Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio gyda chlybiau, ysgolion, unigolion ac arbenigwyr i gynyddu cyfleoedd i bobl yng Ngwent gyflawni eu potensial drwy weithgareddau awyr agored, cyfranogiad gweithredol, gwirfoddoli, hyfforddiant ac addysg.

Brett Mahoney - Swyddog Gweithgareddau Awyr Agored Gwent
Brett yw ein Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored yng Ngwent. Mae wedi’i leoli’n rhithiol (ond gallwch ddod o hyd iddo yn bennaf yn rhedeg yn y mynyddoedd neu’n dringo ar graig!) ac mae’n gweithio yn ardaloedd Casnewydd, Sir Fynwy, Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn ardal Gwent trwy ddilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Brett a Phartneriaeth Awyr Agored Gwent:
Instagram: @OutdoorPartnershipGwent
Twitter: @BrettMahoney90
Facebook: Brett Mahoney | Facebook
Beth ydym wedi ei gyflawni hyd yn hyn?
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi bod yn weithgar yn rhanbarth Gwent ers Gorffennaf 2021. Dyma rai o’n cyflawniadau hyd yma:

Antur y Ferch Hon
- Rydym wedi lansio ein rhaglen Antur y Ferch Hon yn ardal Gwent!
- Hyd yn hyn, mae’r rhaglen wedi rhoi’r cyfle i ferched, genethod a phobl anneuaidd i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau awyr agored gan gynnwys dringo creigiau, nofio gwyllt, ogofa, rhedeg a beicio mynydd.

Antur i Bawb
- Mae ein rhaglen Antur i Bawb wedi rhoi’r cyfle i bobl sydd â chyfyngiadau symudedd a chyflyrau niwroamrywiaeth gael mynediad at amrywiaeth o weithgareddau awyr agored
- Rydym wedi darparu gweithgareddau canŵio, beicio, ogofa a dringo creigiau cynhwysol yn yr ardal, gyda llawer mwy o gyfleoedd i ddod!

Addysg Hyddorddwyr
- Mae ein Rhaglen Addysg Hyfforddwyr wedi cefnogi gwirfoddolwyr anhygoel mewn clybiau awyr agored yng Ngwent.
- Rydym wedi darparu cyllid i wirfoddolwyr i uwchsgilio a chyflawni cymwysterau CLlC i ddatblygu eu clybiau o fewn y gymuned a gwella cyfranogiad llawr gwlad mewn chwaraeon awyr agored.

Cyfranogiad ar Lawr Gwlad
- Yn ogystal â’n rhaglenni ffurfiol, rydym wedi darparu cyfleoedd i bobl o bob oed a gallu i gael mynediad at weithgareddau awyr agored yng Ngwent.
- Mae’r gweithgareddau wedi amrywio o ogofa, beicio mynydd a dringo creigiau, i wersylla gwyllt, cerdded ceunentydd a choedwriaeth.

Awyddus i gymryd rhan?
Os hoffech chi ddarganfod mwy neu os ydych yn rhan o glwb gweithgareddau awyr agored sydd am gymryd rhan, cysylltwch â Brett ar 07706737013 neu brett.mahoney@partneriaeth-awyr-agored.co.uk
“”