mask
Speaks Welsh
Contact
Arweiniodd ei waith cynnar fel dyn cynnal a chadw mewn canolfan yn y 1970au at yrfa dros 40 mlynedd yn yr awyr agored, gan ddylanwadu ar ddegau o filoedd o bobl ifanc, oedolion a gweithwyr proffesiynol. Roedd Paul yn Gynghorydd Addysg Awyr Agored i nifer o awdurdodau lleol ac yn rheolwr ar wasanaeth addysg awyr agored mawr. Yn ogystal â'i gyfraniad proffesiynol, mae'n un o sylfaenwyr y Bartneriaeth Awyr Agored ac ar hyn o bryd yn Gadeirydd.

Mae Paul wedi cadeirio’r Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored (OEAP), Mountain Training Cymru, ac mae wedi bod yn gadeirydd rhanbarthol ar gyfer Cymdeithas Penaethiaid Canolfannau Addysg Awyr Agored (AHOEC). Mae’n gyn-ymddiriedolwr sefydlu’r Cyngor Dysgu y Tu Allan i’r Dosbarth a helpodd i ddatblygu Bathodyn Ansawdd LOtC a Marc LOtC ar gyfer ysgolion. Bu hefyd yn ymddiriedolwr y Cyngor Astudiaethau Maes am 7 mlynedd a hyd at haf 2022, roedd yn llywodraethwr ar ysgol uwchradd fawr a oedd yn ymroddedig i ddysgu awyr agored. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys bod yn un o awduron gwreiddiol Canllawiau Cenedlaethol ar gyfer yr OEAP ac yn aelod o bwyllgor AAIAC. Yn gredwr cadarn mewn dysgu gydol oes, mae Paul wedi dysgu Cymraeg ac wedi cwblhau M.Add. ym Mhrifysgol Bangor yn 2000. Mae hefyd wedi bod yn rhan o’r grwpiau datblygu ar gyfer APIOL ac LPIOL ac mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Dysgu Awyr Agored.

 mask
Paul Airey
Cadeirydd / Cyfarwyddwr Gweithrediadau & Rheoli Risg
Mae gan Faye brofiad o weithio mewn rolau amrywiol o fewn iechyd a lles dros gyfnod o 15 mlynedd. O gampfeydd, atgyfeirio i ymarfer corff ac adferiad, yn ogystal â llesiant yn y gweithle a gofal cymdeithasol ac yn fwyaf diweddar, datblygiad iechyd meddwl cymunedol ar draws De Cymru Mae Faye wedi bod wrth ei bodd yn yr awyr agored ers cwblhau ei gwobr Aur Dug Caeredin yn yr ysgol ac aeth ymlaen i gwblhau ei hyfforddiant arweinydd mynydd yn ogystal â gweithio fel hyfforddwr rhedeg llwybrau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Faye wedi gweithio fel partner cyflenwi o fewn rhanbarthau Gwent a Phowys yn cyflwyno sesiynau Cyflwyniad i Redeg ym Mannau Brycheiniog a'r Mynyddoedd Duon. Mae Faye yn angerddol am gefnogi pobl i'r awyr agored beth bynnag fo'u diddordeb. Yn ei hamser hamdden mae Faye yn rhedwraig llwybrau brwd sy'n mwynhau rhedeg a rasio dros bellteroedd amrywiol, boed hynny ar ei llwybrau lleol neu ymhellach i ffwrdd. Mae Faye hefyd wrth ei bodd yn mynd allan i archwilio gyda'i chŵn, mae teithiau cerdded dyddiol mewn mannau gwyrdd yn rhan bwysig o'i lles dyddiol.
 mask
Faye Johnson
Aelod dros Iechyd a Lles - (Aelod Cyfetholedig)
Mae Jo yn fam i ddau o hogia' gyda gwahanol anableddau gan gynnwys awtistiaeth a defnyddiwr cadair olwyn. Mae hyn wedi rhoi'r angerdd a’r ysfa iddi sicrhau bod gweithgareddau a darpariaeth gynhwysol yn beth cyffredin ac yn rhan o fywydau pobl anabl.

Pum mlynedd yn ôl, mi sefydlodd hi a’i gŵr Glwb Rhwyfo Môr Conwy, sef clwb rhwyfo cynhwysol sydd bellach wedi llwyddo i gyrraedd Gwobr Arian Insport. Mae ei swydd o fewn y clwb yn amrywio o ysgrifennydd i swyddog lles, gan wneud nifer o bethau ychwanegol!

Mae Jo hefyd yn ymwneud â phwyllgor Clwb Hwylio Penmaenmawr gan hyrwyddo darpariaeth gynhwysol ac mae hefyd wedi’i hethol yn gadeirydd Sgïo Anabledd Cymru. Mae’n ymgeisio i weithio ei gorau gyda’r clybiau, gan gydweithio’n agos â’r aelodau.

Mae hi’n mwynhau’r awyr agored, ac fel teulu, maent yn cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau fel cerdded bryniau, dringo, syrffio, hwylio, beicio mynydd, gwersylla a llawer mwy. Maent wedi arfer meddwl tu allan i’r bocs ynglŷn â mynd â’r gadair olwyn i wahanol lefydd! Mae ganddynt ethos diffuant i rannu gwybodaeth a phrofiadau er mwyn gwella’r ddarpariaeth gynhwysol yn yr awyr agored.

 mask
Jo Owen
Cyfrifol am Gynhwysiad
Mae Joan Edwards yn Gyfrifydd Siartredig Cymwys gyda 25 mlynedd o brofiad mewn amrywiaeth o sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae hi hefyd yn gydberchennog ar Bryn Bella, llety ‘gwyrdd’ sydd wedi ennill gwobrau, ym Metws y Coed.

