghraifft o arfer da.
Roedd galw cynyddol am ein cymorth a’n harbenigedd gan ardaloedd eraill yng Nghymru ac yn 2018 sicrhaodd y Bartneriaeth Awyr Agored grant gan “y Loteri Fawr -Pawb a’i Le” i ymestyn ein gwaith i bob rhanbarth yng Nghymru:
- Gogledd Cymru
- Canolbarth Cymru
- rhanbarth Bae Abertawe
- Gwent
- Canolbarth De Cymru
Dilynwyd hyn yn 2019 gyda chynnig grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (Portffolio’r DU) a oedd yn ein galluogi i estyn ein gwaith i feysydd eraill yn y DU.
Lloegr:
- Arfordir Cumbria
- arfordir Gogledd Swydd Efrog
- Plymouth
- Coventry
yr Alban:
- Swydd Ayr
Gogledd Iwerddon:
- De-ddwyrain (Dinas Armagh, Banbridge a Craigavon, Ards a North Down, Newry, Morne a Down)
- Y Sperrins (ANOB O fewn rhannau o Causeway Coast & Glens, Derry & Strabane, Fermanagh & Omagh a Mid Ulster)