Mae ein Rhaglen Datblygu Clybiau yn cefnogi clybiau cymunedol sy’n darparu gweithgareddau awyr agored ledled Cymru a’r rhanbarthau yn y DU lle rydym yn gweithredu. Dros y 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi helpu i greu a chryfhau clybiau cynaliadwy dan arweiniad cymunedau, gan alluogi pobl leol i gymryd perchnogaeth o ddarpariaeth awyr agored yn eu hardaloedd.
Mae ein dull yn canolbwyntio ar newid systemau, gan ddatblygu’r gwirfoddolwyr, yr arweinyddiaeth, y partneriaethau a’r capasiti sefydliadol sydd ei angen i glybiau ffynnu’n annibynnol. Trwy greu gweithlu gwirfoddol cryf ac ymgorffori gweithgarwch awyr agored o fewn cymunedau lleol, rydym wedi helpu sefydlu strwythurau hirdymor sy’n parhau i ddarparu cyfleoedd, gwella lles ac atgyfnerthu gwydnwch cymunedol ymhell ar ôl i’r gefnogaeth gychwynnol ddod i ben.