Mae Joan yn gyn ymddiriedolwr Sefydliad Achub Dyffryn Ogwen ac Elusendai Llanrwst. Mae hi’n mwynhau nifer o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys rhedeg (mae hi wedi rhedeg Marathon Eryri ddwywaith), beicio, dringo, cerdded a threiathlon.

 mask
Joan Edwards
Cyfrifol am Gyllid

Mae Leah yn arwain ymgynghoriaeth adnoddau dynol yn Ngogledd Cymru, ac mae ei hangerdd tuag at bobl wedi galluogi iddi adeiladu a datblygu busnes sydd wedi ennill gwobrau. Mae ganddi dros 18 mlynedd o brofiad mewn Adnoddau Dynol, gan weithio ochr yn ochr â chyfarwyddwyr neu hyfforddeion y cwmni, gan ymgysylltu â staff waeth beth fo’u huchelder i ddyfeisio a gweithredu strategaethau sy’n cyflawni canlyniadau busnes arobryn.

 mask
Leah Watkins
Cyfrifol am Adnoddau Dynol
Mae Paul wedi bod yn rhan o’r Bartneriaeth Awyr Agored ers ei sefydliad yn 2004. Cafodd ei ethol fel aelod cysylltiedig yn 2009 a bu’n gadeirydd rhwng 2010-2015, ac arweiniodd y Bartneriaeth Awyr Agored at fod yn gwmni elusennol.

Mi gymhwysodd fel athro yng ngholegau Loughborough yn 1971. . Yn 1973 fe symudodd o’r byd addysg i’r diwydiant hamdden gan reoli theatrau, canolfannau hamdden a phyllau nofio. Fe symudodd i Ogledd Cymru yn 1986 gan weithio yno am 23 mlynedd nes iddo ymddeol fel Pennaeth Hamdden a Datblygu Cymunedol i Gyngor Conwy. Mae ganddo Wobr Arweinydd Mynydd yn ogystal â Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Loughborough.

Rhwng 1977 a 1991, bu’n cyfeiriannu ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol a bu’n gapten Cyfeiriannu Cymru am gyfnod. Mae hefyd wedi cynrychioli gwledydd Prydain yn y TREC. Bu ganddo nifer o ddiddordebau dros y blynyddoedd gan gynnwys rhedeg ar y mynydd, dringo, mynydda gaeafol, a bu’n aelod o’r Tîm Achub Mynydd. Bellach mae o a’i wraig Jenni yn berchen ar dyddyn ym Metws yn Rhos ac yn cadw ceffylau a defaid prin.

 mask
Paul Frost
Cyfrifol am Lywodraethu

Daw arbenigedd masnachol a marchnata Margaret o 20 mlynedd o reoli cyllidebau cynhyrchu incwm mawr a dylunio strategaethau ariannu tymor hir ym maes yr hosbis. Gan ddechrau ar godi arian ar lawr gwlad, mae Margaret wedi datblygu ei gyrfa yn y gilfach hon ac ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Masnachol Hosbis Dewi Sant, Gogledd-orllewin Cymru.
Ei phrif angerdd y tu allan i’r gwaith yw dringo mynyddoedd ac yn gyffredinol bod yn yr awyr agored. Mae hi’n Arweinydd Mynydd cymwys ac yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser rhydd yn cynllunio teithiau ac anturiaethau newydd ac yn annog pobl i fod y tu allan gymaint â phosib. Mae Margaret yn eiriolwr enfawr dros y Bartneriaeth Awyr Agored, a nod yr elusennau. Ymunodd â’r bwrdd ym Medi 2021.

 mask
Margaret Hollings
Cyfrifol am Masnachol a Marchnata
Aeth Stuart i’r môr yn 1985 gan wasanaethu yn y Llynges Frenhinol a’r Llynges Fasnach. Mi dreuliodd 10 mlynedd yn gweithio mewn dyfroedd polar gydag Arolwg Antartig Prydain gan gynnwys treulio’r gaeaf fel Swyddog Cwch yn stesion ymchwil Rothera. Mi gafodd ei dystysgrif capten yn 1994 ac mi fu’n gapten ar long gyflym.

Yn dilyn hyn, aeth Stuart i weithio mewn maes rheoli llongau ac ymgynghoriaeth morol, gan gymryd cyfarwyddiadau gan yswirwyr llongau a chyfreithwyr yn bennaf, ond hefyd yn gweithio mewn logisteg forol a datblygu porthladdoedd. Ym 2016 symudodd yn nes at adref i weithio gyda’r RNLI lle mae’n awr yn Reolwr Achub Bywyd yn ardaloedd Ynys Môn a Phen Llŷn.

Gan iddo adael yn 16 i fynd ar y môr, astudiodd Stuart y gyfraith fel myfyriwr hŷn, gan raddio gyda gradd Baglor yn y Gyfraith yn 2008. Mae’n ddysgwr Cymraeg brwdfrydig ac yn ymddiriedolwr ar Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon.

Mae Stuart yn hoff o sgwba blymio, padlo mewn caiac môr ac yn aml iawn yn cludo byrddau syrffio i’w blant.

 mask
Stuart Wallace
Cyfrifol am Weithredradau Cyfreithiol