Rydym wedi dechrau gweithio gyda’r unigolion cyntaf ar y rhaglen Llwybrau i Waith yng Nghanolbarth Cymru diolch i sylfaenydd “Manzoku Climbing” –  cwmni y mynyddwr Andy Cummings.

I ddathlu fod y cwmni wedi ei sefydlu ers 25 mlynedd, mae Andy yn awyddus i roi cyfle unigryw i bobol ifanc lleol gael cyfleoedd i weithio yn y maes, ac felly  rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar raglen datblygu hyfforddeion ifanc am gyfnod o 6 mis. Bydd yr hyfforddeion yn dilyn rhaglen sy’n cynnig digon o gyfleoedd hyfforddi, cysgodi a DPP, ac maent yn edrych ymlaen yn arw amdani!

Dewch i gwrdd â rhai o’r criw:

Steph - y recriwt 1af!

Mae Steph yn ddringwr brwd eisoes ac mae’n awyddus i ddatblygu o fewn y diwydiant. Daethom i nabod Steph am y tro cyntaf pan fynychodd gwrs “Hill Skills” y Bartneriaeth Awyr Agored fel rhan o raglen “Gaeaf o Lês” nôl ym mis Chwefror.
“Fy enw i yw Steph Chaplin a chefais fy magu mewn teulu “awyr agored” ym Mannau Brycheiniog. Oherwydd fy magwraeth, rwy’n angerddol am yr awyr agored a gweithgareddau anturus. Rwy’n ddringwr brwd, ac yn mwynhau diwrnodau hir allan yn crwydro’r mynyddoedd. Rwyf hefyd yn mwynhau gweithgareddau anturus eraill fel caiacio, SUP, ogofau a beicio mynydd. Rwy’n Llysgennad Ieuenctid y DU ar gyfer DofE ac yn Warden Ieuenctid ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Rwy’n gobeithio un diwrnod i weithio yn yr awyr agored, ac ysbrydoli mwy o bobl ifanc i gymryd rhan.
Drwy gymryd rhan yn y rhaglen hon, rwy’n gobeithio adeiladu ar fy hyder personol fy hun yn gweithio gydag eraill, yn ogystal â sgiliau personol, a byddwn wrth fy modd yn ysbrydoli eraill ryw ddydd i fynd i mewn i’r awyr agored. I helpu gyda hyn, hoffwn ennill cymwysterau dringo a cherdded, a fydd yn cynorthwyo yn fy ngyrfa yn yr awyr agored yn y dyfodol.
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ennill profiad o weithio gydag ystod eang o wahanol bobl, yn ogystal ag ennill rhagor o wybodaeth am weithio yn yr awyr agored.”

Ein recriwt nesaf - Elin!

“Fy enw i yw Elin Fflur Jones ac fe ges i fy magu yng nghanol Eryri, felly rydw i wedi tyfu i fyny wedi fy amgylchynu gan dirweddau cyfoethog a gwerthfawrogiad o’r awyr agored! Deilliodd fy nghariad at yr awyr agored o dyfu i fyny mewn amgylchedd lle dylanwadodd fy rhieni arnaf i werthfawrogi’r amgylchedd naturiol; yn gwneud hynny trwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored.
Rwyf wastad wedi mwynhau cerdded a dringo’r mynyddoedd yn Eryri, fodd bynnag, ers symud i Gaerfyrddin ac astudio at radd mewn Addysg Antur Awyr Agored ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rwyf wedi gallu gwerthfawrogi Bannau Brycheiniog ac arfordir Sir Benfro.
Rwy’n mwynhau gweithio gyda ac ysbrydoli plant a cefais gyflawni hyn drwy weithio yng Ngwersyll yr Urdd Glan-Llyn dros yr haf. Credaf y bydd cymryd rhan yn y rhaglen hwn yn fy ngalluogi i adeiladu ar y sgiliau personol a thechnegol sydd eu hangen i hyrwyddo dysgu plant yn yr awyr agored. Bydd ennill fy ngwobrau dringo ac arwain mynydd  yn caniatáu i mi weithio gyda ac ysbrydoli plant a hefyd i weithio gydag unrhyw un a hoffai gymryd rhan!”